Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo'n Croesawu 350 o blant ar gyfer Her Ynni Adnewyddadwy

Bydd y disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol yn dysgu am bŵer gwynt, ynni cinetig, argraffu 3D a llawer rhagor ac yn cystadlu i adeiladu ceir model wedi'u pweru gan yr haul

Bydd Coleg Llandrillo yn croesawu mwy na 350 o blant o'r Rhyl a Phrestatyn i ddatblygu eu sgiliau mewn Her Ynni Adnewyddadwy.

Bydd disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau STEM hwyliog yn y ganolfan beirianneg newydd ar gampws y Rhyl, fel rhan o fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Yr her fydd adeiladu car wedi'i bweru gan yr haul a bydd cyfle i ennill pecynnau gweithgareddau i'w hysgolion.

Dechreuodd y prosiect gyda disgyblion o Ysgol Emmanuel, Ysgol Gynradd Sir Christchurch ac Ysgol Dewi Sant, a bydd Ysgol Uwchradd Prestatyn ac Ysgol Uwchradd y Rhyl yn cymryd rhan dros yr wythnosau nesaf.

Dechreuodd disgyblion Blwyddyn 6 eu diwrnod drwy adeiladu tyrbinau gwynt llai a'u defnyddio i bweru ceir bach.

Gyda chymorth prentisiaid RWE sy'n dilyn cyrsiau yn y cyfleuster hyfforddi tyrbinau gwynt y coleg, fe wnaeth y plant adeiladu'r tyrbinau o becyn, a defnyddio ffaniau i bweru'r batris cysylltiedig.

Roedd modd wedyn i ddatgysylltu'r batris oddi wrth y tyrbinau a'u gosod yn y ceir, ac roedd y ceir wedyn yn defnyddio'r ynni a storiwyd i deithio ar y trac.

Dysgodd y plant hefyd am egni cinetig drwy adeiladu traciau roedd modd eu haddasu i rasio ceir weindio arnynt. Yna yn y prynhawn, cafodd y plant gyfle i weld dylunio a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur ar waith yng nghyfleuster argraffu 3D y coleg.

Ac i gloi'r diwrnod dangoswyd iddynt sut mae ceir trydan yn gweithio mewn ceir Tesla a Nissan Leaf.

Dywedodd Harriet Davidson, darlithydd peirianneg o Goleg Llandrillo, arweinydd gweithgareddau’r diwrnod: "Mi wnaeth y plant ymateb yn wych i'r gweithgareddau. Roedd pob agwedd yn eithaf gwahanol i'w gilydd, yr adeiladu neu edrych yn fanwl ar geir, ac mi wnaethon nhw ddangos brwdfrydedd ym mhob sesiwn.

"Mae'r adborth o'r diwrnod wedi bod yn dda iawn - mae rhai o’r plant wedi dweud eu bod nhw eisiau bod yn beirianwyr, ac mae cwpl wedi gofyn am bris prynu'r citiau tyrbin gwynt er mwyn gallu adeiladu un gartref. Ac wrth gwrs mae pob un eisiau car Tesla hefyd!

“Mae angen mwy o beirianwyr arnom, ac mae angen annog mwy o ferched i faes peirianneg. Mae dechrau yn ennyn diddordeb yr oedran yma'n ffordd wych o gynnal eu brwdfrydedd yn y pynciau perthnasol yn yr ysgol. Mae'n agor llygaid y plant i beirianneg, a'r cyfleoedd posib sydd ar gael iddyn nhw yn y maes."

Dywedodd Jack Parry Jones, athro yn Ysgol Emmanuel: “Rydw i a'r athro blwyddyn chwech arall yn cytuno bod heddiw wedi bod yn ddiwrnod anhygoel i'r plant.

"Maen nhw wedi mwynhau'n arw, ac mae'r cwbl wedi cael ei drefnu mor dda. ⁠Roedd y darn cloi, gyda'r car Tesla, yn uchafbwynt dw i'n meddwl! Mae'r plant wedi gwrando'n astud ar y darlithwyr ac wedi mwynhau bob eiliad.

"Mae ambell un o'r plant wedi dweud eu bod nhw eisiau dod i'r coleg i ddilyn cwrs peirianneg, maen nhw wedi gweld pa fath o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw."

Meddai Tim Peel, rheolwr peirianneg Coleg Llandrillo: “Rydym wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i greu rhaglen gweithgareddau ynni adnewyddadwy er mwyn ymgysylltu â’r ysgolion.

"Bydd dros 350 o ddisgyblion pum ysgol leol yn dod i'r coleg i ddysgu am ynni cinetig, ynni gwynt, cerbydau trydan ac argraffu 3D, ac yn cael cyfle i adeiladu car solar.

“Mae’r ganolfan beirianneg newydd yma yn y Rhyl wedi’i hadeiladu i gyflwyno'r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant yng ngogledd Cymru. Mae ymgysylltu â dysgwyr yn ifanc yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael ym maes peirianneg, ac yn benodol, y sector ynni adnewyddadwy, sector sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n hanfodol i ddyfodol pob un ohonom."

Mae canolfan beirianneg y Rhyl, gwerth £13m, a ariennir gan 'Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy' Llywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai, yn gyfleuster o'r radd flaenaf sydd â chyfarpar i ddarparu profiad dysgu o'r radd flaenaf mewn meysydd gan gynnwys peiriannu CNC ar raddfa fawr, roboteg, prototeipio cyflym a rhagor.

Datblygwyr cyfleusterau hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy mewn partneriaeth â chwmni ynni rhyngwladol RWE. Mae'r ganolfan yn cynnwys neuadd i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, ac yn ganolfan hyfforddi i brentisiaid RWE sydd wedi'u lleoli ar safleoedd ynni ar draws y DU.

Hoffech chi ddysgu rhagor am y byd peirianneg cyffrous ac arloesol? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau o Lefel 1 i lefel Gradd. Darllenwch ragor yma

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date