Troy'n cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Pŵl Pêl-ddu Ewrop
Dywedodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ei bod hi'n anrhydedd enfawr i chwarae dros ei wlad
Yn ddiweddar, chwaraeodd Troy Maclean, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, dros Gymru ym Mhencampwriaethau Pŵl Pêl-ddu Ewrop.
Enillodd Troy, o Flaenau Ffestiniog ei le yn y bencampwriaeth yn Bridlington ar ôl ennill cystadleuaeth ym Mangor.
Chwaraeodd yn erbyn timau o'r Alban, Gogledd Iwerddon, a Gibraltar, gan ennill 15 o 30 gêm.
Dywedodd Troy: "Roedd yn deimlad braf iawn i gynrychioli Cymru, ac yn anrhydedd mawr iawn."
Mae Troy'n dilyn cwrs Sgiliau Bywyd a Gwaith ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau ac mae wedi cael cynnig swydd yn Lakeside Caffi Mari, Blaenau Ffestiniog, ar ôl cyfnod ar brofiad gwaith yno fel rhan o'i gwrs. Mae’n bwriadu dychwelyd i’r coleg y flwyddyn nesaf i ddilyn cwrs Paratoi at Weithio.
Mae'n dweud bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi rhoi hwb i'w hyder - ac wedi ei annog i barhau i chwarae pŵl.
"Mae fy nghyfnod yn y coleg wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i'n gallu cyflawni unrhyw beth, a chystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol," meddai Troy.
"Diolch i bobl fel fy narlithwyr Morfudd Richards, Siôn Edwards a Hanna Pugh yn benodol am godi fy hunanhyder.
"Mae Aaron Beacher (Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr) hefyd wedi fy nghefnogi ar y daith ac i gynnig fy hun i fod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr."
Dywedodd Aaron: "Mae Troy wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau yn ystod ei gyfnod gydag Undeb y Myfyrwyr. Mae wedi gwneud y mwyaf o amrywiaeth eang o gyfleoedd a phrofiadau ac mae'r rhain wedi cael effaith gadarnhaol ar ei ddatblygiad personol a phroffesiynol.
"Bydd Troy'n parhau a'i rôl fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor y flwyddyn nesaf ac mae ganddo gynlluniau gwych i gefnogi myfyrwyr sydd eisoes yn y coleg a'r myfyrwyr newydd sy'n ymuno â ni'r flwyddyn nesaf.
"Hoffwn ddiolch o galon i Troy am ei holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf a'i longyfarch ar ei gyflawniadau hyd yma - yn cynnwys cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Pŵl Pêl-ddu Ewrop."
Dywedodd Morfudd Richards, arweinydd rhaglenni 'Datblygu Annibyniaeth', 'Sgiliau Bywyd a Gwaith' a 'Paratoi i Weithio': "Mae Troy wedi cael nifer o gyfleoedd i gynrychioli'r coleg mewn digwyddiadau amrywiol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae wedi codi arian dros nifer o elusennau gwahanol.
"Rydym yn cydweithio'n agos â Mantell Gwynedd. Mae Troy wedi gwneud gwaith gwirfoddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi cyflawni 182 awr o waith gwirfoddol - mae wedi bod yn brysur iawn!"
Ychwanegodd: "Dw i'n falch iawn fy mod i wedi cynnig enw Troy i fod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Mae wedi dangos ymrwymiad i'r swydd ers iddo ddechrau arni ac agwedd gyfrifol at y gwaith. Dydy o byth yn llonydd, mae'n gwibio o un pwyllgor i'r llall.
"Roedd cyfnod profiad gwaith Troy yn Lakeside Caffi Mair, Blaenau Ffestiniog yn llwyddiant ysgubol. Mae wedi dysgu sgiliau gwerthfawr iawn o fyd gwaith ac rydym wrth ein boddau ei fod wedi cael cynnig gwaith yno dros yr haf. Am gyflawniad gwych!
"Rydym yn falch iawn o bopeth mae Troy wedi'i gyflawni hyd yma ac yn dymuno bob llwyddiant iddo yn y flwyddyn academaidd nesaf."