Kieran a Ryan yn agor cwrt pêl-fasged cymunedol newydd
Gwahoddwyd y brodyr, sy'n gyn-fyfyrwyr o Goleg Menai, i agor y cwrt newydd yn dilyn eu llwyddiant mewn parachwaraeon
Yn ddiweddar, agorodd y cyn-fyfyrwyr o Goleg Menai, Kieran a Ryan Jones, gwrt pêl-fasged cymunedol newydd gyda'r gobaith o helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddilyn eu breuddwydion chwaraeon.
Mae Kieran yn anelu i ennill lle yng nghystadleuaeth taflu pwysau F34 yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles 2028, tra bod ef a'i frawd iau, Ryan, ill dau eisoes wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-fasged cadair olwyn.
Gofynnwyd iddynt agor y cwrt newydd yn y Fali, Ynys Môn, sef eu pentref genedigol, ar ôl i'r cyngor cymuned lleol gysylltu â nhw am syniadau am sut i ailddatblygu'r gofod.
Dywedodd Kieran: “Mi wnaethon nhw gysylltu â ni i ofyn beth fyddem ni’n ei argymell ar gyfer y gymuned, a dywedais i, beth am gwrt pêl-fasged?
“Mae chwaraeon wedi newid fy mywyd ac mae’n bwysig dechrau cymryd rhan ar lefel llawr gwlad. Dw i'n 23 oed rŵan, ond doedd dim byd tebyg i hwn yn agos pan oeddwn i'n tyfu i fyny. Roedd rhaid i mi deithio i bobman ac roedd rhaid archebu cwrt - felly mae'n wych bod hwn ar gael yn lleol.”
Yn ddiweddar, enillodd Kieran, a astudiodd Hyfforddiant Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Menai, deitl taflu pwysau F34 Prifysgolion Prydain ac ef yw pencampwr presennol Cymru. Collodd y cyfle i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Paris y llynedd, ar ôl cael trafferth ar ôl i'w hyfforddwr farw'n annisgwyl, ond mae'n gobeithio cymhwyso ar gyfer LA ymhen tair blynedd.
“Doeddwn i'm yn canolbwyntio nag yn ymdrechu cystal, ond rydw i’n ôl ar y trywydd iawn erbyn hyn,” meddai. “Y nod yw cyrraedd LA; mi fyddai hynny'n anhygoel.”
Mae hefyd yn paratoi i ddychwelyd i chwarae pêl-fasged cadair olwyn gyda'r Cardiff Archers, ar ôl cymryd saib o'r gamp am ychydig flynyddoedd. Roedd Kieran yn gapten ar dîm dan-15 Cymru pan oedd yn ifancach cyn iddo gynrychioli ei wlad ar lefel uwch.
Ar hyn o bryd mae Ryan yn chwarae i'r North Wales Knights, a bu'n chwarae ochr yn ochr â'i frawd hŷn i dîm Cymru dan 15 a dan 18.
“Roedd hynny’n wych i’r teulu,” meddai Kieran. “Dw i’n meddwl mai dyna’r tro cyntaf i ddau frawd chwarae gyda’i gilydd dros Gymru mewn pêl-fasged cadair olwyn.”
Mae ganddo ef a Ryan hereditary spastic paraplegia (HSP), anhwylder niwrolegol etifeddol prin sy'n achosi gwendid cynyddol yng nghyhyrau'r cluniau a'r coesau. Mae gan eu tad - chwaraewr pêl-fasged talentog yn ei ieuenctid - y cyflwr hefyd.
Buodd y ddau frawd yn astudio yng Ngholeg Menai ar gampws Llangefni, gyda Kieran yn astudio o 2020-22, tra bod Ryan wedi cwblhau ei astudiaethau mewn Trin a Thrwsio Cerbydau Ysgafn y llynedd.
Dywedodd Kieran am ei gyfnod yn y coleg: “Roedd y cwrs yn wych, ac roedd y staff hyd yn oed yn well. Roedden nhw'n gefnogol ac yn addasol iawn yn y sesiynau.
“Jenny Davies oedd fy nhiwtor personol, ac oherwydd ei bod hi’n chwaraewraig rygbi rhyngwladol ac yn hyfforddwraig, roedd hi’n deall ac yn barod iawn i helpu os oedd angen i mi hyfforddi neu os oedd gen i gystadlaethau.
“Roedden nhw’n wych gyda Ryan hefyd - fe wnaethon nhw sicrhau ei fod yn gallu trwsio cerbydau ac mae ganddo rai straeon da o’i gyfnod yn y coleg.”
Mae Kieran bellach yn astudio ar gyfer BSc mewn Hyfforddiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Dychwelodd adref ar ôl cwblhau ei flwyddyn gyntaf er mwyn torri'r rhuban ar y cwrt pêl-fasged newydd gyda Ryan ym Mharc Mwd, ar ran Cyngor Cymuned y Fali.
Yn yr agoriad swyddogol, diolchodd cadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Neil Tuck, i'r rhanddeiliaid a gefnogodd y prosiect - a oedd yn cynnwys cymorth i sicrhau cyllid grant gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, Dŵr Cymru, a Chynghrair Bro Llynnoedd.
Diolchodd hefyd yn arbennig i GL Jones, adeiladwyr y prosiect, a Lagan Aviation Infrastructure Ltd, a ddarparodd yr holl seilwaith yn rhad ac am ddim fel rhodd i'r gymuned.
Roedd Swish Coaching Ltd hefyd yn y seremoni, gan ddarparu sesiwn hyfforddi am ddim i bobl ifanc.
Mae Kieran yn hynod falch y bydd plant y gymuned yn elwa o'r cwrt newydd, ac yn gobeithio y bydd ei daith ei hun yn helpu i ysbrydoli eraill i gyflawni eu nodau.
Ychwanegodd: “O ystyried faint o rwystrau rydw i wedi’u hwynebu, faint o weithiau rydw i wedi crio gyda'n rhieni… mae rhwystrau’n eich gwneud chi’n gryfach, ond mae rhwystrau yno i’w torri, nid i’ch atal chi. Mae'n rhaid i chi wthio eich hun i gyflawni'r hyn rydych chi ei eisiau a dal ati."
Ydych chi eisiau cael gyrfa yn y byd chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.