Michelle yn cyrraedd pedwar olaf gwobr Darlithydd y Flwyddyn
Mae Michelle Jones o Goleg Llandrillo wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr newydd Concept Hair ar ôl i'w myfyrwyr ei synnu gyda'u henwebiad
Mae darlithydd o Goleg Llandrillo, Michelle Jones, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol ar ôl i'w myfyrwyr ei henwebu'n ddistaw bach.
Mae Michelle, sy'n dysgu trin gwallt ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ymhlith y pedwar olaf yng Ngwobr Darlithydd Gwallt y Flwyddyn Concept Hair, a ddenodd geisiadau o bob cwr o'r DU.
Caiff wybod os mai sy'n fuddugol yn Seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Coleg Concept Hair yn Solihull, ger Birmingham, ddydd Iau 22 Mai.
Bob blwyddyn mae Cylchgrawn Concept Hair yn cynnal cystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn', lle mae myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai wedi profi llwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fodd bynnag, dyma'r tro cyntaf i'r cylchgrawn gynnal seremoni ar wahân ar gyfer addysgwyr eithriadol yn y gymuned trin gwallt creadigol a gwaith barbwr.
“Roedd yr holl fyfyrwyr yn dweud y dylwn i ymgeisio,” meddai Michelle, a gafodd sioc o gyrraedd y rhestr fer. “Rydw i wrth fy modd yn gweld y myfyrwyr yn cystadlu gan fy mod i'n gwybod faint roeddwn i’n gwerthfawrogi cystadlaethau o'r fath pan oeddwn i’n iau, ond rydw i'n fwy hapus i fod yn y cefndir, yn eu helpu nhw.
“Felly doeddwn i ddim am roi fy enw ymlaen, ond fe wnaethon nhw hynny beth bynnag! Mi ddaethon nhw i gyd at ei gilydd a rhoddodd pob un datganiad bach amdanaf i yn y ffurflen enwebu. Roedd hynny'n braf iawn.
“Cefais sioc o gael yr e-bost yn dweud fy mod i wedi cyrraedd y pedwar olaf, gan fy mod i'n gwybod bod cystadleuaeth ffyrnig ym maes trin gwallt.
“Ond roeddwn i wedi fy llethu’n fwy gan yr hyn roedd y myfyrwyr wedi’i ysgrifennu a’r ffaith eu bod nhw wedi’i gwneud hyn i mi. Roedd gwybod bod y gwaith caled rydyn ni'n ei wneud yn cael ei werthfawrogi, a'u bod nhw'n gwerthfawrogi'r amser rydyn ni'n ei gymryd i drafod pethau a'u cefnogi nhw, yn braf iawn.”
Gwnaeth myfyrwyr Michelle hefyd gynnwys enghreifftiau o'i deunyddiau addysgu yn eu cais ar gyfer y gystadleuaeth, yn ogystal â chanmoliaethau gan gyn-ddysgwyr, ei chyd-ddarlithwyr trin gwallt a hyd yn oed ei rheolwr.
Roedd Heather Wynne, sy'n astudio Trin Gwallt Lefel 3 ac wedi ennill sawl gwobr ei hun, yn un o'r dysgwyr a helpodd i baratoi cais Michelle.
Meddai: “Mae Michelle wedi mynd yr ail filltir i’m helpu i a’m cefnogi drwy gydol fy amser yn y coleg. P'un a ydy hi'n fy nghyfeirio at ofal plant, fy ngyrru i lawr i Lundain ar ei diwrnod i ffwrdd ar gyfer clyweliad, fy annog i gystadlu mewn amryw o gystadlaethau, neu fy ngwthio i'm galluogi i gyflawni pethau mwy a gwell - dydw i erioed wedi dod ar draws tiwtor sydd mor garedig ac angerddol am ei dysgwyr â Michelle.”
Enillodd Kayleigh Blears, myfyrwraig ar gampws y Rhyl, y categori steilio Lefel 2 yn rownd derfynol Dysgwr Gwallt y Flwyddyn y DU, Concept Hair, yn gynharach eleni.
Meddai: “Mae Michelle wedi fy ysgogi a’m hannog drwy gydol y flwyddyn, gan fy nhrin fel un o’i myfyrwyr hi er nad ydw i’n fyfyriwr yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae ganddi lygaid graff wrth wneud gwallt mewn cystadlaethau ac mae'n rhoi cyngor gwych. Mae Michelle yn diwtor gofalgar iawn ac yn mynd yr ail filltir i'w myfyrwyr.”
Dywedodd y gyn-fyfyrwraig Meredith Coulton: “Roedd Michelle yn un o'r prif resymau i mi adael y coleg yn teimlo’n hyderus. Roedd hi'n anhygoel wrth fy helpu i ddechrau fy musnes fy hun yn barod i rentu cadair. Er fy mod i wedi gorffen y cwrs erbyn hyn, mae hi'n dal yn hapus i'm helpu i a chynnig ei harbenigedd a'i chefnogaeth. Diolch am bopeth Michelle!”
Ydych chi eisiau gweithio ym maes trin gwallt, barbwr neu therapi harddwch? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu hyfforddiant mewn salonau o'r radd flaenaf gan ddefnyddio'r technegau a'r cynhyrchion diweddaraf. Dysgwch ragor yma.