Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyhoeddi mai colegau'r Grŵp yw'r rhai cyntaf yng Nghymru i fod yn rhan o'r cynllun 'Digital Schoolhouse'

Cynllun gan y diwydiant i gefnogi ysgolion yw Digital Schoolhouse ac fe'i noddir gan gwmnïau cyfrifiadura byd-eang fel PlayStation®, Electronic Arts, SEGA, Ubisoft ac Outright Games.

Ei fwriad pennaf yw annog pobl ifanc i ymuno â'r maes cyfrifiadureg, a bydd staff Grŵp Llandrillo Menai'n anelu at wneud hyn drwy addysgu disgyblion ysgol mewn ffordd hwyliog a diddorol gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf - un ai yn eu hystafelloedd dosbarth neu ar gampws y coleg. Mae'r gweithdai cyfrifiadura dyfeisgar hyn wedi'u hanelu at ysgolion ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig.

Mae Digital Schoolhouse, ar y cyd â Nintendo, yn defnyddio dull unigryw sy'n gyfuniad o ddysgu drwy chwarae a gweithgareddau arloesol er mwyn ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf o ddisgyblion ac athrawon yn y cwricwlwm cyfrifiadura. Mae ymchwil seiliedig ar dystiolaeth yn greiddiol i'r rhaglen ac, ar y cyd ag addysg yrfaol sy'n torri tir newydd, mae'n llwyddo i bontio'r bwlch rhwng addysg a diwydiant.

Dywedodd tiwtor Datblygu Gemau Coleg Llandrillo, Rob Griffiths, sydd wedi ennill gwobr BAFTA: "Mae gennym ni'r holl offer arbenigol sydd eu hangen i helpu plant i ddysgu. Gallwn hyfforddi plant cynradd ac uwchradd, un ai yn eu hysgolion eu hunain neu yma yn y coleg. Gallwn gyfrannu at eu datblygiad yn y cwricwlwm o fewn ychydig fisoedd yn unig. Bydd y cynllun hefyd yn cryfhau'r cysylltiadau da sydd gan y coleg eisoes gyda diwydiant."

Darperir y cynllun Digital Schoolhouse gan UKie, corff masnach diwydiant gemau'r DU, ac fe'i cefnogir gan y diwydiant gemau fideo a'r llywodraeth.

Gwefan: www.gllm.ac.uk