Anrhydeddu Myfyriwr Ysbrydoledig o'r Coleg am Helpu Cymdogion yn ystod Llifogydd
Mae myfyriwr ysbrydoledig o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl a roddodd cymorth i drigolion hŷn yn ystod llifogydd y llynedd yn Llanelwy, wedi cael ei anrhydeddu mewn seremoni wobrwyo ddiweddar.
Dyfarnwyd yr ail safle i Shelly Jones, 21 oed, sydd bellach yn byw yn y Rhyl, yng nghategori ‘Arwr Cymunedol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Tenantiaid Tai Sir Ddinbych 2022 yn ddiweddar.
Canmolwyd Shelly – sy’n astudio ar y cwrs Gweinyddu Busnes Lefel 2 ar gampws y coleg yn y Rhyl, ac a gafodd ei dewis yn gynrychiolydd dosbarth yn ddiweddar – am ei hymdrechion diflino yn ystod y llifogydd, a ddechreuodd wrth i ddŵr lepian yn erbyn ei gwely!
Cafodd Shelly ei gwneud yn ddigartref yn 2019. Yn 2020 symudodd i dai dros dro i bobl dros 55 oed yn Llanelwy, gan mai dyma’r unig lety oedd ar gael ar y pryd. Ym mis Chwefror 2021 - y noson cyn yr oedd hi i fod i symud i lety mwy addas - dioddefodd y dref lifogydd.
Er iddi ddeffro yng nghanol sefyllfa frawychus, y peth cyntaf ar feddwl Shelly oedd y trigolion eraill yn ei hadeilad. Llwyddodd i sicrhau digon o fagiau tywod ar unwaith i helpu i nadu'r dŵr rhag lledaenu ymhellach. Yna, yn ystod y dyddiau nesaf llwyddodd i ddod o hyd i amrywiaeth o ddodrefn newydd ar gyfer y trigolion, yn bennaf gan Crest (elusen a menter gymdeithasol).
Yn ffodus, symudodd Shelly i lety parhaol yn y Rhyl yn fuan ar ôl y llifogydd, ac mae’n dal i fod mewn cysylltiad â rhai o drigolion Llanelwy.
Meddai: “Roeddwn yn hapus dros ben i ddod yn ail yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr enillydd yn barafeddyg gwirfoddol ac roedd ei wobr yn gwbl haeddiannol.”
A hithau bellach yn fodlon yn ei chartref newydd, ei gobaith yw cael swydd fel clerc ward ysbyty yn y dyfodol. Mae eisoes wedi cwblhau'r cymwysterau iechyd a diogelwch angenrheidiol, ac yn ei blwyddyn olaf o'i chwrs Gweinyddu Busnes ar gampwys y coleg yn y Rhyl. Mae Shelly hefyd ar fin dechrau gwirfoddoli yn swyddfa Childline ym Mhrestatyn.
Ychwanegodd Shelly: "Rwyf wir yn mwynhau fy amser yn y coleg a'r cyfleoedd gwych rwyf yn eu cael."
Cynhaliwyd noson wobrwyo Tenantiaid Tai Sir Ddinbych eleni ym Mwyty 1891 yn y Rhyl i ddathlu holl lwyddiannau tenantiaid, cymunedau a staff y sir. Roedd y categorïau yn cynnwys Tenant y Flwyddyn, Tenant Ifanc y Flwyddyn (dan 25); Cymydog Da'r Flwyddyn; Preswylwyr Tai / Grŵp Cymunedol y Flwyddyn; Gwasanaeth Cwsmer Tai Sir Ddinbych y Flwyddyn; Prosiect Cymunedol y Flwyddyn; Arwr Cymunedol, yn ogystal â thair gwobr arall yn ymwneud â gerddi.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus neu unrhyw gyrsiau eraill ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, ffoniwch
01745 354 797.
E-bost: ymholiadau.rhyl@gllm.ac.uk
Gwefan: www.gllm.ac.uk