Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Rheolaeth Busnes

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. 2 flynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.

  • Cod UCAS:
    Rhos-on-Sea: NN21 / Dolgellau: 16PN
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Rheolaeth Busnes

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn addas i unrhyw un sy'n awyddus i gael swydd well yn eu sefydliad presennol, sy'n chwilio am gyfleoedd newydd o ran gyrfa, sydd am sefydlu eu busnes eu hunain neu ddim ond am feithrin sgiliau rheoli.

Ar y rhaglen, ymdrinnir ag amrywiaeth eang o bynciau sy'n hanfodol i reolwyr neu berchnogion busnes heddiw. Mae'r Radd Sylfaen hon yn gyfle cyffrous i wella'ch cyflogadwyedd drwy ennill cymhwyster cydnabyddedig mewn rheoli a busnes.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth i Raddedigion
  • Sgiliau ymchwilio ac astudio sylfaenol
  • Iechyd a Lles yn gysylltiedig â gwaith
  • Ymddygiad Marchnata a Defnyddwyr
  • Egwyddorion Arwain a Rheoli
  • Economeg Busnes
  • Cyllid i Reolwyr

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Sgiliau Arwain
  • Dulliau Ymchwilio
  • Rheoli Gweithrediadau
  • Marchnata Digidol
  • Cynllunio Busnes a Chynaliadwyedd
  • Cyfraith Cyflogaeth i Reolwyr
  • Rheoli ym maes Adnoddau Dynol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion academaidd:

  • O leiaf 80 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, Diploma Estynedig BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, mae nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban yn cael eu derbyn i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.

  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Gofynion ieithyddol:

  • Meistrolaeth dda ar y Gymraeg/Saesneg, gan gynnwys TGAU (neu gymhwyster cywerth) gradd C/4 neu uwch
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys a nodir uchod fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 525 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 500), neu IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 550 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 525), neu IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Tiwtorialau
  • Modiwlau yn y gweithle
  • Siaradwyr Gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithiol (Moodle 2).

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (Llandrillo-yn-Rhos)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 4.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Yn ystod y rhaglen, gellir annog myfyrwyr i ddod yn aelodau o gyrff proffesiynol a allai fod â chostau ychwanegol.
  • Fel rhan o'r rhaglen, gellir cynnal ymweliadau allanol hefyd a allai fod angen cyfraniad ariannol gan y myfyriwr hyd at uchafswm o £50.

Ysgoloriaeth Cymhelliant 2022-2023 Coleg Cymraeg

Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau: Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi’r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar - colegcymraeg@glllm.ac.uk.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Coleg Meirion-Dwyfor:

Catrin Edwards (Rhaglen Arweinydd):edward4c@gllm.ac.uk

Iola Jones (Gweinyddiaeth): jones9i@gllm.ac.uk

Coleg Llandrillo:

David Kirkby (Rhaglen Arweinydd): kirkby1d@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau (gan yr unigolyn a gan grŵp)
  • Cyflwyniadau (gan yr unigolyn a gan grŵp)
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol (gan a heb ddefnyddio llyfrau)
  • Prosiect ymchwil grŵp
  • Astudiaethau achos unigol
  • Arholiadau unigol
  • Astudiaeth unigol sy'n seiliedig ar waith

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall y cwrs hwn arwain at swydd mewn amrywiaeth o sefydliadau yn ogystal ag at gyfleoedd i astudio ymhellach. Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd BA (Anrhydedd) mewn Rheoli Busnes.

Bydd eraill yn dechrau gyrfa ym maes rheoli adnoddau dynol, cyfrifydda, gwasanaethau ariannol, marchnata ac amrywiol swyddi rheoli yn y sector cyhoeddus. Ar ôl graddio, aeth rhai cyn-fyfyrwyr hefyd ymlaen i sefydlu eu cwmnïau llwyddiannus eu hunain.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Lefel 4

Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth i Raddedigion
Nod y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gyflawni nifer o dasgau'n ymwneud â chyflogadwyedd er mwyn cynyddu eu cyfle o gael swydd. ⁠I wneud hyn mae myfyrwyr yn cael cyfle i adfyfyrio ar eu dysgu a'u datblygiad eu hunain hyd yma, a thrwy'r broses hon maent yn meithrin gwell dealltwriaeth o'u diddordebau, eu sgiliau a'u priodoleddau eu hunain yng nghyd-destun gyrfaoedd a phrofiadau gwaith ac adnabod beth sy'n bwysig iddynt o ran gwneud penderfyniadau gyrfaol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i lwyddo yn y farchnad swyddi, ac i adnabod yr adnoddau, y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy.

