Lansio cwrs Tystysgrif Lefel 7 yr ILM mewn Rheoli ac Arwain Strategol yng Ngogledd Cymru
Bellach gall y rhai sydd â'u bryd ar fod yn arweinwyr strategol yng ngogledd Cymru ennill cymhwyster lefel uchel yn lleol ym maes arweinyddiaeth gan fod Busnes@LlandrilloMenai wedi ehangu ei ddewis o gyrsiau i gynnwys Tystysgrif Lefel 7 yr ILM mewn Rheoli ac Arwain Strategol.
Mae'r criw cyntaf newydd ddechrau'r cwrs gyda sesiwn lansio wyneb yn wyneb yng nghanolfan hyfforddi newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy. Roedd y diwrnod yn cynnwys sesiwn gan Geraint Hughes, y gŵr busnes o ogledd Cymru a sefydlodd Bwydydd Madryn ac sy'n cynhyrchu'r brand creision Jones.
Dros y misoedd nesaf, bydd y dysgwyr yn cael gwersi ar-lein ac yn defnyddio eu sgiliau i ymdrin â mater strategol yn eu sefydliad. Daw'r rhaglen i ben ym Mawrth 2026 gyda chyflwyniadau terfynol.
Oherwydd y galw am y cwrs, bydd Busnes@LlandrilloMenai yn cynnal ail gwrs rhwng Ionawr a Gorffennaf 2026.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa fel arweinydd strategol gysylltu â Gaenor Roberts, Arweinydd y Rhaglen ILM Lefel 7 ar gaenor.roberts@gllm.ac.uk