Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darlithydd Celf Coleg Meirion-Dwyfor yn cipio’r wobr gyntaf mewn cystadleuaeth genedlaethol.

Mae Ffion Gwyn, darlilyth Lefel A Celf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli wedi cipio’r wobr gyntaf yn nghystadeluaeth Gwobrau Hearts for the Arts 2022 Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA).

Derbyniwyd enwebiadau o bob cwr o'r DU ym mhob un o dri chategori'r gwobrau: Prosiect Celfyddydau Gorau; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd

Ar ôl i gynrychiolwyr o bartneriaid Hearts for the Arts eleni greu’r rhestr fer o enwebiadau, dewiswyd yr enillwyr gan weithwyr proffesiynol proffil uchel yn y celfyddydau, busnes a newyddiaduraeth. Mae Ffion Meleri Gwyn wedi’i dewis fel enillydd ‘Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd’ am ei harweinyddiaeth ysbrydoledig dros greadigrwydd, ac am arwain ystod o brosiectau creadigol ac arloesol, gan gyfrannu’n aruthrol at les cymuned Criccieth yn ystod cyfnod heriol iawn i bawb.

dywedodd Samuel West, actor a chyfarwyddwr, Ymddiriedolwr y National Campaign for the Arts

“Mae Ffion Gwyn yn artist sydd wedi mentro i fyd gwleidyddiaeth ac mae’r canlyniadau’n glir i’w gweld – mae’n arwain trwy esiampl ac nid yw’n ofni dod â’i artiswaith i’r amlwg sy’n ysbrydoledig i’w weld! Mae hi'n deall sut mae celfyddydau a chreadigrwydd yn cysylltu pobl. Rwyf wrth fy modd yn arbennig yn y ffordd y mae hi'n cynnwys natur yn ei gwaith. Mae hi'n deall bod mynd i'r afael ag arwahanrwydd, yn enwedig yn ystod y Pandemig yn hanfodol”

“Ar adeg o bryder gwirioneddol, pan oedd gwahanu yn ychwanegu at unigrwydd a dieithrwch pobl, torchodd Ffion ei llewys a gwneud celf a oedd yn dod â phobl ynghyd a'u gwneud yn falch o'u cymuned. Mae hi wedi gwneud gwahaniaeth. Mae ei syniadau yn syml, fforddiadwy ac ymarferol; yn union beth sydd ei angen pan nad oes llawer o arian neu hyder yn ei gylch. Mae ei henwebiad yn dangos i ni fod y llawenydd artistig mwyaf yn aml yn dod o wneud a gwneud pethau ein hunain.”

Mewn ymateb i ennill dywedodd Ffion Gwyn:

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi ennill y wobr hon sy’n deyrnged i waith anhygoel ac ymrwymiad aelodau o’n cymuned, o’r ifanc i’r hen, mewn cymaint o brosiectau cofiadwy. Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail ac mae’n wych gallu estyn allan trwy ein mentrau creadigol amrywiol i gynnwys cannoedd yn ein cymuned ddwyieithog. Mae’r prosiectau hyn wedi rhoi hwb i les pob un ohonom.”

Dywedodd Dr Catrin Jones, Clerc Cyngor Tref Criccieth:

“Llongyfarchiadau gwresog i Ffion Gwyn ar ennill y wobr fawreddog hon mewn maes cystadleuol iawn. Yng nghyfnod Cofid, mae Ffion fel artist ac fel Cynghorydd, wedi gwireddu creadigrwydd mewn partneriaeth drwy osod esiampl o sut, er gwaethaf yr holl gyfyngiadau mae hi’n bosibl ac yn fuddiol i arloesi a chreu a gwneud celf yn antur gymunedol. Mae hi wedi darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig ar ystod o brosiectau creadigol ac arloesol, gan weithio’n ddiflino i ymgysylltu â’r gymuned, gan annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan. Er mwyn lansio a chyflawni Strategaeth Greadigol yn llwyddiannus mae angen un Ffion ar bob Cyngor.”

Mae Hearts For The Arts yn ymgyrch genedlaethol y Menter Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau a ddarperir gan yr NCA mewn partneriaeth â Community Leisure UK, Creative Lives, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Thrive ac UK Theatre.