Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y flwyddyn orau erioed i Grŵp Llandrillo Menai yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Enillodd dysgwyr a phrentisiaid Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo a Busnes@LlandrilloMenai gyfanswm anhygoel o 43 medal yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru neithiwr

Dyma'r nifer fwyaf o fedalau erioed i Grŵp Llandrillo Menai, a mwy o fedalau nag unrhyw goleg arall o Gymru.

Cynhaliwyd partïon i wylio'r seremoni wobrwyo ar gampysau Coleg Menai yn Llangefni a Choleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ddydd Iau 14 Mawrth, lle ymunodd y teuluoedd a'r darlithwyr â'r cystadleuwyr wrth iddynt gael eu cydnabod am eu cyflawniadau a’u gwaith caled.

Enillodd y dysgwyr llwyddiannus 11 medal aur mewn gwahanol gategorïau gan gynnwys Turnio CNC, Roboteg Ddiwydiannol, Gofal Plant a Gwasanaeth i Gwsmeriaid.

Fe wnaeth dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai ennill cyfanswm syfrdanol o 19 medal arian yn ogystal, mewn categorïau yn amrywio o Gyfrifeg a Menter i Ffotograffiaeth, a Pheirianneg Fecanyddol CAD.

Enillodd y criw llwyddiannus 13 medal efydd hefyd, mewn categorïau o bob math gan gynnwys Gwyddoniaeth Fforensig, Hyfforddiant Personol, Cyfrifeg, Ffotograffiaeth ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ar ben hynny, roedd cyfanswm o 11 medal wedi eu hennill yn y categorïau 'Sgiliau Cynhwysol', gan gynnwys Gofal Plant, Gwasanaethau Bwyty, Trin Gwallt, Garddwriaeth a mwy.

Meddai Kirsty Georgenson, enillydd medal efydd y categori Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Dw i'n hapus iawn i dderbyn y wobr hon, doeddwn i ddim yn disgwyl hyn ac mae wedi rhoi hwb i fy hyder."

Cynhaliwyd nifer o rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai, lle daeth cystadleuwyr o bob rhan o’r wlad ynghyd i gymryd rhan yn yr heriau a’r tasgau.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy'n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,

“Mae’r dysgwyr wedi arddangos eu sgiliau ar y lefel uchaf ac rydyn ni’n hynod o falch ohonynt. Mae eu llwyddiant yn dysteb i'w tiwtoriaid a'u haseswyr, oherwydd allen nhw ddim bod wedi cyrraedd yr uchelfannau hyn hebddynt. Rydw i’n dymuno'r gorau iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Enillwyr medalau Coleg Llandrillo

Enillwyr medalau Busnes@LlandrilloMenai

Enillwyr medalau Coleg Menai

Enillwyr medalau Coleg Meirion-Dwyfor

Cynhaliwyd y cystadlaethau ym mis Ionawr a mis Chwefror, gyda 1,129 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru yn cystadlu i fod yn ddysgwyr 'gorau'r wlad' yn eu sector.

Calonogol oedd gweld cynnydd cyson yn nifer y merched oedd yn cystadlu mewn categorïau adeiladu fel gwaith coed, paentio ac addurno, ac ynni adnewyddadwy sy'n draddodiadol wedi cael eu cysylltu â dynion. Eleni, merched oedd 20% o'r cystadleuwyr ac mae hyn yn gynnydd o 10% ers 2020.

I gael rhagor o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru ac i gael cyfle i gynrychioli eich gwlad yn 2024 a 2025, ewch i https://inspiringskills.gov.wales/