Cynlluniau cyffrous band Y Ddelwedd yn dilyn eu buddugoliaeth yn yr Eisteddfod
Y band o Goleg-Meirion Dwyfor yn trafod ennill Brwydr y Bandiau, beth maen nhw'n bwriadu ei wneud gyda'r wobr o £1,000, a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae'r misoedd nesaf yn mynd i fod yn rhai prysur i'r banc Y Ddelwedd ar ôl ennill Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Aelodau'r band ydy Cian Clinc (drymiau), Eban Davies (gitâr), Hari Emlyn (prif lais), Enlli Jones (llais cefndir), Owen Jones (prif gitâr) a Isaac Parsons (gitâr fas) ac maen nhw'n fyfyrwyr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
Ar ddechrau'r tymor newydd yn y coleg, maen nhw'n sgwrsio am y profiad o chwarae ar lwyfan Maes B, eu cynlluniau ar gyfer y wobr ariannol, a ble maen nhw'n gobeithio bod ymhen pum mlynedd.
Sut brofiad oedd perfformio yn y gystadleuaeth Brwydr y Bandiau?
Isaac: "Roedd chwarae ar lwyfan o'r maint yna'n brofiad gwych. Dyma'r amgylchedd mwyaf proffesiynol i ni chwarae ynddi, roedden ni'n cael ein trin fel chwaraewyr proffesiynol ac yn cael defnyddio offer proffesiynol, profiad gwych. Roedd chwarae o flaen torf o'r maint yna'n arbennig hefyd, i wnes i fwynhau ymateb y dorf."
Beth mae ennill Brwydr y Bandiau a'r cyfle i chwarae ar lwyfan Maes B yn ei olygu i chi?
Cian: "Mae ennill yn golygu llawer i ni, doedden ni ddim yn disgwyl ennill o gwbl. Roedd pob un o'r bandiau eraill yn chwarae'n dda iawn, roedd hi'n gystadleuaeth anodd. Mi oedd chwarae ar lwyfan Maes B yn brofiad gwych. Roedden ni wedi penderfynu mynd amdani o ddifri yn y gig honno, ac mi wnaethon ni fwynhau chwarae ar y llwyfan, mi oedd yn brofiad cyffrous iawn."
Sut bydd y wobr o £1,000 o gymorth i chi?
Enlli: "Mae'r wobr yn un hael iawn ac mi fydd o gymorth mawr i ni fel band, i ddatblygu a rhannu ein brwdfrydedd gyda chymaint o bobl â phosib.
"Dan ni wedi penderfynu peidio rhannu'r wobr rhyngon ni - mi fydd y pres yn mynd tuag at recordio albwm, er mwyn i bobl glywed ein cerddoriaeth ar record o safon. Gobeithio bydd hyn yn golygu bod ein cerddoriaeth i'w chlywed ar y radio ac ar restrau gwrando pobl.
"Hoffem ddiolch i'r Eisteddfod am y cyfle gwych, bythgofiadwy hwn, wnawn ni byth anghofio'r daith at greu albwm, y broses o ddatblygu fel band ac o ddatblygu ein sgiliau unigol."
Beth sydd ar y gweill nesaf?
Hari: "Mae dwy ŵyl ar y calendr: Gŵyl Gwyllt ym Mhwllheli (31 Awst) a Gŵyl y Glaw, Blaenau Ffestiniog (20 Medi). Mi fyddwn ni'n chwarae hefyd yn CellB, Blaenau Ffestiniog ar 6 Medi ac yn Hwyl yr Ŵyl, Pwllheli (28-30 Tachwedd). A rhwng hynny mi fyddwn ni'n cysylltu â labeli recordio ac yn gweithio ar albwm. Mi fydd ymarfer ac ysgrifennu yn flaenoriaeth hefyd, 'dan ni'n trio ymarfer o leiaf unwaith yr wythnos (sy'n anodd iawn yn ystod cyfnod gwallgof yr haf). Mae pawb yn brysur, a dyna'r ffordd orau i fod."
Sut fyddech chi'n disgrifio eich sain? O ble daw syniadau ar gyfer caneuon?
Owen: "Mae dylanwad o sawl cyfeiriad ar ein sain. Mae gan bob aelod o'r band wahanol chwaeth gerddorol, ac mae hynny i'w glywed yn ein caneuon.
"Dw i'n meddwl bod y sain yn eithaf arbrofol. Dydyn ni ddim yn ysgrifennu caneuon ffwrdd â hi, gyda chordiau hawdd i'w clywed a bachyn syml - mae ystyr dyfnach i'n caneuon. Dydyn ni ddim yn ysgrifennu yn ddibwrpas, dan ni'n creu oherwydd dyna 'dan ni'n ei wneud fel grŵp. Mae ein caneuon yn deillio o sesiynau jamio hir, ac yn cael eu rhoi at ei gilydd o hynny.”
Sut mae bod yn y coleg wedi eich helpu gyda'ch cerddoriaeth?
Eban: “Rydym wedi derbyn llawer o gyfleoedd i chwarae yn ffreutur y coleg yn ystod amseroedd cinio gan roi profiad yn ein dyddiau cynnar i ni o chwarae'n fyw o flaen cynulleidfa. Rydym hefyd yn ddiolchgar o Osian Jones o'r coleg sydd wedi bod yn hynod o gefnogol drwy hysbysebu'r band a chynnig gigiau.”
Ble ydych chi eisiau bod ymhen pum mlynedd?
Y band: “Ar ôl pum mlynedd y gobaith ydy y byddwn wedi gwella yn ein sgiliau. A gobeithio hefyd y byddwn ni wedi datblygu fel band, y bydd pobl yn adnabod yr enw ac y byddwn yn chwarae ym mhob cwr o Gymru, y tu hwnt i'r gogledd, a hyd yn oed yn y DU."
Ydych chi eisiau astudio cyrsiau Lefel A? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig mwy na 30 o gyrsiau yn ein canolfannau Chweched Dosbarth yn Nolgellau, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl. Dysgwch ragor yma.