Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Lefel A Cyfrifiadureg yn ymweld â Bletchley Park ac Amgueddfa Cyfrifiadureg Caergrawnt

Yn ddiweddar aeth myfyrwyr cyfrifiadureg Coleg Meirion-Dwyfor ar ymweliad arbennig i ddau safle hanesyddol yn hanes cyfrifiadureg Prydain.

Plasty ac ystâd yn Bletchley, Milton Keynes (Swydd Buckingham) yw Bletchley Park a ddaeth yn brif ganolfan torri codau'r Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yr ystâd yn gartref i Ysgol Cod y Llywodraeth ac Ysgol Seiffr (GC&CS), a oedd yn treiddio'n rheolaidd i gyfathrebiadau cyfrinachol, yn bwysicaf oll y seiffrau Enigma a Lorenz o'r Almaen. Roedd tîm torwyr cod GC&CS yn cynnwys Alan Turing, Gordon Welchman, Hugh Alexander, Bill Tutte, a Stuart Milner-Barry. Parhaodd natur y gwaith yn Bletchley yn gyfrinach am flynyddoedd lawer ar ôl y rhyfel.

Dywedodd Hugh Hughes, tiwtor Lefel A Cyfrifiadureg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Roedd cael y cyfle i ddefnyddio’r peiriant Enigma yn brofiad bythgofiadwy i’r myfyrwyr. Gan fod ein myfyrwyr yn dysgu am amgryptio seibrddiogelwch fel rhan o’r cwrs Lefel A, roedd cael gweld a dysgu am y ffurf gyntaf o wneud hyn yn brofiad gwych.”

Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i ymweld ag Amgueddfa Cyfrifiadureg Caergrawnt, sydd yn ganolfan a sefydlwyd i greu arddangosfa gyhoeddus barhaol yn adrodd hanes yr Oes Wybodaeth, a hanes cyfrifiadureg yn fwy cyffredinol.

Cynhaliwyd dau weithdy arbennig i fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn ystod eu hymweliad a’r amgueddfa.

Ychwanegodd Hugh Hughes.

“Roedd y gweithdy a’r raglennu robotiaid drwy gyfrwng Python yn hollol wych, hoffwn estyn fy niolch i staff yr amgueddfa am eu croeso. Mae cael dysgu am y math yma o waith, gan arbenigwyr gwirioneddol yn agor llawer iawn o ddrysau a phosibiliadau i’n myfyrwyr”

“Cafwyd hefyd weithdy a’r Bensaernïaeth Gyfrifiadurol Von Meumann, sydd yn sail i gadarn i unrhyw ddealltwriaeth o systemau storio gwybodaeth. Dwi’n credu bod gosod y math yma o gyfleoedd i’n myfyrwyr yn rhan ganolog o’n cenhadaeth fel coleg, ac mae croeso i chi ddod draw i’n gweld ni, neu i glicio ar y linc isod, os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn cyrsiau Lefel A gyda ni yn y coleg.”


https://www.google.com/search?...