Arddangosfa o waith celf, myfyrwyr CMD, Dolgellau yn agor yn Nhŷ Siamas, Dolgellau.
Mae gwaith celf, sydd wedi eu creu gan fyfyrwyr Celf, Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau yn cael ei arddangos yn Nhŷ Siamas, y ganolfan gelfyddydol a diwylliannol yn Nolgellau.
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect celf gydweithredol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri i ddathlu pen-blwydd y parc yn 70 oed.
Comisiynwyd artistiaid sy'n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ddathlu'r parc a'i rinweddau arbennig yn greadigol ar wefan newydd, a aeth yn fyw ar Hydref 1af.
Dywedodd Ffion Pugh, myfyriwr ar y cwrs Diploma L3 mewn Celf a Dylunio yn Nolgellau: “Fe wnes i fwynhau’r profiad yn ystod y prosiect hwn yn fawr. Roedd gwneud celf amgylcheddol yn hollol newydd i mi, ac roedd gallu dathlu pen-blwydd y Parciau Cenedlaethol yn 70 oed yn y broses yn gyffrous iawn. ”
Dywedodd Martin Evans, arweinydd cwrs ar raglen Celf a Dylunio: “Hoffwn ddiolch i Celf Aran a Thŷ Siamas, yn Nolgellau, am roi’r cyfle i ni arddangos detholiad o waith creadigol ein myfyrwyr.”
Bydd y gwaith i’w weld yn y ganolfan, hyd at ddiwedd mis Chwefror 2022.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am unrhyw gyrsiau ar gampws Dolgellau, ewch i wefan ©Grŵp Llandrillo Menai yn www.gllm.ac.uk neu ffoniwch linell gynghori'r cwrs ar 01341 422 827.