Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cystadleuaethau Coginio â blas Rhyngwladol

Aeth degau o gogyddion o bob cwr o Gymru a Lloegr ati i gystadlu ym Mhencampwriaethau Coginio Cymru'r wythnos hon gan ddod â holl gystadlaethau coginio'r genedl ynghyd mewn un lleoliad, yn cynnwys cystadlaethau arobryn Cogydd Cenedlaethol ac Iau Cymru.

Cynhelir y pencampwriaethau bob mis Chwefror a rhoddir cyfle i gogyddion gorau'r DU ddangos eu doniau ar ôl dwy flynedd heb gystadlu oherwydd pandemig Covid-19.

Bwriad y digwyddiad yw dathlu'r doniau coginio a'r amrywiaeth ysblennydd o fwyd da a geir yng Nghymru. Mae tri diwrnod y pencampwriaethau yn llawn cystadlaethau cyffrous ar gyfer dysgwyr, cogyddion iau, uwch gogyddion a staff gweini.

Denodd y cystadlaethau Cogydd Iau a Chogydd Cenedlaethol Cymru, a drefnwyd gan Gymdeithas Coginio Cymru, â chogyddion talentog ynghyd o bob cwr o Gymru a Lloegr i gystadlu am dlysau'r enillwyr. Roedd cyfanswm o ddeg cogydd yn rowndiau terfynol prif gystadlaethau Cymru, ac enillodd y rhai ddaeth i'r brig amrywiaeth o wobrau gwych.

Mewn noson gyflwyno yn Llandudno, oriau ar ôl i bencampwriaeth eleni ddod i ben, cyhoeddodd tîm o feirniaid enwog mai Dalton Weir, myfyriwr 22oed sy'n dilyn cwrs gradd mewn Lletygarwch ac Arlwyo oedd enillydd gwobr Prif Gogydd Iau Cymru. Enillydd cystadleuaeth Cogydd Cenedlaethol Cymru oedd Thomas Herbert, 24 oed, o Lyn Ebwy, sy'n gweithio yn Luckham Park Hotel & Spa, Chippenham.

Enillodd Dalton gystadleuaeth frwd rhyngddo a phedwar cystadleuydd arall:

Katie Duffy, prentis yn Stradey Park Hotel, Llanelli: Stephanie Grace Belcher, is-gogydd yn Peterstone Court Hotel, Llanhamlach, Aberhonddu; Falon Bailie, prentis gogydd yn Foyles of Glasbury, Glasbury a Cai Morris, chef de partie yn The Bull, Biwmaris.

Derbyniodd y ddau enillydd dlysau draig gan Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru yn ystod cinio gwobrwyo Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol a gynhaliwyd yn yr Imperial Hotel, Llandudno neithiwr (nos Iau).

Denodd y cystadlaethau i gogyddion a dysgwyr blaen tŷ ,fyfyrwyr o golegau ledled Cymru a Lloegr. Bu llawer o fyfyrwyr Coleg Llandrillo yn cystadlu, gan ennill gwobr y gorau yn y dosbarth, a chasgliad o fedalau rhyngddynt yn ystod y tri diwrnod o gystadlu. Yn ogystal â hyn, cyflwynwyd y wobr Hylendid ECOLAB iddynt a Gwobr y beirniaid am Fwyty Byw Gorau.

Enillodd Heather Spencer o Lanfairfechan a Thomas Perkins o Gyffordd Llandudno sy'n dilyn cwrs Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, wobr aur Gorau yn y Dosbarth (Her Dosbarth Bwtsiera Cyw Iâr a Chasseur Clasurol). Yn ogystal â hyn, enillodd Heather Spencer wobr Aur - Gorau yn y Dosbarth yn Her y Bwyty a gwobr arbennig y beirniaid am Fwyty Byw Gorau.

Enillodd Alex Nicholson, 20 oed o'r Rhyl, wobr Aur ac Efydd yn yr Her Bwyty a Flambe Prif Gwrs.

Enillodd Rhian James 16 oed o Gyffordd Llandudno wobr Aur mewn Sgiliau Trin Cyllyll - Torri Ffrwythau. Mae Rhian James yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf ac yn dilyn y cwrs Diploma Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol a'r cwrs Gwasanaeth Bwyd a Diod.

Paratôdd Jediah Kristian o Gonwy crepe flambe ardderchog a derbyniodd wobr Arian yn y categori pwdin Flambe. Yn ogystal, enillodd y wobr efydd yn y gystadleuaeth Prif Gwrs Flambe. Cyrhaeddodd Jediah rownd derfynol y gystadleuaeth UK WorldSkills yn Glasgow.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Arwyn Watkins: "Mae Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru'n achlysur delfrydol i ddod â'r holl gystadlaethau coginio hyn ynghyd mewn un lleoliad. "Ar ôl heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf, roeddem wrth ein boddau i gynnal digwyddiad gwych i arddangos y doniau a'r sgiliau rhagorol sydd yn y diwydiant lletygarwch.

Derbyniodd Grŵp Llandrillo Menai wobr Pen-blwydd Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines yn ddiweddar ym Mhalas Buckingham am ddarparu addysg o safon fyd-eang ym maes lletygarwch ac arlwyo ar bob lefel astudio. Yn yr arolygiad Estyn diweddar gan y llywodraeth, dyfarnwyd bod darpariaeth lletygarwch ac arlwyo'r coleg yn ardderchog.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Email: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk

Web: www.gllm.ac.uk