Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr o Goleg Menai'n arwain hwb drama newydd Cwmni Da

Ers astudio celfyddydau perfformio yn y coleg mae Martin Thomas wedi cyfarwyddo a chynhyrchu Deian a Loli, y rhaglen boblogaidd i blant sydd wedi ennill gwobrau di-ri, ac ar ei CV hefyd mae rhaglenni fel Rownd a Rownd a Phobol y Cwm

Dywed Martin Thomas, y cyfarwyddwr llwyddiannus ac arweinydd hwb drama newydd Cwmni Da, mai Coleg Menai a roddodd y sylfaen iddo ar gyfer llwyddo yn ei yrfa.

Mae Martin wedi cael ei benodi i arwain adran newydd y cwmni teledu o Gaernarfon sy'n eiddo i'r gweithwyr.

Ei dasg fydd sicrhau bod rhaglenni drama o safon uchel yn cael eu cynhyrchu yng ngogledd Cymru, fel rhan o gynllun ehangu i ddiogelu a chreu swyddi yn y cwmni teledu ac i roi hwb i'r diwydiant yn yr ardal.

Meddai Martin: “Mae’n bwysig iawn cael drama wedi’i hangori yn y gogledd – mae cymaint o arbenigedd a thalent yma ac mae yna straeon gafaelgar y mae angen eu hadrodd am ogledd Cymru gan bobl gogledd Cymru.”

Ar ôl dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai, chwaraeodd Martin ran y cyn-garcharor Eifion yn Rownd a Rownd ac aeth ymlaen i fod yn un o gyfarwyddwyr yr opera sebon boblogaidd.

Mae wedi gweithio i Cwmni Da fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd llawrydd am ddegawd - a bu’n rhan fawr o lwyddiant y gyfres ffantasi i blant Deian a Loli, a enillodd lu o wobrau, gan gynnwys hat-tric o wobrau BAFTA Cymru.

Ers ymddangos mewn sioe gerdd pan oedd yn 12 oed mae Martin hefyd wedi cyfarwyddo penodau o Pobol y Cwm, ac wedi gweithio mewn amrywiol swyddi ar ddwy ochr y camera.

“Mi ges i a'n ffrind Emyr Gibson ran mewn sioe o'r enw Tri Dau Un yn Eisteddfod yr Urdd,” meddai. “Mi gawson ni'n dau ran yn y sioe, a dyna danio ein diddordeb mewn actio.”

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ymddangosodd Martin, sy’n hanu o Ddeiniolen, yn y gyfres ddrama Traed Mewn Cyffion ar S4C cyn dilyn y cwrs Diploma Cenedlaethol mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai.

“Ro'n i ac Emyr yn arfer teithio i Fangor ar fy moto-beic 50cc melyn – unrhyw beth am ychydig o annibyniaeth," meddai. “Mi wnes i fwynhau fy nwy flynedd yng Ngholeg Menai'n fawr iawn. Mi gawson ni hwyl a rhyddid i fod yn greadigol. Roedd y tiwtoriaid yn awyddus i ni fynegi ein hunain yn y gweithdai a'r dramâu roedden ni'n eu gwneud.

“Roedd o'n teimlo fel rhyw fath o gwmni drama lle'r oeddech chi'n cael cyfle i ysgwyddo cyfrifoldebau gwahanol. Roeddech chi'n cael syniad da o sut mae cwmni'n gweithio o ran y gwahanol rolau sydd yna.

“Roedden ni'n gwneud pob math o wahanol gynyrchiadau – panto, dramâu ysgafn a thrwm – roedden ni'n gweithio gyda fformatau gwahanol, a thrwy hynny'n dod i wybod beth oedd ein cryfderau a'n gwendidau ni. Roedd yna theori a strwythur y tu ôl i'r cyfan, felly roedden ni'n gallu dysgu beth oedd drama, theatr, actio, a pherfformio. Roedd yn sylfaen ardderchog i bopeth a dweud y gwir.”

