Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Datblygu sgiliau crefftwyr at ddyfodol di-garbon

Nod cynllun newydd yw uwch-sgilio busnesau bach a chanolig yn y sector adeiladu er mwyn eu paratoi ar gyfer dyfodol sero net. Trwy ddarparu hyfforddiant ar dechnoleg carbon isel mae'r rhaglen gan Busnes@LlandrilloMenai trwy’r Ganolfan Sgiliau a Thechnoleg Seilwaith (CIST) yn Llangefni hefyd yn sicrhau bod y busnesau eu hunain yn gynaliadwy wrth i'r galw am dechnoleg gwyrdd gynyddu.

Yn rhan o brosiect ehangach Sero Net Gwynedd, wedi ei arwain gan gymdeithas dai, Adra, y gobaith yn y pen draw yw lleihau allyriadau carbon stoc dai Gwynedd. Bydd y cynllun yn sicrhau bod perchnogion busnesau bach adeiladu yn gallu gosod a thrin y dechnoleg ddiweddaraf yng nghartrefi eu cwsmeriaid yn ogystal â gwneud eu busnesau eu hunain yn fwy cystadleuol.

Dywedodd Gareth Hughes, Rheolwr Canolfan CIST ac Arloesi, Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Sero Net Gwynedd. Mae’n rhoi cynllun pendant yn ei le i adeiladwyr, trydanwyr a phlymwyr wrth iddynt reoli’r heriau sy’n gysylltiedig â datgarboneiddio stoc dai’r sir, yn ogystal â diogelu hyfywedd eu busnesau eu hunain. Mae lleihau carbon yn flaenoriaeth i holl bartneriaid y cynllun, dyma gyfle felly i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio efo’n gilydd i wneud hyn.

“Tai sy’n gyfrifol am 29% o allyriadau carbon y DU ac mae stoc dai Cymru’n benodol yn hen ac aneffeithlon. Gall y rhai sy’n cymryd rhan yn y cyrsiau yma, ennill profiadau a meithrin sgiliau allweddol i wneud y mwyaf o dechnoleg newydd er mwyn gwella effeithlonrwydd cartrefi.”

Mae’r prosiect yn cyd fynd ag amcanion Busnes@LlandrilloMenai i weithio gyda busnesau yn lleol ac yn rhoi pwyslais ar sgiliau sy’n gysylltiedig â datgarboneiddio a thechnoleg ddigidol.

Ychwanegodd Julie Stokes-Jones, Swyddog Datblygu Prosiectau Busnes@LlandrilloMenai: “Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n partneriaid yn lleol i gyflawni’r cynllun yma fydd yn allweddol wrth leihau allyriadau carbon cartrefi. Mae’n ffordd hefyd o sicrhau bod busnesau yn gallu paratoi eu hunain at y dyfodol a’r datblygiadau cyson yn y maes yma - fel grŵp rydyn ni mewn sefyllfa i helpu nhw wneud hynny.”

Meddai Jonathan Williams, un o’r tiwtoriaid sy’n rhan o’r cynllun ac yn arbenigwr ynni adnewyddadwy: “Rydyn ni’n gweld y budd mae rhai o’r busnesau bach yn gael allan o’r cynllun yma yn barod, a sut mae’r sgiliau newydd yn helpu nhw ymestyn y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig. Mi fydd rhaid i ni gyd symud i dechnoleg fwy gwyrdd yn y pen draw - mae’r cyrsiau hyn yn sicrhau y bydd arbenigwyr allan yna fydd yn ein galluogi ni i wneud hynny.”

Bydd rhagor o gyrsiau yn cael eu datblygu ar gyfer y sector er mwyn parhau i gefnogi busnesau lleol i esblygu ac ymateb i newidiadau mewn technolegau glân ac effeithlonrwydd ynni. Mae pedwar cam i brosiect Sero Net Gwynedd, CIST sy’n canolbwyntio ar yr elfen ‘cryfhau cadwyni cyflenwi.’

Yn ogystal â CIST, Busnes@LlandrilloMenai ac Adra, mae partneriaid y cynllun yn cynnwys y Dref Werdd, Partneriaeth Ogwen, Siop Griffiths, YnNi Llŷn, Cyd Ynni, Deg a Grŵp Cynefin. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.

Diwedd