Ethol Llywyddion Newydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer 2025/26
Bydd Bethan James, Somadina Emmanuel-Chukwudi, Troy Maclean a Heather Spencer yn gweithio i roi llais i fyfyrwyr ac i gyfoethogi eu profiadau yn y coleg
Mae llywyddion newydd Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 wedi cael eu hethol.
Y llywyddion newydd yw Bethan James (Coleg Llandrillo), Somadina Emmanuel-Chukwudi (Coleg Menai), Troy Maclean (Coleg Meirion-Dwyfor) a Heather Spencer (Addysg Uwch).
Bydd y cynrychiolwyr newydd yn rhoi llais i fyfyrwyr campysau'r Grŵp ac yn gweithio i gyfoethogi eu profiadau yn y coleg.
Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud am gael eu dewis i gynrychioli eu cyd-ddysgwyr:
Bethan James (Coleg Llandrillo)
Mae Bethan ar ail flwyddyn ei chwrs Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ac yn ei blwyddyn gyntaf roedd yn Llysgennad i'r Coleg Cymraeg.
Mae Bethan wedi ymrwymo i barhau i hyrwyddo'r Gymraeg, cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru sef elusen y Grŵp am eleni, a gwella profiadau'r dysgwyr tra byddant yn astudio yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Dywedodd Bethan: “Peth arall yr hoffwn ei wneud yw annog myfyrwyr i ganolbwyntio mwy ar eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol.
“Rydw i am helpu'r myfyrwyr i gael y profiadau gorau posibl yn y coleg drwy gyfrannu at wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn i'r coleg fod yn lle difyr a diogel iddyn nhw fod ynddo.”
Somadina Emmanuel-Chukwudi (Coleg Menai)
Mae Somadina ar ail flwyddyn ei chwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Llangefni. Mae hi wedi ymrwymo i roi rhagor o gyfleoedd i ddysgwyr gael eu clywed, i hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac i annog rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid. Mae hi hefyd yn addo gweithio'n agos gyda'r cynrychiolwyr dosbarth a bod yn bwynt cyswllt gweladwy i ddysgwyr.
Meddai Somadina: “Rydw i'n credu'n gryf mewn creu amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol i bob myfyriwr.
"Coleg Menai ydi fy mhrofiad cyntaf o addysg yn y Deyrnas Unedig, ac rydw i wedi bod yn ffodus i ddod o hyd i amgylchedd diogel, croesawgar ac anfeirniadol. Mae'r profiad hwn wedi fy ysbrydoli i roi rhywbeth yn ôl i gymuned y coleg ac i helpu myfyrwyr eraill i deimlo eu bod i gyd yn cael eu cefnogi, eu cynnwys a'u gwerthfawrogi.
“Fy nod yw sicrhau bod yr holl fyfyrwyr, waeth beth fo'u cefndir neu'u profiad, yn teimlo eu bod yn perthyn, bod ganddyn nhw lais, a'u bod nhw'n mwynhau eu hamser yn y coleg.”
Troy Maclean (Coleg Meirion-Dwyfor)
Dilyn cwrs Sgiliau Bywyd a Gwaith ar gampws Dolgellau mae Troy a dyma ei ail dymor fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus iawn.
Nod Troy yw parhau i wella llesiant ac iechyd meddwl myfyrwyr, a hyrwyddo amgylchedd mwy cefnogol lle gall yr holl fyfyriwr deimlo'n gyfforddus wrth drafod materion yn gysylltiedig â'u cwrs. Mae hefyd eisiau gweithio i wella safon a lleihau costau bwyd ar y campysau.
Dywedodd: “Dw i'n mwynhau bod yn llais i'r dysgwyr. Mi hoffwn i gefnogi pawb tra dw i yn y coleg yn ogystal â gwrando ar eu barn a'u syniadau.”
Heather Spencer (Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai)
Heather is in the final year of her BA (Hons) Degree in Culinary Arts Management at the Rhos-on-Sea campus, and will continue as HE Student President.
Heather did an excellent job last year, especially in supporting the new HE Student Council. She pledged to enhance mental health support, and to raise awareness of the resources already available to learners, including counselling.
She said: “Currently, we have mental health staff available, but many students may not be aware of their presence. Raising awareness about these resources is crucial.
Heather said events such as “workshops, guest speakers and social gatherings”, would “strengthen the college community, helping students feel connected even when facing mental health challenges”.
Grŵp Llandrillo Menai’s Student Enrichment Officer Aaron Beacher said:
“I would like to congratulate Bethan, Somadina, Troy and Heather on their success in obtaining their posts for the 2025/2026 academic year.
“I would also like to thank all the applicants who put themselves forward for these roles. Those candidates who were not successful this time are encouraged to participate in voluntary roles within the Student Union to support the presidents, where they will be a great asset.
“Grŵp Llandrillo Menai is also recruiting class representatives, who are a vital part of the organisation. Class representatives communicate directly with the Student Union team and attend Learner Voice Panels to ensure learners contribute positively to the ongoing development of their course, campus and overall college experience.”
For more information about Grŵp Llandrillo Menai’s Student Union, please email studentunion@gllm.ac.uk or undebymyfyrwyr@gllm.ac.uk or visit gllm.ac.uk/college-life/student-life/student-union