Sgiliau ymchwilio ac astudio sylfaenol
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio’r dysgwyr gan eu galluogi i feddwl yn feirniadol ac i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n academaidd gadarn. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin sgiliau ymchwilio, ysgrifennu ac adfyfyrio, ynghyd â sgiliau cyfeirio at ffynonellau yn yr arddull gofynnol.

Iechyd a Lles yn gysylltiedig â gwaith
Bydd y modiwl hwn yn ystyried egwyddorion sylfaenol iechyd a lles yn y gweithle. Ei nod fydd meithrin dealltwriaeth a hwyluso defnyddio damcaniaethau sy'n ymwneud ag iechyd a lles yn y gweithle yn ymarferol.

Ymddygiad Marchnata a Defnyddwyr
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr wybodaeth am dermau a chysyniadau pwysig ym maes marchnata, a sicrhau eu bod yn deall dylanwad marchnata ar ymddygiad defnyddwyr.

⁠Cyflwynir gwahanol elfennau'r gymysgedd farchnata estynedig a byddant yn defnyddio hyn mewn cyd-destunau amrywiol.

Egwyddorion Arwain a Rheoli
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o sut mae sefydliadau a gweithwyr yn rheoli ac addasu eu hymddygiad i gyflawni ystod o amcanion sefydliadol a phersonol. Y bwriad yw gosod dulliau ymarferol yn eu cyd-destun damcaniaethol.

Economeg Busnes
Yn y modiwl hwn, edrychir o safbwynt economaidd ar sut y mae busnesau’n gweithredu mewn amgylchedd busnes.

Bydd rhan gyntaf y modiwl yn edrych ar yr amgylchedd micro-economaidd y mae busnes yn gweithredu o'i fewn, gan gyflwyno'r cysyniad o gyflenwad a galw a strwythurau'r farchnad. ⁠Defnyddir pecynnau dadansoddi i werthuso'r amgylchedd allanol a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar y busnes a pha mor gystadleuol yw'r busnes.

Bydd ail ran y modiwl yn edrych ar amgylchedd macro-economaidd y busnes, gan werthuso'r farchnad ehangach a dylanwadau polisïau’r llywodraeth. Bydd yn gwerthuso'r twf economaidd a'i berthynas â pholisi ariannol a chyllidol.

Cyllid i Reolwyr
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniadau a'r egwyddorion sy'n hanfodol mewn cyllid busnes i alluogi'r myfyriwr i ddefnyddio gwybodaeth ariannol i wneud penderfyniadau. Mae'r modiwl yn tybio nad oes gan y dysgwyr gefndir ym maes cyllid a bydd y pwyslais ar hanfodion cyfrifyddu ariannol a chyfrifon rheoli.

Bydd rhan gyntaf y modiwl yn cyflwyno'r myfyrwyr i gysyniadau a thermau cyllid busnes a sut i ddefnyddio technegau cyfrifyddu i gynhyrchu datganiadau ariannol, yn cynnwys cyfrifon elw a cholled a mantolenni. Caiff y wybodaeth ei defnyddio i alluogi'r myfyrwyr i ddehongli'r datganiadau ariannol a gwella ansawdd penderfyniadau yn y busnes.

Yn ail ran y modiwl, cyflwynir egwyddorion cyfrifyddu rheoli, yn cynnwys dadansoddi costau a sefyllfa adennill costau cyn cynhyrchu a dehongli rhagfynegiadau arian parod i gefnogi gwneud penderfyniadau. Bydd rhan olaf y modiwl yn ystyried ystyr cyllid cynaliadwy ac yn rhoi sylw i ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu wrth wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi.

⁠Lefel 5

Sgiliau Arwain
⁠Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o'r amrywiol bynciau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth fodern. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno a chyfleu data i gefnogi penderfyniadau, dulliau o reoli unigolion, perfformiad timau a sut i wella perfformiad.

Dulliau Ymchwilio
Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i gynnal prosiectau ymchwil ar raddfa fechan, mewn amgylchedd addysgol ac amgylchedd busnes.

Mae'r modiwl yn dechrau trwy adnabod y cysyniadau dechrau trwy gwestiwn ymchwil neu ddamcaniaeth, wedi'i ddilyn gan ddatblygu ymchwil academaidd a sgiliau ysgrifennu i baratoi adolygiad llenyddiaeth a strategaeth ymchwil i lunio cynnig ymchwil.

Mae ail ran y modiwl yn edrych ar y gwahanol ddulliau sydd ar gael i ddadansoddi'r data ymchwil a sut i gyflwyno cynnig ymchwil ar lafar i gael cymeradwyaeth cyllido.

