Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lillie i gystadlu yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Paentio ac Addurno'r Deyrnas Unedig

Am y tro cyntaf erioed daeth un o rowndiau rhanbarthol cystadleuaeth Prentis Paentio ac Addurno'r Flwyddyn i Gymru. Campws Llandrillo-yn-Rhos oedd y lleoliad, felly roedd yn braf iawn gweld Lillie Saunders o Goleg Llandrillo'n cyrraedd y brig

Ddydd Iau (29 Mai) bydd Lillie Saunders o Goleg Llandrillo yn cystadlu yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn y Gymdeithas Paentio ac Addurno.

Enillodd Lillie ei lle ar ôl cyrraedd y brig yn y rownd ranbarthol gyntaf erioed i'w chynnal yng Nghymru, a hynny ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.

Yn awr bydd yn teithio i Goleg Doncaster i brofi ei sgiliau yn erbyn rhai o hyfforddeion paentio ac addurno gorau'r Deyrnas Unedig. Bydd rhaid aros tan fis Gorffennaf am y canlyniadau pan gyhoeddir enwau'r enillwyr yn Seremoni Wobrwyo'r Gymdeithas Paentio ac Addurno (PDA) yn neuadd fawreddog y Plaisterers yn Llundain.

Yn y rowndiau rhanbarthol, roedd gan y cystadleuwyr chwe awr i gynhyrchu ar raddfa fwy, braslunio a phaentio delwedd gymhleth oedd yn profi eu dyfalbarhad, eu cywirdeb a'u crefft. Lillie o'r Rhyl oedd yn fuddugol yng nghategori hŷn y rownd ranbarthol yng Ngholeg Llandrillo. ⁠ ⁠ ⁠

Dywedodd: “Do'n i ddim yn disgwyl ennill felly ges i dipyn o sioc. Dw i'n hoffi gwneud dyluniadau fel hyn – mae'n rhywbeth ychydig yn wahanol. Dw i'n edrych ymlaen at fynd i Doncaster ac mi fydd yn brofiad da.”

Roedd Lillie yn un o blith nifer o fyfyrwyr Coleg Llandrillo i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ynghyd â myfyrwyr eraill o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

⁠Yn ôl Scott Thomas, darlithydd paentio ac addurno yng Ngholeg Llandrillo roedd yn fraint cael cynnal y gystadleuaeth.

“Dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth ddod i Gymru, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael y gwahoddiad i’w chynnal,” meddai.

“Cafodd y myfyrwyr amser penigamp, ac mae'r math yma o gystadleuaeth yn helpu eu hyder, eu datblygiad a'u cyflogadwyedd.”

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Neil Ogilvie o'r PDA, ac Andrew Davies o'r APCT (Association of Painting Craft Teachers).

Dywedodd Neil Ogilvie: “Llongyfarchiadau i Lillie ar gyrraedd Rownd Derfynol Cystadleuaeth Prentis Paentio ac Addurno'r Flwyddyn 2025.

“Gyda dim ond chwe awr i drawsnewid bwrdd mawr gwag yn gopi o ddelwedd gymhleth a gynlluniwyd i brofi eu dyfalbarhad, eu trylwyredd a'u crefft, mae'r gystadleuaeth wedi dod yn llwyfan pwysig i bobl ifanc sy'n dechrau ar yrfa yn y maes, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ei gweld yn ymuno â phrentisiaid eraill o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn Doncaster yr wythnos nesaf.”

Mae Lillie ar ail flwyddyn ei chwrs yng Ngholeg Llandrillo, ac meddai: “Mae'r cwrs yn dda iawn, a dw i wedi ei fwynhau'n fawr hyd yma. Dw i'n bwriadu dod yn ôl y flwyddyn nesa' gan 'mod i wedi llwyddo i gael prentisiaeth.

“Mae'r tiwtoriaid yn dda iawn, gan eu bod nhw'n esbonio beth sydd angen i chi ei wneud tra hefyd yn rhoi'r rhyddid i chi ddysgu drosoch chi eich hun. Mi fyddwn i'n cynghori unrhyw un sy'n meddwl am wneud y cwrs i fynd amdani.”

Hoffet ti weithio yn y diwydiant adeiladu? Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig yr amrywiaeth fwyaf o gyrsiau addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Cymru, o Lefel 1 hyd at lefel Gradd, gan gynnwys prentisiaethau. Dysgwch ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date