Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

YSGOLORIAETH CYMHELLIANT y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yw gweledigaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac un o’r ffyrdd i gyflawni hyn yw drwy gyfrwng yr Ysgoloriaethau.

Un ohonynt yw’r Ysgoloriaethau Cymhelliant, lle rhoddir £1,500 dros gyfnod o dair blynedd (£500 y flwyddyn), i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, sy’n astudio o leiaf 33% neu 40 credyd o’u cwrs Addysg Uwch, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, mae’r cyfnod ymgeisio rhwng 1 Mawrth a 30 Mehefin, ac yna i nifer cyfyngedig rhwng Medi a Hydref 2022.

Un o flaenoriaethau Grŵp Llandrillo Menai yw cynyddu nifer y cyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, mae pedwar o gyrsiau Addysg Uwch y Grŵp yn gymwys am yr Ysgoloriaeth, sef:

  • Gradd Sylfaen Rheolaeth Busnes (FdA) Coleg Meirion - Dwyfor, Dolgellau.
  • Gradd Sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol (FdA) Coleg Meirion Dwyfor - Dolgellau.
  • FDSC Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym Maes Chwaraeon) - Coleg Llandrillo
  • ● Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym Maes Chwaraeon) Coleg Meirion - Dwyfor, Dolgellau

Mae’r ffenestr ymgeisio yn agor 1 Mawrth 2022 am hanner dydd. Ewch amdani!

Ysgoloriaeth Cymhelliant (colegcymraeg.ac.uk).

I ddarganfod os yw eich cwrs chi yn gymwys, mae’r chwilotydd cyrsiau yma.

Rydym yn gobeithio cynyddu nifer y cyrsiau sy’n gymwys ar gyfer yr Ysgoloriaeth Cymhelliant yn y Grŵp yn ystod yr wythnosau nesaf! Cadwch lygad am fwy o newyddion cyffrous!

Y newyddion da arall yw fod modd i fyfyrwyr, o ba bynnag flwyddyn, gael bwrsari mewnol Grŵp Llandrillo Menai os ydyn nhw’n astudio 33% neu 40 credyd o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Bwrsari gwerth £300 y flwyddyn wrth gwblhau gwaith llafar, ysgrifenedig neu drafodaeth â’r tiwtor, yn Gymraeg. Cysylltwch â’ch tiwtor personol am ragor o wybodaeth, gan fod y ffurflen gais yn syml.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Ysgoloriaethau eraill sydd ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu gymorth i lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch â’r Swyddogion Cangen ar colegcymraeg@gllm.ac.uk