Cydnabod llwyddiant dyfarnwyr ifanc mewn seremoni ym Mharc Eirias
Mae deugain o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi ennill cymwysterau dyfarnu eleni ac wedi dyfarnu dros 1,300 o gemau rhyngddynt trwy bartneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, RGC a Chymdeithas Dyfarnwyr Undeb Rygbi Gogledd Cymru
Cafodd myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai eu cydnabod am ennill cymwysterau dyfarnu Undeb Rygbi Cymru mewn seremoni arbennig ym Mharc Eirias.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25, mae 40 o ddysgwyr o Goleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor wedi cymhwyso i ddyfarnu ar wahanol lefelau o'r gêm.
Daw hyn yn sgil partneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Undeb Rygbi Cymru (WRU), Rygbi Gogledd Cymru (RGC) a Chymdeithas Dyfarnu Undeb Rygbi Gogledd Cymru (NWSRUR).
Yn ystod y flwyddyn, mae'r myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau chwaraeon, wedi dyfarnu mwy na 1,300 o gemau rhyngddynt. Roedd y rhain yn cynnwys gwyliau ysgolion cynradd yr Urdd, cystadlaethau ysgolion uwchradd RGC (gan gynnwys y rowndiau terfynol), gemau dan 15 oed academi RGC a gemau cymunedol ar gyfer grwpiau oedran.
Daeth eu cwrs i ben gyda chyfle i ddyfarnu yn rowndiau terfynol Cwpan Cymunedol RGC, a gynhaliwyd ym Mharc Eirias dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Mai. Yn y gystadleuaeth, ar gyfer timau oedran clwb, gwelwyd y dysgwyr yn rhoi eu sgiliau ar waith mewn gemau tyngedfennol o flaen torf o dros 6,000 o wylwyr dros y pedwar diwrnod.
Enillodd pob un o'r 40 dysgwr eu cymhwyster Lefel 1, cyflawnodd saith Lefel 2, ac enillodd un Lefel 3 - y cymhwyster sydd ei angen i ddyfarnu ar lefel uwch.
I nodi eu cyflawniadau, cawsant eu gwahodd i wylio rowndiau terfynol cystadleuaeth tîm dynion RCG o'r ystafell groeso ym Mharc Eirias, lle cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar ôl diwedd y twrnamaint.
Cyflwynodd pob un o'r sefydliadau partner a oedd yn rhan o'r rhaglen ddyfarnu wobr i un myfyriwr, gyda'r enillwyr fel a ganlyn:
- Dyfarnwr NWSRUR y flwyddyn: Joseph Ryder
- Gwobr WRU, 'Wedi gwneud y cynnydd gorau': Caio Thomas
- Gwobr RGC am Ddyfarnu yn y gymuned: Aron Roberts
- Gwobr 'Arwr Tawel' Grŵp Llandrillo Menai: Euros Williams
- Cydnabyddiaeth Arbennig: Pob un o'r uchod ynghyd â Dylan Bufton, George Clemence, Corin Jones, Owain Jones, Sam Mansell, Dave Owen, Dylan Owen, Jamie Owen a Joseph Wall.
Derbyniodd yr holl enillwyr docyn hefyd i wylio gêm ryngwladol tîm rygbi Cymru.
Cyflwynwyd y cyrsiau gan Ollie Coles, Grŵp Llandrillo Menai / Swyddog Ymgysylltu Rygbi WRU, a Sean Brickell, Rheolwr Dyfarnwyr Cymunedol WRU.
Yn ystod eu cyfnod yn dyfarnu gemau yn ystod y flwyddyn academaidd, datblygodd y myfyrwyr eu sgiliau dyfarnu ac ennill profiad ymarferol o weithio mewn amgylchedd chwaraeon i ategu eu cyrsiau coleg a'u paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Defnyddiodd llawer eu profiad ar gyfer agwedd gymunedol eu cymhwyster Bagloriaeth Cymru, a datblygodd pob un ohonynt sgiliau bywyd pwysig fel sut i wneud penderfyniadau dan bwysau, sgiliau cyfathrebu a rheoli pobl, a meithrin hyder a hunan-barch.
Dywedodd Ollie Coles: “Mae ein rhaglen dyfarnwyr wedi bod yn enghraifft wych o effaith gadarnhaol Swyddogion Hwb WRU.
Mae pob un o'r dysgwyr sydd wedi ymgysylltu â’r rhaglen wedi bod yn llysgenhadon rhagorol i’w coleg ac wedi gweld budd unigol mawr ohoni. Roedd yn bleser gallu cydnabod a dathlu eu cyflawniadau ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn parhau i dyfu yn y dyfodol.”
Dywedodd Tim Hoare, Hyfforddwr a Swyddog Datblygu Dyfarnwyr WRU/RGC: “Mae rhaglen dyfarnwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn llwyddiant ysgubol, wedi’i rheoli’n dda iawn gan Ollie Coles a’i chefnogi gan y coleg.
“Mae safon y dyfarnu ac agwedd y cyfranogwyr wedi bod yn rhagorol ac yn hwb mawr i gynyddu nifer ac ansawdd y dyfarnwyr o fewn ardal RGC.”
Dywedodd Paul Hughes, Cadeirydd NWSRUR: “Rydym wedi cefnogi datblygiad y dyfarnwyr hyn drwy ddarparu citiau dyfarnu, ynghyd â chefnogaeth hyfforddi i’r rhai a oedd am symud i’r lefel nesaf yn eu gyrfa ddyfarnu. Mae hyn wedi gweld myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cael eu penodi i ddyfarnu gemau Cynghrair Cenedlaethol WRU.
Mae Cymdeithas Dyfarnwyr Rygbi Gogledd Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi rhaglen dyfarnwyr myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai i ddatblygu swyddogion gemau a helpu i hwyluso rygbi yng Nghymru, gan ganiatáu i’r myfyrwyr gyflawni eu hamcanion dyfarnu hefyd.
Hoffem ddiolch i’r holl staff a rheolwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai am hwyluso’r rhaglen dyfarnwyr ar gyfer myfyrwyr.”