Rheoli Gweithrediadau
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i hanfodion ac egwyddorion Rheoli Gweithrediadau. Mae'r rhain yn ganolog i waith pob rheolwr, ni waeth beth fo teitl eu swydd. Mae Rheoli Gweithrediadau'n bwnc ymarferol sy'n ymwneud â materion real mewn diwydiannau gwasanaethol a diwydiannau gweithgynhyrchu. Bydd cyfle i ddod i ddeall a gwerthfawrogi swydd y Rheolwr Gweithrediadau mewn sefydliad gwahanol yn ogystal â meithrin sgiliau gwneud penderfyniadau a'u defnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Marchnata Digidol
Mae'r modiwl yn edrych ar rôl technolegau digidol ac ar sut y mae sefydliadau'n eu defnyddio i gysylltu â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid. Mae'r cynnydd mewn technolegau digidol wedi cael effaith fawr ar y broses gyfathrebu ym maes marchnata, ac o ganlyniad mae sefydliadau wedi addasu eu dulliau marchnata. Bydd y modiwl yn trafod sut mae marchnata digidol, yn sgîl newid yn yr amgylchedd macro, wedi dod yn rhan o strategaethau marchnata integredig. Bydd dulliau o farchnata'n ddigidol yn cael eu hastudio yng nghyd-destun amgylchedd sy'n newid yn barhaus, yn dechnolegol, yn gyfreithiol ac yn wleidyddol ac o ran ymddygiad cwsmeriaid. Bydd pwyslais ar sut mae strategaethau marchnata digidol yn cael eu creu, a phwyslais hefyd ar greu cynllun cyfathrebu ar gyfer marchnata digidol. Yn ogystal, bydd y modiwl yn edrych ar nifer o ymgyrchoedd marchnata digidol real, gan ystyried nifer o achosion, er mwyn dadansoddi sut mae cwmnïau’n ymgysylltu â chwsmeriaid yn oes y rhyngrwyd.

Cynllunio Busnes a Chynaliadwyedd

Nod y modiwl hwn yw rhoi i'r myfyrwyr ddealltwriaeth o'r prosesau, y dewisiadau a'r heriau creadigol, y rhai busnes a'r rhai personol, y bydd entrepreneuriaid a rheolwyr yn eu hwynebu pan fyddant yn sefydlu menter newydd neu'n datblygu busnes sydd eisoes wedi'i sefydlu.

Gall mabwysiadu strategaeth gynaliadwyedd a rhoi arferion a pholisïau cynaliadwy wrth graidd busnes arwain at fuddion arwyddocaol, yn cynnwys arbed costau a gwella enw da, sy'n golygu bod busnesau yn dod yn fwyfwy ymwybodol o fanteision gweithredu mewn modd mwy cynaliadwy.

Cyfraith Cyflogaeth i Reolwyr
Mae heriau gweithle modern yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion cyfraith cyflogaeth gan fod gan weithwyr fwy o ymwybyddiaeth o'u hawliau yn y gwaith.

Mae'r modiwl yn ystyried y gwahanol fathau o drefniadau gweithio sydd wedi arwain at gynnydd mewn achosion a gyflwynwyd gan weithwyr yn gyntaf. Yn ail ran y modiwl, ystyrir y cynnydd mewn cyfreitha a rheoliadau gan y llywodraeth ynghylch tâl cydradd a sut y gall busnes sicrhau cadw at hyn.

Rheoli Prosiectau
⁠Mae rheoli prosiectau yn sgil hanfodol ymhob busnes. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rheoli prosiectau o'r cynllunio dechreuol i roi'r prosiect ar waith ac mae'n cwmpasu'r wybodaeth, y sgiliau a'r technegau allweddol sy'n ofynnol i gyflawni prosiect busnes.

Sicrhau bod canlyniadau a buddion yn gynaliadwy yn ystod cylch oes prosiectau. Ystyrir gwahanol elfennau er mwyn gwella a hwyluso rheoli prosiectau a lles yn effeithiol.

Rheoli ym maes Adnoddau Dynol
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall sut mae adnoddau dynol ac adnoddau yn cael eu rheoli a'u datblygu mewn sefydliad. Bydd yn trafod swyddogaethau a gweithrediadau allweddol Rheoli ym Maes Adnoddau Dynol yn ogystal â sut maent yn cyfrannu at gyflawni amcanion sefydliadol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar brosesau recriwtio, dewis a meithrin doniau a sgiliau mewn sefydliad, a'r cysylltiad rhwng perfformio a gwobrwyo mewn cyd-destun cyfoes.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

Posib cwblhau 33% o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser