Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Alex yn ennill gwobr Campwr Hŷn y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy

Enillodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo'r clod ar ôl iddo helpu tîm pêl-fasged cadair olwyn Prydain Fawr i ennill yr aur mewn dau dwrnamaint rhyngwladol

Cafodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, Alex Marshall-Wilson, ei enwi’n Gampwr Hŷn y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy.

Cafodd Alex, o Ddeganwy, ei gydnabod ar ôl blwyddyn anhygoel, pan helpodd Prydain Fawr i ennill pencampwriaethau pêl-fasged cadair olwyn Ewrop o dan 23 oed.

Chwaraeodd hefyd i Sheffield Steelers yn rowndiau terfynol Cwpan yr Ewro, derbyniodd gynigion am gytundeb gan glybiau proffesiynol yn Ewrop, cynorthwyodd athletwyr Prydain Fawr i baratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd, ac enillodd fedal aur mewn twrnamaint rhyngwladol yn Japan.

Dywedodd Alex, fu'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Chwaraeon ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ei bod yn "fraint" iddo ennill y wobr Campwr Hŷn yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy.

Mae wedi mynychu’r digwyddiad sawl gwaith o’r blaen, gan ennill y wobr iau yn 2019 a chael ei enwebu ar gyfer y wobr hŷn ddwy flynedd yn ôl.

Ond y tro hwn ei rieni aeth i dderbyn y wobr, gan fod Alex yn chwarae i Steelers mewn gêm yn Uwch Gynghrair Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain yn erbyn tîm y Jaguars o Swydd Nottingham.

“Mae’n foment sy'n dod a balchder mawr,” meddai. “Mae bob amser yn ddigwyddiad pleserus, ac mae’n anrhydedd mawr i mi ennill y wobr, yn enwedig gan fod yna bobl yng Nghonwy sydd wedi cyflawni cymaint yn y flwyddyn ddiwethaf.”

Dechreuodd 12 mis llwyddiannus i Alex fis Tachwedd diwethaf, pan gafodd ei alw i garfan Prydain Fawr ar gyfer Cwpan Pencampwyr Kitakyushu yn Japan. Ar ôl camu i fyny o'r lefel iau, roedd Alex yn chwaraewr allweddol wrth i GB ennill eu holl gemau a hawlio'r fedal aur.

Ym mis Chwefror, chwaraeodd i'r Steelers yng ngemau grŵp Cwpan yr Ewro yn yr Almaen, gan helpu ei glwb i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Sbaen ddau fis yn ddiweddarach.

Roedd hyn yn gamp drawiadol ynddo’i hun, gan fod y gystadleuaeth yn cynnwys timau proffesiynol o bob rhan o Ewrop, tra bod pêl-fasged cadair olwyn yn gamp amatur yn y Deyrnas Unedig.

Ond roedd chwarae yn rowndiau terfynol y twrnamaint hefyd yn gyfle enfawr i Alex, gan iddo o ganlyniad dderbyn cynigion cytundeb i chwarae'n broffesiynol.

“Mae Cwpan yr Ewro yn rhoi mwy o gyfle i chi gael eich gweld oherwydd eich bod yn cystadlu yn erbyn clybiau proffesiynol sy'n chwarae ar lefel uchel iawn,” meddai.

“Fy nod ar ôl gorffen fy ngradd ydy chwarae dramor yn broffesiynol, a dw i wedi cael cryn dipyn o gynigion cytundeb gan glybiau yn Sbaen, yr Eidal a’r Almaen.

“Roedden nhw i gyd yn deall fy mod i eisiau gorffen fy ngradd i ddechrau, felly gobeithio bod hynny’n rhywbeth y galla' i fynd yn ôl ato ar ôl i mi raddio.”

Ym mis Mehefin, chwaraeodd Alex ym mhob gêm wrth i Brydain ennill Pencampwriaeth Ewrop dan 23 gyda record o 100% - a chyrraedd Pencampwriaeth D23 y Byd y flwyddyn nesaf yn Sao Paolo, Brasil.

Dywedodd: “Dyna’r peth mawr nesa’ i ni fel tîm, trio ennill yr aur 'na yn Sao Paolo. Rydyn ni'n gwybod rŵan sut rai ydy rhai o’r timau y byddwn ni yn eu herbyn.”

Yn y pen draw, mae Alex yn targedu Gemau Paralympaidd 2028 yn Los Angeles, ac mae eisoes wedi cymryd ei gam cyntaf i'r gêm hŷn ar ôl iddo gael ei ddrafftio i mewn i helpu’r tîm i baratoi ar gyfer y Gemau eleni.

“Mae Gemau Paralympaidd 2028 yn un o fy nodau hirdymor,” meddai. “Dw i wedi dechrau cael fy integreiddio i gynllun tîm hŷn Prydain Fawr ychydig – mi ges i gyfleoedd yn yr haf i chwarae yn erbyn dynion a merched hŷn Prydain Fawr cyn iddyn nhw fynd i Baris.

“Mae’n rhoi cyfle i’r hyfforddwyr gael golwg ar y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr sy’n cyrraedd y grŵp oedran hŷn.

“Mae'r targed o gyrraedd LA yn bendant yn dal ar y cardiau, felly mae’n rhaid i mi ddal i wthio fy hun cymaint â phosib.”

Roedd Alex yng Ngholeg Llandrillo rhwng 2020 a 2022, ac yn ei flwyddyn olaf cafodd ei enwi’n Enillydd Cyffredinol yng Ngwobrau Cyflawnwr AB y Flwyddyn y coleg. Yn gynharach eleni, dychwelodd i gampws Llandrillo-yn-Rhos gyda swyddog chwaraeon anabledd Ffit Conwy, Mark Richards i arwain sesiwn pêl-fasged cadair olwyn ar gyfer myfyrwyr chwaraeon.

Dywedodd Amy Thomson, Rheolwr y Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Llandrillo: “Rwy’n hynod falch o Alex a phopeth y mae wedi’i gyflawni ers ei gyfnod yng Ngholeg Llandrillo. Mae ei ymroddiad, penderfyniad, ac angerdd am bêl-fasged cadair olwyn wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Mae wedi bod yn fraint ei wylio yn tyfu fel athletwr ac fel person. Mae ennill Campwr Hŷn y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy yn dyst i’w waith caled, a does gen i ddim amheuaeth mai dim ond dechrau ar lawer mwy o lwyddiant ydy hyn iddo fo.

“Mae'r hyn mae o wedi ei gyflawniadau yn esiampl wych i’n holl fyfyrwyr, ac yn dangos be' sy'n bosib ei gyflawni gydag ymrwymiad a dyfalbarhad.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant chwaraeon? Cliciwch yma i ddysgu rhagor am yr ystod o gyrsiau chwaraeon sydd ar gael gan Grŵp Llandrillo Menai.