Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yw'r Dewis A* ar gyfer llwyddiant Lefel A yng Ngogledd Cymru

Mae'r broses ymgeisio ar gyfer Medi 2022 yng nghanolfannau chweched dosbarth ein tri choleg – Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai – yn awr wedi agor.

Mae'r grŵp colegau'n annog darpar fyfyrwyr i ymgeisio'n fuan gan fod y llefydd ar bron i 40 o gyrsiau lefel A gwahanol yn llenwi'n gyflym.

Yn 2021, roedd cyfradd llwyddo ein myfyrwyr Lefel A yn 99% ac aeth llawer ohonynt ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw sy'n perthyn i Grŵp Russell, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt! Ar ben hynny, llwyddodd 50% o'n myfyrwyr Lefel A i gael graddau A* ac A!

Yn ein canolfannau Chweched Dosbarth yn y Rhyl, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau a Phwllheli ceir cyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy'n adlewyrchu'r byd go iawn. Pan na fyddwch mewn gwers, cewch ddefnyddio'r amrywiol gyfleusterau sy'n cynnwys y llyfrgelloedd, y canolfannau chwaraeon a'r campfeydd, neu ymlacio gyda'ch ffrindiau dros baned o goffi yn un o'r caffis a'r ffreuturau niferus.

Mae'n anodd i ddisgyblion sydd ym mlwyddyn 11 ar hyn o bryd benderfynu beth i'w wneud ar ôl sefyll eu harholiadau TGAU a bydd llawer yn mynd am y dewis hawsaf, sef aros yn yr ysgol. Ond, beth os oes yna ddewis arall?

Dywed myfyrwyr Lefel A Grŵp Llandrillo fod manteision enfawr i astudio yn y coleg:

  • Mwy o ddewis – gallwch ddewis o blith bron i 40 pwnc Lefel AS a Lefel A gwahanol

  • Mwy o gymorth a chefnogaeth – mae'n hawdd troi at y tiwtoriaid personol, y tîm cymorth dysgu, y cynghorwyr myfyrwyr a’r anogwyr dysgu

  • Mwy o annibyniaeth – cewch eich trin fel oedolyn yn y coleg, a bydd y sgiliau a ddysgwch, fel sgiliau cyfathrebu, sgiliau rheoli amser, sgiliau gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol a phrofiad gwaith, yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy a pharod i ymgodymu â byd gwaith neu addysg uwch

  • Mwy o gyfleoedd cymdeithasol – mae dros 20,000 o fyfyrwyr yn astudio ar gampysau'r Grŵp, felly os dewiswch astudio gyda ni, mae siawns dda y byddwch yn cyfarfod llawer o bobl wahanol a diddorol, a gwneud ffrindiau am oes!

Yn bennaf oll, os dewiswch astudio yn un o ganolfannau Chweched Dosbarth y Grŵp, byddwch yn gadael gyda chymwysterau cydnabyddedig a fydd yn eich galluogi i gael y swydd neu’r brentisiaeth yr ydych wedi rhoi'ch bryd arni neu i gael lle mewn prifysgol o’ch dewis.

Y llynedd, profodd myfyrwyr y Grŵp lwyddiannau niferus...

Y Rhyl

Llwyddodd Ellis Payne o'r Rhyl i gael 3 gradd A* mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg, yn ogystal â sicrhau cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Yn sgil ei raddau gwych, cafodd le i ddilyn cwrs gradd mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Sheffield, a'i obaith yw mynd ymlaen wedyn i astudio am radd Meistr.

Roedd Ellis wrth ei fodd ac meddai: "Roedd yn amlwg bod gan yr athrawon ddiddordeb gwirioneddol yn eu pynciau; roedden nhw'n sôn am y datblygiadau oedd wedi bod yn ein dealltwriaeth o'r meysydd dan sylw ers iddyn nhw fod yn y brifysgol, ac am y cylchgronau gwyddonol roedden nhw'n eu darllen.

