Swydd i Isaac ym mwyty newydd Bryn Williams yn Theatr Clwyd
Cafodd y myfyriwr o Goleg Llandrillo brofiad gwaith gydag Academi Bryn Williams sy'n bartneriaeth rhwng y coleg a'r cogydd adnabyddus
Mae Isaac Williams sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo wedi cael swydd ym mwyty newydd Bryn Williams yn Theatr Clwyd ar ôl gwneud argraff ar y cogydd adnabyddus tra oedd ar brofiad gwaith.
Mae Isaac wedi cael swydd fel cogydd iau ar ôl bod ar brofiad gwaith llwyddiannus ym Mhorth Eirias, bwyty Bryn ym Mae Colwyn.
Treuliodd y myfyriwr 20 oed sawl wythnos ym Mhorth Eirias fel rhan o Academi Bryn Williams -partneriaeth sy'n cynnig cyfleoedd mentora a phrofiad gwaith i ddysgwyr lletygarwch addawol o'r coleg.
Pan fydd bwyty newydd Bryn Williams yn agor yn Theatr Clwyd, bydd Isaac yn rhan o fenter ddiweddaraf y cogydd adnabyddus o'r dechrau un.
“Allwn i ddim bod wedi gofyn am gyfle gwell,” meddai Isaac, sy’n byw yn Nhal-y-cafn yn Nyffryn Conwy. “Ddim yn aml mae'r cyfle'n codi i weithio mewn busnes newydd sbon. Mae'n gyfle heb ei ail.”
Bydd Isaac yn dychwelyd i Goleg Llandrillo ym mis Medi i ddilyn cwrs Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau, ar ôl cwblhau cwrs Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yr haf hwn.
Cafodd gyfle i weithio gyda Bryn yn gynharach eleni, pan oedd cyn-enillydd y Great British Menu ymysg y cyn-fyfyrwyr a ddaeth yn ôl i baratoi cinio dathlu ar achlysur ymddeoliad y darlithydd Mike Evans.
Yn ddiweddarach, cafodd Isaac ei ddewis i fynd am bythefnos o brofiad gwaith i Barc Eirias, gan dreulio rhan o'r amser hwnnw'n gweithio ochr yn ochr â Bryn.
“Pan gerddais i mewn i’r bwyty fe wnaeth o fy adnabod i'n syth, oedd yn braf iawn,” meddai Isaac.
“Mi ddangosodd i mi lawer o wahanol ffyrdd o baratoi bwyd – mae o'n gwybod llawer iawn wrth gwrs, ond yn egluro popeth mewn ffordd hawdd ei deall.
“Dw i'n meddwl bod diwylliant y diwydiant wedi newid llawer, a'i fod bellach yn cynnig awyrgylch mwy creadigol a mwy o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
“Y cogyddion ym Mhorth Eirias oedd y cogyddion hapusaf i mi erioed weithio gyda nhw, ac roedden nhw i gyd yn dweud bod gweithio i Bryn yn brofiad anhygoel.”
Pan ddaeth ei leoliad gwaith i ben, gwirfoddolodd Isaac i weithio ym Mhorth Eirias dros gyfnod prysur y gwyliau hanner tymor, ac yn ddiweddarach cafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer y swydd wag yn Theatr Clwyd.
Ar ôl cael cyfweliad llwyddiannus, bydd Isaac yn awr yn gweithio bedwar diwrnod yr wythnos ym mwyty Bryn Williams yn Theatr Clwyd, ac mae hyn yn rhoi amser iddo barhau â'i astudiaethau ac i wirfoddoli yng nghlwb ieuenctid eglwys leol.
Dywedodd: “Mae Bryn a'r cogyddion eraill yn dweud ei bod hi'n bwysig cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Maen nhw am i mi allu dal ati i wirfoddoli oherwydd eu bod yn gwybod ei fod yn rhan bwysig o fy mywyd.”
Cafodd Isaac ei fagu yn yr Unol Daleithiau, yn West Virginia, Illinois a Florida. Ysgogwyd ei uchelgais i weithio gyda bwyd ar dripiau pysgota ac ymweliadau teuluol â bwytai, cyn i'w deulu symud i ogledd Cymru ychydig cyn y pandemig.
