Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tiwtor Saesneg Coleg Meirion-Dwyfor yn ennill gwobr genedlaethol.

Mae Wendy Hinchey, sydd yn diwtor Lefel-A Saesneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli a Dolgellau wedi ennill gwobr genedlaethol gan Brifysgol De Cymru. Enillodd Wendy yn y categori ‘Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch’ mewn seremoni mawreddog ar gampws Treforest y brifysgol.

Derbyniodd Wendy wobr o £500 tuag at DPP a/neu fentrau lles staff yn eu hysgol neu goleg.

Dywedodd Sera Evans, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr y DU PDC: "Cawsom ymateb gwych i'r gwobrau, gyda 93 o enwebiadau yn y pedwar categori, gan 13 o wahanol sefydliadau. Mae'r cyflwyniadau a wnaed wrth eu henwebu yn dangos bod gennym bobl wirioneddol ysbrydoledig ledled Cymru yn gweithio'n ddiflino i helpu'r genhedlaeth nesaf i gyflawni eu llawn botensial.

"Roedd yn anodd dewis enillwyr yn y categorïau, heb fawr ddim i'w ddewis rhwng yr enwebeion.

"Er mai dim ond un enillydd oedd ym mhob categori, roedd pawb a enwebwyd yn enillwyr mewn gwirionedd, ac mae'r disgyblion a'r myfyrwyr y maen nhw’n eu cefnogi yn elwa bob dydd o'u hymrwymiad at ragoriaeth. Rydyn ni’n talu teyrnged i’w gwaith caled a'u hymroddiad."

Dywedodd myfyrwyr Lefel-A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, oedd wedi enwebu Wendy ar gyfer y wobr.

"Cefnogodd Wendy bob un ohonom yn aruthrol gyda'n ceisiadau UCAS.”

"Mae Wendy yn dysgu ar ddau safle, felly mae ganddi nifer fawr o fyfyrwyr dan ei gofal. Mae pob un ohonom wedi cael cefnogaeth gyda'n datganiadau personol, llenwi ffurflenni, ffug gyfweliadau ac ati. Roedd Wendy yn teimlo ei bod yn bwysig i ni gael syniad o realiti bywyd Prifysgol, ac felly gwahoddodd gyn-fyfyriwr i siarad â ni am eu profiadau yn y Brifysgol ynghyd ag awgrymiadau ar sut i lwyddo yn ein gwaith cwrs."

Rydym fel coleg yn estyn ein llongyfarchiadau gwresog at Wendy, ac yn dymuno’n dda iddi yn ystod y flwyddyn academaidd sydd o’n blaenau.