Campysau Dolgellau a Phwllheli'n Paratoi ar gyfer Digwyddiadau Cymunedol Enfawr
Mae campysau Grŵp Llandrillo Menai yn Nolgellau a Phwllheli'n paratoi i groesawu cannoedd o bobl leol i'w Digwyddiadau Ymgysylltu â'r Gymuned ddydd Sadwrn 11 Mehefin a dydd Sadwrn 18 Mehefin.
Bydd yn ddiwrnod gwych i'r teulu cyfan ac fe gynhelir llu o weithdai a gweithgareddau dysgu cyffrous ym maes uwch dechnoleg. Yn sicr, bydd yna rywbeth at ddant pawb... o weithgareddau addysg hwyliog i gerddoriaeth fyw! Ar ben hynny, bydd pawb yn cael bag o roddion am ddim a chyfle i ennill pâr o Beats Studio Earbuds!
Cynhelir y digwyddiadau llawn hwyl rhwng 11am a 2pm a'r bwriad yw dod â phobl y trefi a'r cyffiniau at ei gilydd, gan roi cyfle iddynt ddod i wybod rhagor am y campysau.
Mae'r digwyddiadau'n rhad ac am ddim, yn agored i bawb, ac wedi'u hanelu at:
- Ddisgyblion ysgol o ardaloedd Dolgellau a Phwllheli sy'n ystyried eu dewisiadau ar gyfer mis Medi
- Rhieni sydd am ymweld â'r campysau i weld y cyfleusterau a siarad â'r staff
- Trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y campysau i'w gynnig
- Pobl sydd â diddordeb mewn cael gwaith neu ddechrau gyrfa newydd
- ● Ac yn olaf... teuluoedd sydd am gael diwrnod i'r brenin!
Yn y digwyddiadau – ar gampws Dolgellau ar 11 Mehefin a champws Pwllheli ar 18 Mehefin – cewch roi cynnig ar lu o weithgareddau cyffrous a chael eich temtio gan bob math o wahanol fwydydd blasus.
Gallwch weld y cyfleusterau, siarad â'r staff am y cyrsiau fydd yn dechrau fis Medi, a chymryd rhan hefyd mewn gweithgareddau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) amrywiol, gan gynnwys codio, roboteg a pheirianneg.
Ymhlith yr uchafbwyntiau ar gampws Dolgellau bydd: Adeiladu Bocsys i Adar; Argraffwyr 3D; Cychod Clai; Salon Gwallt a Harddwch; Gweithgareddau STEM; Babanod Electronig; Man Chwarae i Blant a Stondin yn Gwerthu Cynnyrch Gardd.
Tra bydd yr uchafbwyntiau ym Mhwllheli'n cynnwys: Fan Hufen Iâ; Cerddoriaeth Fyw; Gweithgareddau Chwaraeon; Arddangosfa o Hanes y Coleg dros 25 mlynedd a Gweithgareddau STEM.
Felly, ewch draw i gampws Dolgellau ddydd Sadwrn 11 Mehefin neu gampws Pwllheli ddydd Sadwrn 18 Mehefin – chewch chi ddim o'ch siomi!
Gwefan: www.gllm.ac.uk