Ar ôl gadael y coleg yng nghanol y 90au cafodd Martin ran yn y ddrama Parc ar S4C. Bu'n gwneud ychydig o waith theatr ac yn gweithio mewn ffatri cyn cael clyweliad llwyddiannus i ymddangos ar Rownd a Rownd a mynd ymlaen i chwarae rhan Eifion am chwe blynedd.

Ar Rownd a Rownd dechreuodd Martin ddysgu gan gyfarwyddwyr y sioe, ac roedd yn awyddus i ehangu ei sgiliau ar gyfer y dyfodol.

⁠Dyma arweiniodd at ei yrfa'n cyfarwyddo a chynhyrchu – ei gyngor i unrhyw un sydd am ddilyn llwybr tebyg yw “peidio byth â rhoi'r gorau i ddysgu”.

“Mae popeth yn symud yn gyflym iawn yn y diwydiant yma, felly eich cyfrifoldeb chi ydi dysgu eich hun,” meddai. “Dewch o hyd i rywle a fydd yn eich helpu chi i ddatblygu'n greadigol.

“Dyna sut y dechreuais i gyfarwyddo. Mi wnes i ofyn am gael cysgodi'r cyfarwyddwr, ac yn y pen draw ro'n i'n ddigon lwcus i gael cynnig pennod. Mi aeth hynny'n dda, felly mi ges i wedyn gynnig tair pennod, ac mi ddatblygodd petha o hynny.

“Mae creu cysylltiadau a chael perthynas dda efo pobol yn bwysig. Mae angen i chi allu dod ymlaen efo'r bobol rydach chi'n gweithio efo nhw. Fy nghyngor i ydi: Cadw'ch pen i lawr, gweithio'n galed, a gwneud gymaint o gysylltiadau â phosib.”

Yn ddiweddar cyfarwyddodd Martin ddwy bennod o’r gyfres ddrama yng Nghaernarfon, STAD, a fydd yn cael eu dangos ar S4C cyn diwedd y flwyddyn, ac mae bellach yn canolbwyntio ar ei swydd newydd gyda Cwmni Da.

“Roedd y cynnig i arwain y ganolfan ddrama newydd yn Cwmni Da yn syrpreis enfawr ond braf iawn,” meddai.

“Mae potensial enfawr i ddatblygu rhywbeth cyffrous iawn. Os ydi cewri fel Netflix, Amazon a HBO yn dod i ogledd Cymru i ffilmio, yn sicr gallwn ddefnyddio’r lleoliadau hynny i greu drama o safon uchel i S4C a darlledwyr eraill.

“Mae’n wych bod Cwmni Da yn dangos cymaint o bositifrwydd trwy fuddsoddi mewn drama a chynnwys wedi’i sgriptio, boed yn ffilmiau byrion, ffilmiau hirach, cyfresi drama, dramâu annibynnol – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

“Mae drama a chynnwys wedi’i sgriptio yn cwmpasu sbectrwm eang – popeth o ddramâu i blant a drama a chomedi sy’n cael eu gyrru gan y gymuned a chymeriadau i straeon ditectif safonol a ffilmiau hirach. Rydyn ni eisiau rhyddhau ein hegni a’n creadigrwydd i wneud rhywbeth arbennig iawn.”

Gobaith Martin yw y bydd y gwaith o fantais i'r genhedlaeth nesaf o actorion, ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr: “Mae'n rhaid i chi wybod bod 'na rywbeth o fewn cyrraedd. Mae Llundain, Hollywood a'r llefydd yna'n teimlo'n fawr ac ymhell bell i ffwrdd.

“Yr uchelgais ydi creu gwaith yn yr ardal, adrodd straeon yr ardal, a phortreadu cymeriadau mae pobl yn cydymdeimlo â nhw ac yn eu hadnabod. Rydyn ni am gael ffrwd barhaus o straeon gwych am Gymru yn cael eu hadrodd gan leisiau gwych o Gymru.”

Wyt ti eisiau gweithio yn y diwydiant Celfyddydau Perfformio? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysga ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date