Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mair Wynn Hughes yn lansio’i nofel ddiweddaraf yn 92 oed!

Bydd Y Bocs Erstalwm, nofel newydd awdures sydd wedi ysgrifennu 114 o lyfrau ac sy’n mynychu dosbarthiadau ysgrifennu creadigol trwy Goleg Menai, yn cael ei lansio yn Llyfrgell Caernarfon yr wythnos nesaf

Mae Mair Wynn Hughes, sy'n 92 mlwydd oed, yn lansio ei nofel ddiweddaraf wedi iddi gael ei hysbrydoli gan ddosbarth ysgrifennu creadigol sy’n cael ei drefnu gan Goleg Menai.

Mae'r awdures flaenllaw o Lanrug wedi ysgrifennu 114 o lyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion ac wedi ennill nifer o wobrau.

Yn ei nofel gyntaf ers 2008, cawn hanes Lydia, sef gwraig oedrannus sy’n dioddef o ddementia, wrth iddi geisio dwyn ei gorffennol i gof yn ystod y cyfnod clo.

Bydd Y Bocs Erstalwm, a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch, yn cael ei lansio yn Llyfrgell Caernarfon nos Iau nesaf, 23 Mai (6pm).

Cyn y lansiad, dywedodd Mair ei bod hi’n ddiolchgar i'w dosbarth ysgrifennu creadigol, yn enwedig ei thiwtor Eabhan Ni Shuleabhain, am ei hysgogi i ddal ati i ysgrifennu.

“Dw i wedi bod yn mynd i ddosbarthiadau Eabhan ers rhyw bedair neu bum mlynedd,” meddai Mair. “Dw i wastad wedi ysgrifennu, ond mae hi wedi fy ysbrydoli i ddal ati.

“Mae yna wastad rhywbeth i’w ysgrifennu at yr wythnos ganlynol. Pan fyddwch chi'n cyrraedd fy oedran i mae'n hawdd eistedd yn ôl a dweud 'Dw i wedi gwneud fy ngwaith', ond mae mynd i sesiynau Eabhan yn fy nghadw i fynd, ac yn gwneud i fy ymennydd weithio!

“Mae hi'n diwtor gwych, yn un o'r goreuon, ac mae hi bob amser mor gadarnhaol. Mae hi'n cael y gorau o bawb, p’un ai’n rhywun sydd wedi hen arfer ysgrifennu ai peidio.

“Mae tua 10 ohonon ni yn y grŵp. Rydyn ni'n dal i ddod at ein gilydd yn neuadd yr eglwys yn Llangefni bob wythnos i ysgrifennu rhywbeth er nad oes dosbarthiadau ar hyn o bryd.

“Fe all fod yn gerdd, yn stori fer, neu’n rhywbeth arall, ond rydyn ni’n gwneud hynny oherwydd Eabhan a'r ffordd y mae hi wedi ein hysbrydoli ni.”

Mae'r dosbarthiadau ysgrifennu creadigol yn rhan o ddarpariaeth Potensial (Dysgu Gydol Oes) Grŵp Llandrillo Menai. Dechreuodd Mair fynd i’r dosbarthiadau ar ôl iddi golli ei gŵr, Tom, 13 mlynedd yn ôl.

Meddai: “Mi wnaeth les mawr i mi, ac mi wnes i ei fwynhau cymaint nes i mi ddal ati flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae yno bobl nad ydyn nhw erioed wedi ysgrifennu o'r blaen... ac mae'r cyfan oherwydd Eabhan.”

Aeth Mair, sy'n wreiddiol o Fryncir ger Caernarfon, i'r Coleg Normal ym Mangor cyn mynd i ddysgu yn Ysgol Pentraeth.

Ar ôl cyfarfod â Tom oedd yn ffermwr, ymgartrefodd ym Mhentraeth a dechreuodd ar ei gyrfa ysgrifennu. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Straeon Sioni Sbonc, ym 1967. Enillodd Wobr Tir na n-Og bedair gwaith, a derbyniodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2006 am ei chyfraniad i lenyddiaeth plant.

Yn Y Bocs Erstalwm, mae Mair yn trafod dau fath o unigrwydd – unigrwydd dementia, ac unigrwydd y cyfnod clo.

“Mae Lydia wedi dod allan o’r ysbyty ac yn dioddef o gamau cyntaf dementia,” esboniodd Mair. “Pan mae hi’n edrych yn y ‘Bocs Erstalwm’ mae’n llawn lluniau. Bob tro mae hi'n edrych yn y bocs mae hi'n chwilio amdani hi ei hun – mae hi'n ceisio dod o hyd i'r person a gollodd, ac mae hi'n gwybod ei bod hi yno yn rhywle yn y lluniau.”

Mae gan Mair ddwy ferch, tri o wyrion a dau o orwyrion. Dros y blynyddoedd, mae ei gwaith wedi ymdrin â llawer o bynciau amrywiol.

Meddai: “Dw i wedi ysgrifennu am bob math o bethau – gan gynnwys robotiaid, anturiaethau plant a’r ddau Ryfel Byd!”

  • Bydd Y Bocs Erstalwm ar gael o ddydd Iau, 23 Mai ymlaen ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com. Cynhelir y lansiad swyddogol yn Llyfrgell Caernarfon nos Iau, 23 Mai am 6pm. Yn y lansiad, bydd Mair yn ateb cwestiynau gan John Dilwyn Williams. Croeso i bawb, ac mae mynediad am ddim. Bydd copïau o’r nofel yn cael eu gwerthu gan siop Palas Print ar y noson.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau ysgrifennu creadigol fel rhan o'i ddarpariaeth Potensial (Dysgu Gydol Oes). I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.