Miloedd yn heidio i babell Glynllifon yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon
Roedd arddangosiadau cneifio defaid gan staff Glynllifon, arddangosfa o dractorau hen a newydd, adeiladu blychau adar a llawer mwy ymhlith yr uchafbwyntiau
Ymwelodd miloedd o bobl â phabell fawr Glynllifon yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon dros y penwythnos.
Mae'r ŵyl, a gynhaliwyd am yr wythfed tro ddydd Sadwrn, yn un o'r rhai mwyaf o'i bath yng Nghymru, gan ddenu tua 35,000 o bobl bob blwyddyn.
Cafodd yr ymwelwyr â phabell Glynllifon gyfle i weld arddangosiadau trawiadol gan gyn-bencampwr cneifio â llaw y byd, Elfed Jackson a'r cneifiwr â pheiriant enwog, Ifan Davies, sy'n gallu cneifio hyd at 400 o ddefaid mewn un diwrnod. Mae'r ddau yn gweithio yng Nglynllifon.
Cafodd blant a phobl ifanc gyfle i adeiladu blychau adar gyda chymorth staff coedwigaeth profiadol, tra cynhaliodd adran beirianneg Glynllifon arddangosfa o dractorau modern a thraddodiadol, a chafodd ymwelwyr sgwrsio gyda staff am gyrsiau Coleg Glynllifon.
Roedd hefyd llond lle o anifeiliaid fferm ac egsotig i'w gweld yn y babell, gan gynnwys defaid, moch, merlod, geifr, nadroedd, pryfed cop a thrychfilod. Yn newydd eleni, cafwyd cyflwyniad hwyliog a rhyngweithiol i blant gan Dai y Ffermwr a Mot y Ci o'r enw 'O ble mae ein bwyd yn dod?'.
Dywedodd Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai: “Gobeithio bod yr holl ymwelwyr wedi mwynhau dod i’n gweld ni yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon ddydd Sadwrn.
“Mae'r ŵyl yn bwysig iawn i Goleg Glynllifon ymgysylltu â'r gymuned, ac mae'n gyfle gwych i ddysgwyr y dyfodol ddysgu rhagor am yr ystod o gyrsiau sydd ar gael yng Nglynllifon. Edrychwn ymlaen at weld llawer o'r ymwelwyr hynny yn astudio gyda ni yn y blynyddoedd i ddod!”
Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm a choedwig Glynllifon yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac amaethyddiaeth. I weld y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.