Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymweliad Liz Saville Roberts â Choleg Meirion-Dwyfor

Ymwelodd Liz Saville Roberts â myfyrwyr Lefel A Cymraeg a'r Gyfraith ar safle Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau i drafod ei swydd fel Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd yn ddiweddar.

Gan Elin Wyn Williams ac Alaw Medi Roberts, myfyrwyr Lefel A

Ymwelodd Liz Saville Roberts â myfyrwyr Lefel A Cymraeg a'r Gyfraith ar safle Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau i drafod ei swydd fel Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn ddiweddar. Rhoddodd awgrymiadau hefyd ar sut i ysgrifennu anerchiad a mynegi barn yn llwyddiannus.

Cyflwynodd Ms Saville Roberts, cyn arweinydd addysg Gymraeg yn y coleg, wybodaeth ar y mater o bwys nesaf a fydd yn cael ei drafod yn San Steffan sef cymorth i farw, a chafodd y myfyrwyr ddysgu am ddwy ochr y ddadl.

Bydd yr ymweliad yn caniatáu i’r myfyrwyr ddefnyddio ei hawgrymiadau i wneud siŵr bod eu gwaith yn ymateb i’r gofynion. Cafodd myfyrwyr yr ail flwyddyn syniadau ar beth i’w gynnwys mewn anerchiad tra bod y flwyddyn gyntaf wedi cael cefnogaeth ar sut i fynegi barn yn effeithiol yn eu gwaith cwrs.

Yn ôl Alaw Roberts, un o fyfyrwyr ail flwyddyn y cwrs Cymraeg, roedd cyngor yr aelod seneddol yn ddefnyddiol tu hwnt.

Dywedodd: “Roedd y sesiwn yn hynod ddiddorol. Credaf fod y cyngor gan Liz Saville Roberts a’r cyflwyniad ar sut i fynegi barn yn bwysig o ran sicrhau ein bod yn gwybod sut i fynd ati i ysgrifennu araith.”

Meddai Liz Saville Roberts: “Roedd yn braf cyfarfod â myfyrwyr y Gyfraith a'r Gymraeg ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau'r wythnos diwethaf.

“Mi wnaethon ni drafod nifer o faterion oedd yn berthnasol i'w hastudiaethau, gan gynnwys y Mesur Cymorth i Farw a fydd yn cael i gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener. Roedd yn werthfawr cael eu barn ar fater mor bwysig.

“Mi wnaethon ni hefyd drafod beth mae Aelodau Seneddol yn ei wneud a sut i gyflwyno dadl yn effeithiol. Fel cyn arweinydd addysg Gymraeg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, roedd yn wych dod yn ôl i'r ystafell ddosbarth i wrando ar y myfyrwyr, cael trafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw a sut orau i gymhwyso'r hyn roedden nhw'n ei ddysgu i'w gwaith cwrs a'u hastudiaethau. Rydw i'n dymuno'n dda i'r myfyrwyr gyda'u gwaith.”

Roeddynt yn gwerthfawrogi ymweliad Liz Saville Roberts yn fawr ac yn sicr fe ddysgodd pob un ohonynt rywbeth newydd am waith aelodau seneddol. Maent yn dymuno'n dda iddi yn y bleidlais seneddol ar y pwnc hynod bwysig hwn, ac yn gobeithio y daw yn ôl i siarad â nhw eto

Oes gen ti ddiddordeb mewn astudio pynciau Lefel A gyda Grŵp Llandrillo Menai? Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn gam nesaf delfrydol os ydych yn gobeithio symud ymlaen i brifysgol neu gyflogaeth ar ôl dilyn eich cyrsiau Lefela. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma