Coleg oedd y 'cam cywir' ar ysgol yrfa uchelgeisiol Ellie
Mae Ellie Granton wedi cael dyrchafiad bum gwaith mewn dim ond ychydig flynyddoedd i ddod yn uwch-reolwr mewn cwmni recriwtio blaenllaw - ac mae'n dweud mai Coleg Menai oedd y dechrau perffaith
Mae Ellie Granton, sy'n uwch-reolwr mewn cwmni recriwtio mawr yn priodoli ei llwyddiant gyrfa i'r sylfaen a gafodd yng Ngholeg Menai.
Mae'r cyn-fyfyriwr 29 oed o'r Felinheli yn gweithio i Hays, gan arwain tîm o ymgynghorwyr ledled gogledd-orllewin Lloegr.
Dechreuodd y cyfan i Ellie wrth iddi gwblhau cwrs Astudiaethau Busnes Lefel 3 yng Ngholeg Menai ym Mangor o 2012-14.
Ers hynny, mae hi wedi ennill gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol, wedi ymuno â Hays fel ymgynghorydd graddedig, ac wedi cael dyrchafiad bum gwaith mewn dim ond ychydig flynyddoedd i'w rôl bresennol.
Meddai Ellie wrth sôn am ei chyfnod yn y coleg: “Y peth gorau am y cwrs oedd yr amrywiaeth o fodiwlau a'r holl aseiniadau gwahanol. Mae'r ffordd o addysgu yn y coleg yn wahanol i'r ysgol, ac rwyt ti'n cael mwy o annibyniaeth.
“Hefyd, rhoddodd gyfle i mi gwrdd â grŵp newydd sbon o bobl na fyddwn i erioed wedi cwrdd â nhw oni bai am y cwrs.”
Ychwanegodd Ellie: “Un semester, cawsom y cyfle i fynd i Frwsel am ychydig ddyddiau ac ymweld â Senedd Ewrop.
“Roedd yn brofiad mor anhygoel, ac roedd yn un o’r troeon cyntaf i mi fod mewn gwlad lle nad Saesneg oedd y iaith gyntaf heb fy nheulu. Heb os, mi wnaeth y daith datblygu fy hyder a’m gallu i lywio sefyllfaoedd a senarios ar fy mhen fy hun.
“Mae profiadau o'r fath yn sylfaen ar gyfer bywyd, fel wrth symud i’r brifysgol a theithio ar eich pen eich hun.”
Dywedodd Ellie fod ei hamser yng Ngholeg Menai wedi rhoi’r sylfaen berffaith iddi symud ymlaen i’r brifysgol, gan ychwanegu: “Fe wnaeth y cwrs BTEC mewn busnes fy helpu yn y brifysgol yn bendant. Yn gyntaf, o ran pwyntiau UCAS a gefais, ac hefyd i roi dealltwriaeth dda i mi o'r maes a beth fyddai'r modiwlau craidd.
“Roedd mynd i'r coleg yn teimlo fel y peth iawn i mi - gadael yr ysgol ond yn dal ati i gael addysg a gweithio tuag at yrfa. Mi fyddwn i'n sicr yn argymell y cwrs yma yng Ngholeg Menai!”
Ydych chi eisiau llwyddo mewn busnes? Mae cwrs Astudiaethau Busnes Lefel 3 Grŵp Llandrillo Menai yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd - gan gynnwys rheolaeth, cyllid, y gyfraith, manwerthu ac adnoddau dynol