Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Profiad gwych i Demi a Katie yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Y ddwy fyfyrwraig oedd y rhai cyntaf o’r cwrs Teithio a Thwristiaeth i gynrychioli Coleg Llandrillo

Yn ddiweddar, Katie Crowther a Demi Leigh Farrar oedd y myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth cyntaf i gynrychioli Coleg Llandrillo yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Teithiodd y dysgwyr Lefel 2 i ganolfan siopa fwyaf Cymru, Canolfan Dewi Sant yng Nghaerdydd, i gystadlu yn y categori Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

Ynghyd â 10 cystadleuydd arall o bob rhan o Gymru, cafodd Katie a Demi eu profi mewn sefyllfaoedd amrywiol, a chawsant eu beirniadu gan banel o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant.

Roedd yn rhaid iddynt ddelio â chwsmeriaid, ymateb i e-byst a chwarae rôl mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Maen nhw’n awr yn aros tan fis Mawrth i gael clywed a fyddan nhw'n cyrraedd y rownd nesaf, gyda disgwyl i’r cystadleuwyr sy'n dod yn gyntaf ac yn ail gael mynd ymlaen i'r cam nesaf.

Roedd y cyfle i gynrychioli Coleg Llandrillo yn y gystadleuaeth yn agored i’r holl fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Lefel 2. Cymerodd y dysgwyr ran mewn proses ddethol lle bu'n rhaid iddynt ddangos eu sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid, a dewiswyd Katie a Demi fel yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Yna cawsant hyfforddiant oedd yn cynnwys gweithio yn y swyddfa deithio ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, a delio ag ymholiadau cwsmeriaid ym mwyty'r Orme View.

Mwynhaodd y ddwy fyfyrwraig y gystadleuaeth, sydd wedi datblygu eu sgiliau a gwella eu CVs wrth iddynt anelu am yrfaoedd yn y diwydiant.

Dywedodd Demi: “Roedd yn brofiad mor dda. Roedd yn agoriad llygad mawr i'r mathau o bethau y bydd yn rhaid i ni ddelio â nhw pan fyddwn ni yn y gweithle.

“Rydyn ni wedi cael y profiad o weithio mewn asiantaeth deithio a delio â chwsmeriaid rŵan. Yn y diwydiant teithio a thwristiaeth mae’n rhaid i chi allu sgwrsio â phobl. Roedd hefyd yn brofiad da iawn o ran bywyd yn gyffredinol, oherwydd rydych chi'n mynd i ddelio â phobl trwy gydol eich oes.”

Dywedodd Katie fod dod i'r coleg wedi rhoi hwb i'w hyder ac wedi rhoi cyfleoedd iddi nad oedd hi wedi'u disgwyl.

“Mae dod i’r coleg wedi bod yn beth mawr i mi, ac mi fuaswn yn ei argymell i unrhyw un,” meddai. “Roedd yn braf cael mynd allan yna a rhoi fy hun ymlaen ar gyfer y gystadleuaeth. Dydw i ddim yn meddwl y buaswn i byth wedi gwneud hynny o’r blaen. Roedd yn brofiad aruthrol.

“Roedd yn wych gweld pa mor broffesiynol oedd staff y gystadleuaeth gyda ni. Roedden nhw'n hyderus iawn ac yn rhoi teimlad braf i ni, gan wneud popeth yn haws. Mae hyn yn bendant wedi helpu i ddangos sut rydyn ni i fod i ymddwyn gyda phobl eraill wrth wasanaethu cwsmeriaid. Byddai'n braf mynd ymlaen i'r rownd nesaf, ond roedd y profiad yn ddigon i mi. Roedd yn anhygoel.”

Dywedodd Demi fod y cwrs teithio a thwristiaeth wedi agor drysau iddi ers iddi ddechrau ym mis Medi.

Meddai: “Dw i’n gweithio’n rhan-amser mewn asiantaeth deithio, fuaswn i heb gael y swydd heblaw fy mod i ar y cwrs yma.

“Yn 16 oed, mae cael swydd ran-amser yn gwneud yr hyn dw i eisiau ei wneud yn y dyfodol yn dda iawn. Mae’r ffaith fy mod i ar gwrs Teithio a Thwristiaeth ac wedi gweithio yn y swyddfa deithio yma, yn golygu bod gen i lawer o brofiad a gwybodaeth yn barod.”

Dywedodd Sonia McClave, darlithydd ar y cwrs Teithio a Thwristiaeth: “Hon oedd y gystadleuaeth gyntaf i ddysgwyr Teithio a Thwristiaeth gymryd rhan ynddi, felly roedd yn gyfle cyffrous i ni.

“Yn dilyn paratoadau manwl gyda’r tiwtoriaid, roedd Katie a Demi yn gallu arddangos eu sgiliau gyda’r 10 cystadleuydd arall. Cawsant eu rhoi mewn gwahanol sefyllfaoedd gan wynebu heriau amrywiol mewn amgylchedd byd gwaith go iawn, o flaen gweithwyr proffesiynol o'r diwydiant.

“Roeddwn i’n falch iawn o gael adborth ardderchog am y ddwy gan y beirniaid, am safonau eu cyflwyniad personol a’r sgiliau a ddangoswyd trwy gydol y tasgau.”

Ydych chi eisiau gweithio ym myd cyffrous Teithio a Thwristiaeth? Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau amrywiol