Campws Llangefni'n Paratoi ar gyfer Digwyddiad Cymunedol Enfawr
Mae campws Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni'n paratoi i groesawu cannoedd o bobl leol i'w Ddigwyddiad Ymgysylltu â'r Gymuned ddydd Sadwrn 11 Mehefin.
Bydd yn ddiwrnod gwych i'r teulu cyfan ac fe gynhelir llu o weithdai a gweithgareddau dysgu cyffrous ym maes uwch dechnoleg. Yn sicr, bydd yna rywbeth at ddant pawb... o weithdai drôns i lysnafedd XPLORE a monster trucks! Ar ben hynny, bydd pawb yn cael bag o roddion am ddim a chyfle i ennill pâr o Beats Studio Earbuds!
Cynhelir y digwyddiad llawn hwyl rhwng 10am a 2pm a'r bwriad yw dod â phobl Llangefni a'r cyffiniau at ei gilydd, gan roi cyfle iddynt ddod i wybod rhagor am y cynlluniau cyffrous sydd ar droed ar gyfer y campws.
Yn ogystal â'r diwrnod cymunedol, cynhelir digwyddiad gyrfaoedd a fydd yn rhoi cyfle i chi siarad â chynrychiolwyr o sefydliadau amrywiol fel y Gwasanaeth Tân, y Fyddin ac ati ynghyd â llawer o gwmnïau lleol.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, yn agored i bawb, ac wedi'i anelu at:
- Ddisgyblion ysgol o ardal Llangefni sy'n ystyried eu dewisiadau ar gyfer mis Medi
- Rhieni sydd am ymweld â'r campws i weld y cyfleusterau a siarad â'r staff
- Trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y campws i'w gynnig
- Pobl sydd â diddordeb mewn cael gwaith neu ddechrau gyrfa newydd
- Ac yn olaf... teuluoedd sydd am gael diwrnod i'r brenin!
Ar y diwrnod, cewch roi cynnig ar lu o brofiadau cyffrous a chael eich temtio gan bob math o wahanol fwydydd blasus.
Gallwch weld y cyfleusterau, siarad â'r staff am y cyrsiau fydd yn dechrau fis Medi, a chymryd rhan hefyd mewn gweithgareddau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) amrywiol, gan gynnwys codio, roboteg a pheirianneg.
Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd: Hufen Iâ; Cestyll Bownsio; Swigod Dr Zigs; F1 mewn Ysgolion; Gweithdy Drôns; Chwaraeon gyda Môn Actif; Adeiladu Bocsys i Adar; Gweithgareddau Realiti Rhithwir a'r Gwasanaethau Brys – yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân!
Felly, ewch draw i gampws Coleg Llangefni ar Ffordd Penmynydd ar 11 Mehefin – chewch chi ddim o'ch siomi!
Gwefan: www.gllm.ac.uk