Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Teithio a Thwristiaeth Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gychwyn gyrfa ym maes teithio a thwristiaeth? Ydych chi eisiau dilyn cwrs Addysg Bellach galwedigaethol?

Ar y cwrs hwn cewch gyflwyniad pellach i'r sector teithio a thwristiaeth. Byddwch yn parhau i ddatblygu sgiliau sylfaenol y diwydiant ynghyd â set o sgiliau mwy arbenigol.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 1 perthnasol, neu sydd newydd sefyll eu harholiadau TGAU. Byddwch yn ennill cymwysterau lluosog a bydd yn fan cychwyn i'ch gyrfa. Cewch hefyd elwa ar deithiau addysgol i lefydd ym Mhrydain a thramor.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), ac 1 TGAU gradd E neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Sesiynau trafod a dosbarthiadau tiwtorial
  • Gwaith grŵp
  • Ymweliadau allanol
  • Siaradwyr gwadd
  • Astudiaethau achos
  • Profiad Gwaith o fewn y Coleg (Swyddfa Deithio)
  • Profiad gwaith yn Sbaen neu Bortiwgal (Llandrillo-yn-Rhos yn unig)
  • Amgylchedd dysgu rhithwir
  • Profiad gwaith yn Ewrop

Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Gwaith portffolio
  • Gwaith cwrs ac aseiniadau
  • Prosiectau
  • Gwaith grŵp
  • Cyflwyniadau

Dilyniant

Os gwnewch chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith. Byddwch wedi dysgu sgiliau a safonau safon uwch y diwydiant a byddwch yn gallu yn gallu gweithio tuag at amrywiaeth o yrfaoedd yn syth neu yn dilyn hyfforddiant pellach. Mae'r gyrfaoedd yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau twristiaeth lleol a rhanbarthol, ym maes atyniadau cenedlaethol, cynadleddau a digwyddiadau yn ogystal â gweithio dramor gyda chwmnïau awyrennau neu reolwyr teithiau a chyrchfannau.

O ran addysg, gallech fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gymwysterau lefel 3 ym maes twristiaeth a theithio neu bwnc arall, ac mae yna nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys Teithio a Thwristiaeth Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Teithio a Thwristiaeth

Dwyieithog:

n/a

Teithio a Thwristiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Teithio a Thwristiaeth