Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr y Gyfraith yn cwrdd ag Aelodau o’r Senedd yng Nghaerdydd

Cymerodd y myfyrwyr Lefel A o Goleg Llandrillo ran mewn dadl a chawsant daith o gwmpas siambr y Senedd

Aeth myfyrwyr o Goleg Llandrillo i ymweld â’r Senedd yn ddiweddar i ddysgu mwy am sut mae deddfau’n cael eu gwneud yng Nghymru.

Teithiodd y myfyrwyr Lefel A sy’n astudio’r gyfraith o gampws y Rhyl i Gaerdydd i ymweld â’r Senedd. Cawsant hefyd gyfarfod â’r Aelodau o’r Senedd, Sam Rowlands a Mark Isherwood.

Cawsant daith o gwmpas siambr y Senedd, a chawsant gyfle hefyd i gynnal eu dadl eu hunain.

Dywedodd Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol: “Roedd yn braf croesawu myfyrwyr y gyfraith o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, a siarad â nhw am yr hyn yr ydym yn ei wneud fel aelodau o’r Senedd.

“Roedd yn wych eu gweld mor frwd dros ymweld â’r Senedd, ac fe ofynnon nhw ambell gwestiwn heriol a chraff iawn i mi.

“Dw i’n meddwl ei bod mor bwysig bod ein pobl ifanc yn dysgu mwy am wleidyddiaeth a’r Senedd ac rydw i bob amser yn barod i groesawu pobl ifanc o golegau neu ysgolion y Gogledd i ymweld â’r Senedd.”

Dywedodd Mark Isherwood, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru: “Roedd hi’n bleser cwrdd â grŵp o fyfyrwyr Lefel A y gyfraith o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, ac ateb eu cwestiynau am sut mae busnes y Senedd a deddfu yn gweithio.

“Pobl ifanc yw’n dyfodol, ac mae addysg a llythrennedd democrataidd yng Nghymru yn hanfodol i iechyd ein democratiaeth.”

Dywedodd Peter Cornish, darlithydd Lefel A yn y gyfraith: “Roedd yn brofiad anhygoel i’r myfyrwyr, ac fe wnaethon nhw i gyd fwynhau’r diwrnod yn fawr iawn. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd o’r profiad hwn o fantais i’r myfyrwyr yn yr arholiadau sydd i ddod ym mis Mai.”

Oes gen ti ddiddordeb mewn astudio pynciau Lefel A gyda Grŵp Llandrillo Menai? Clicia yma i gael gwybod rhagor am yr ystod o bynciau sydd ar gael.