Cyfnod Matthew yn y coleg yn arwain at wledd o arlwyo a chriced
Llwyddodd y cyn-fyfyriwr 21 oed i ennill rhagoriaeth yn ei ddiploma Gwasanaeth Bwyd Proffesiynol yng Ngholeg Llandrillo, ac mae'n hyfforddi criced anabledd ar ôl chwarae i lefel uchel
Mae Matthew Kennedy wedi magu hyder sylweddol yn ystod ei bum mlynedd yng Ngholeg Llandrillo - ac mae bellach yn edrych ymlaen at yrfa ym maes lletygarwch yn ogystal â hyfforddi criced i bobl anabl.
Enillodd Matthew Ragoriaeth yn ei gwrs Diploma Lefel 3 mewn 'Gweini Bwyd a Diod - Goruchwylio' yr haf yma, wedi iddo ddechrau ei daith yn y coleg yn yr adran Sgiliau Byw'n Annibynnol yn ystod y pandemig.
Mae'r dyn 21 oed o Hen Golwyn wedi cael diagnosis o Anhwylder yn Natblygiad y Cydsymud, Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth a Syndrom Gorsymudedd y Cymalau. Pan gofrestrodd yn y coleg roedd yn ansicr o'i hun ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ac roedd am fagu hyder tra'n dilyn cwrs TGAU Saesneg.
Ar ôl blodeuo yn ystod ei ddwy flynedd ar y
rhaglen Sgiliau Byw'n Annibynnol - ac ennill gradd C yn ei TGAU Saesneg -
teimlai Matthew ei fod yn barod i ddilyn ei freuddwyd o weithio ym maes arlwyo.
Aeth ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 1 mewn Lletygarwch, gan fwynhau llwyddiant mewn cystadlaethau coginio. Yn y pen draw cwblhaodd gymhwyster Lefel 3, a olygodd iddo gael profiad yn helpu i reoli bwyty'r coleg - Orme View. Canmolwyd ei angerdd, ei broffesiynoldeb a'i arweinyddiaeth gan ei diwtoriaid.
Dywedodd ei fam, Debra: “Mi wnaeth y ddwy flynedd ar y cwrs Sgiliau Byw'n Annibynnol fyd o les i hyder Matthew, ac mi roedden nhw'n sylfaen dda iawn i’w baratoi ar gyfer ei Lefel 1 yn yr adran arlwyo. Ers hynny mae o wedi mynd ymhell tu hwnt i 'nisgwyliadau i, ac mae gorffen gyda Rhagoriaeth yn anhygoel.”
Canmolodd Matthew ei ddarlithwyr lletygarwch, yn enwedig Mike Garner a Glennydd Hughes, gan ddweud: “Dw i wedi dysgu llawer ganddyn nhw, ac roedden nhw’n gefnogol iawn. Ro'n i'n gwybod y gallwn i fynd i siarad hefo nhw os oedd gen i broblem, ac mi fydden nhw'n helpu, neu'n addasu rhywbeth, er mwyn i mi allu cario 'mlaen hefo fy astudiaethau.”
Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, enillodd Matthew gymwysterau mewn Cymhwyso Rhif, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd hefyd.
Dywedodd Debra: “Pan ddechreuodd Matthew yn y coleg, roedd ei sgiliau mathemateg ar lefel gradd E/F, ac roedd o'n cael trafferth gyda gwahanol bethau gan gynnwys dweud faint o'r gloch oedd hi, a thrin arian.
“Drwy gydol ei gyfnod yn y coleg, mae wedi cwblhau ei Gymhwyso Rhif, gan fynd o Lefel Mynediad 3 i Lefel 1, a chwblhau Lefel 2 yn rhannol. Mae o hefyd wedi cwblhau Llythrennedd Digidol Lefel 2, a Lefel 2 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd. Mae'r gefnogaeth y mae o wedi'i chael gan y tiwtoriaid sgiliau wedi bod yn wych ac mae wedi cyflawni cymaint mwy na'r disgwyl. Bydd y cymwysterau Sgiliau Hanfodol yma yn caniatáu iddo ddatblygu a chyflawni yn ei yrfa arlwyo yn y dyfodol.”
Y tu allan i'r coleg, mae Matthew yn chwarae i Adran Criced Gallu Cymysg Gogledd Cymru (MACS), gan gystadlu ar lefel sirol y Super 9s yn erbyn timau fel Swydd Efrog, Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer.
Yn 2022, ar ddiwedd eu tymor cyntaf yn y gystadleuaeth, dyfarnwyd capiau Cymru iddo ef a gweddill y tîm gan Griced Cymru, ar ôl iddyn nhw drechu’r ods trwy gyrraedd y rownd derfynol yn erbyn tîm oedd wedi'i sefydlu ers peth amser o Swydd Efrog.
Matthew oedd y wicedwr gorau o unrhyw dîm yn y gystadleuaeth eleni, a sgoriodd ambell i 50 hefyd - y nifer uchaf o rediadau sengl mewn criced anabledd.
Wedi chwarae ers pan yn 11 oed, dros y pedair blynedd ddiwethaf mae Matthew wedi bod yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gamp drwy hyfforddi sesiynau criced i bobl anabl gyda Ffit Conwy, diolch i'r hyder newydd a fagodd yn y coleg.
Dywedodd Debra: “Mae’r sesiynau’n gynhwysol iawn - maen nhw’n addas ar gyfer pobl ag ystod eang o anableddau. Felly mae hyfforddi'r amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen yn dipyn o gamp.”
Gyda'i gyfnod yn y coleg wedi dod i ben - am y tro, o leiaf - mae Matthew bellach yn gweithio yn No25 Bar and Bistro yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae ganddo amser hefyd i'w dreulio ar un arall o'i ddiddordebau - adfer hen injan lonydd, ac mae'n gobeithio gallu ei chyflwyno mewn sioeau amaethyddol yn y flwyddyn nesaf.
Meddai Matthew: “Dw i’n barod am seibiant o’r coleg rŵan er mwyn i mi allu canolbwyntio ar bethau eraill, ond ella y bydda i'n ôl yn y dyfodol!”