Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hyrwyddwyr Menopos yn rhoi cefnogaeth i staff

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi penodi grŵp o hyrwyddwyr menopos i gefnogi cydweithwyr sy'n profi symptomau'r perimenopos a'r menopos.

Bydd yr Hyrwyddwyr Menopos yn gweithredu fel eiriolwyr, gan gynnig lle cyfrinachol i gydweithwyr drafod sut maen nhw'n teimlo a rhoi arweiniad ar yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd ar gael. Byddant hefyd yn chwarae rhan weithredol wrth godi ymwybyddiaeth a meithrin sgyrsiau agored am y menopos, gan sicrhau ei fod yn dod yn rhan integredig o ddiwylliant y gweithle.

Meddai Jenny Davies, Cydlynydd Llesiant Staff Grŵp Llandrillo Menai,

“Drwy ganolbwyntio ar y menopos a hyrwyddo trafodaeth agored, rydw i'n credu y gallwn ni helpu i gefnogi staff a sicrhau eu bod yn teimlo’n wybodus am y pwnc.

Mae'r menopos yn rhan o fywyd sy'n effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd - naill ai trwy ei brofi'n uniongyrchol, neu weithio gyda rhywun sy'n mynd drwy'r profiad ar hyn o bryd - felly mae'n gwbl hanfodol ein bod ni fel Hyrwyddwyr yn codi ymwybyddiaeth o'r symptomau a'r heriau y gall menywod sy'n mynd drwy'r menopos eu profi.”

Cafodd yr Hyrwyddwyr Menopos sesiwn hyfforddi ryngweithiol 1.5 awr o hyd yn ddiweddar, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y menopos; y symptomau a'r camau; yr effaith posibl ar waith a bywyd; a'r triniaethau sydd ar gael.

Gwnaeth y sesiwn hefyd drafod rolau a chyfrifoldebau'r Hyrwyddwyr Menopos; Polisi Menopos Grŵp Llandrillo Menai a thudalen Hwb Menopos Staff.

Dywedodd Ffion Hewson, technolegydd bwyd a Hyrwyddwr Menopos,

“Rydw i wedi bod yn gweithio i Grŵp Llandrillo Menai ers tua 10 mlynedd fel Technolegydd Bwyd, ac rydw i wedi profi symptomau perimenopos ers pan oeddwn i'n tua 45 oed, a dydy hynny ddim wedi bod yn hawdd. Rydw i wedi gorfod addasu fy ffordd o fyw i leddfu fy symptomau ac wedi dysgu llawer yn y broses, felly rydw i'n awyddus i rannu fy ngwybodaeth a helpu eraill.

“Mae ymarfer corff wedi fy helpu i, ac oherwydd hynny, rydw i wedi sefydlu 'WedWod' - sesiwn ymarfer corff wythnosol rydw i'n ei gynnal ar gyfer staff. Mae'r ymarferion yn addas ar gyfer pob gallu, a gallaf newid unrhyw symudiad i weddu i'r unigolyn ar y diwrnod. Rydyn ni'n cynhesu ac yna'n ymarfer am 20 munud - ac mae cyfle i gael sgwrs ar y diwedd”.

Yn ogystal â'r fenter Hyrwyddwyr Menopos, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi sefydlu grŵp cymorth ar gyfer y perimenopos a'r menopos. Mae'r grŵp ar agor i unrhyw un sy'n profi'r menopos, yn ogystal â'r rhai sy'n dymuno cefnogi partner, perthynas neu ffrind. Mae'r grŵp hefyd ar agor i unigolion sydd eisoes wedi profi'r menopos ac sy'n barod i rannu eu profiadau a'u mewnwelediadau ag eraill.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date