Roedd maint Chweched y Rhyl yn cyfrannu at yr amgylchedd cyfeillgar, ac yn ei gwneud hi'n haws symud yno o'r ysgol uwchradd."

Llandrillo-yn-Rhos

Roedd gan Charlotte Bradley o Gyffordd Llandudno ddau achos i ddathlu ar ôl llwyddo yn ei arholiadau Lefel A a chael babi! Cafodd Charlotte A mewn Llenyddiaeth Saesneg, B mewn Seicoleg, B mewn Cymdeithaseg, yn ogystal â chymhwyster Bagloriaeth Cymru a lefel AS mewn Cymraeg. Mae wedi dechrau astudio Cymdeithaseg a Throseddeg gyda'r Brifysgol Agored fis Hydref er mwyn iddi allu treulio amser gyda'i babi newydd yn ogystal â dilyn cwrs gradd.

Meddai: "Roedd yn anodd ar y dechrau gan fod yr hyn oedd yn digwydd gartref ac yn fy mywyd personol yn tarfu weithiau ar fy astudiaethau. Ond, helpodd fy nhiwtoriaid a'm darlithwyr fi drwy'r amseroedd caled gan wneud i mi gredu ynof fy hun a chael graddau gwell na faswn i erioed wedi'u disgwyl.

Ar ôl gorffen fy nghwrs gradd, dw i'n gobeithio dilyn cwrs ymarfer dysgu mewn pwnc y dechreuais ymddiddori ynddo yn y coleg."

Bangor

Ymysg y rhai oedd yn dathlu oedd Alis Francis o Gaernarfon a gafodd A* mewn Bioleg yng Ngholeg Menai gan sicrhau lle i astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Meddai Alis: "Roedd fy nghyfnod yng Ngholeg Menai yn gam perffaith rhwng yr ysgol a'r brifysgol. Roedd ansawdd yr addysgu, ynghyd a'r amgylchedd croesawgar, yn fy ysgogi i astudio ac ennill y radd oedd ei hangen arnaf i fynd i'r brifysgol a ddewisais."

Dolgellau

Llwyddodd Holly Wyn Edwards o Aberdyfi, a oedd yn astudio ar gampws Dolgellau, i gael 4 gradd A* (Bioleg, Cemeg, Addysg Gorfforol a Bagloriaeth Cymru) ac un radd A (Daearyddiaeth). Meddai Holly: "Diolch i holl staff y coleg am eu cefnogaeth; roedd y profiad yn anhygoel." Ar hyn o bryd mae Holly'n cymryd blwyddyn i ffwrdd i helpu mewn ysgol gynradd leol cyn ailafael yn ei hastudiaethau.

Pwllheli

Cafodd yr efeilliaid unfath, Mia a Beca Owen o'r Ffôr ger Pwllheli'r un graddau Lefel A yn union a hynny yn yr un pynciau, ac fe gawson nhw hefyd gynnig lle i astudio yn yr un brifysgol! Cafodd y ddwy 2 A a B mewn Busnes, Cymdeithaseg a Seicoleg ac maen nhw'n awr yn dilyn cyrsiau gradd ym mhrifysgol John Moores. Yr unig wahaniaeth yw'r pynciau maen nhw'n eu astudio: mae Mia'n astudio Troseddeg a Beca'n astudio Seicoleg.

Peidiwch â cholli'r cyfle i greu eich llwyddiant eich hun. Gwnewch gais yn uniongyrchol trwy dudalennau cyrsiau'r coleg ar y wefan www.gllm.ac.uk/a-levels, e-bost generalenquiries@gllm.ac.uk, neu ffoniwch y llinell cyngor ar gyrsiau ar 01492 542 338 yn achos Coleg Llandrillo, 01758 701 385 yn achos Coleg-Meirion Dwyfor, a 01248 383 333 yn achos Coleg Menai.