“Dw i wedi rhoi fy mryd ar fod yn gogydd ers pan oeddwn i’n bedair neu bum mlwydd oed,” meddai. “Pan oedden ni’n byw yn Florida, ro'n i’n hoff iawn o bysgota – draenog y môr neu frithyll ffres. Fy hoff beth i'w wneud oedd ei ddal a'i ffiledu'n syth bin, ac yna'i goginio a'i fwyta – mae'n brofiad anhygoel.
“Peth pwysig arall oedd mynd i fwytai. Roedden ni'n byw ger Disney World, felly mi faswn i'n hel fy arian ac yn gofyn i fy rhieni fynd â fi i fwytai da yno.”
Mae gweithio i Bryn yn cau cylch i Isaac, oherwydd yn anuniongyrchol y cogydd o Ddinbych oedd un o'r rhesymau pam y gwnaeth gais i Goleg Llandrillo.
“Ro'n i’n gweithio mewn bwyty ond do'n i ddim yn cael coginio gymaint â hynny,” meddai. “Felly mi wnes i chwilio ar Google a gweld bod cogyddion gorau'r ardal, gan gynnwys Bryn Williams, i gyd wedi astudio yn y coleg.
“Yn fuan ar ôl i ni symud i ogledd Cymru, digwyddodd Covid, felly am bron i ddwy flynedd dim ond fi a fy nheulu oedd yna. Felly'r coleg oedd un o fy mhrofiadau cyntaf o ddiwylliant Prydain. Dyna'r tro cyntaf i mi fod yn rhan o grŵp o bobl y tu allan i'r gwaith, a dw i dal mewn cysylltiad â ffrindiau o fy nghwrs Lefel 2.
“Mi wnes i fwynhau’r cwrs yn arw. Gan fy mod i wastad wedi gwybod 'mod i eisiau bod yn gogydd, ro'n i wedi dysgu llawer o'r theori'n barod. Ond do'n i ddim wedi arfer â'r ochr ymarferol o baratoi bwyd cain – er 'mod i wedi gweld y cyfan yn cael ei wneud.
“Roedd y staff yn gefnogol iawn ac yn barod iawn i ddangos gwahanol dechnegau i mi. Yn y diwedd mi wnaeth popeth glicio a dod i wneud synnwyr. Dw i wedi cael y profiad ymarferol gorau bosib yn y byd coginio.”
Yn ddiweddar, enillodd Isaac wobr Cyflawnwr y Flwyddyn adran Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo, a gwobr arian am wirfoddoli fel llysgennad llesiant myfyrwyr.
Mae'n edrych ymlaen at ddechrau ei gwrs gradd mewn Celfyddydau Coginio, sy'n cynnwys ystod eang o feysydd fel bwyd rhyngwladol a gastronomeg gyfoes, yn ogystal â marchnata, datblygu busnes, diogelwch bwyd ac ati.
“Mae’n cynnwys modiwlau fel rheoli adnoddau, ffotograffiaeth bwyd a marchnata i helpu i ddeall sut i gael cyhoeddusrwydd i’ch busnes,” meddai Isaac.
“Un diwrnod mi hoffwn fod yn berchen ar fy mwyty fy hun, a bod mewn sefyllfa i ddefnyddio fy ngradd yn y diwydiant.”
Trwy aros yng Ngholeg Llandrillo i wneud ei radd gall Isaac barhau i gael cefnogaeth gan wynebau cyfarwydd. Ychwanegodd: “Mae’r darlithwyr wedi fy helpu i gymaint, a dw i wedi magu hyder yn y gegin a hyder mwy cyffredinol.
“Maen nhw hyd yn oed wedi fy helpu gyda sefyllfaoedd y tu allan i’r coleg. Mae ganddyn nhw lawer o wybodaeth a phrofiad ac maen nhw'n barod iawn i fynd yr ail filltir.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd, yn ogystal â phrentisiaethau, cyrsiau NVQ a hyfforddiant penodol i weithwyr. Dysgwch ragor yma.