Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr caredig y Rhyl yn casglu gwobrau a chyfraniadau er budd dwy elusen

Mae myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol campws y Rhyl Coleg Llandrillo wedi bod yn brysur yn trefnu raffl ac yn casglu amrywiaeth eang o roddion ar gyfer eu digwyddiad codi arian Nadolig blynyddol er budd dwy elusen.

Nod y myfyrwyr Lefel 2 oedd "rhoi gwen ar wynebau pobl" ar ôl casglu ystod eang o roddion, fydd yn cael eu rhoi i Fanc Bwyd Canolfan Gymuned y Foryd i gynorthwyo teuluoedd sy'n wynebu cyfnod anodd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Gwnaeth y myfyrwyr caredig gasglu amrywiaeth o eitemau gan fusnesau lleol i'w cynnig fel gwobrau raffl i godi arian i'r elusen iechyd meddwl MIND. Roedd ganddynt stondin ym mhrif dderbynfa'r coleg yn gwerthu tocynnau raffl i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

Treuliodd y myfyrwyr wythnosau'n trefnu cael y gwobrau raffl gan ystod eang o gwmnïau lleol: Flipout - tocynnau i ddau fynd i'r ganolfan yng Nghaer; Subway - brechdanau a bisgedi; Chlotique, Y Rhyl - set o ewinedd gel am ddim; Mr Ricky Prince of Desserts - taleb £10; Sea World Aquatics - taleb £10; Bonita Beauty, Y Rhyl - polis ewinedd gel gyda dyluniad a Kalis - triniaeth wyneb dermablaenio sylfaenol.

Dyma ddywedodd un o’r myfyrwyr, Catrin Blunden o'r Rhyl: "Mae pawb ohonom wedi mwynhau codi arian ar gyfer y ddwy elusen haeddiannol yma. Mae'n wych gweld pobl mewn angen yn elwa o hyn, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn."

Roedd y tiwtoriaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol Helen a Levi yn unfrydol yn eu canmoliaeth: "Rydym ni'n eithriadol o falch o'r hyn a gyflawnwyd gan ein myfyrwyr yn ystod yr adeg prysur hwn. Fe wnaethon nhw ddefnyddio eu mentergarwch a dewis dau achos haeddiannol iawn. Bydd eu gwaith caled a'u natur anhunanol o fudd i gymaint o bobl ledled Gogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig a thu hwnt. Da iawn bawb."

www.gllm.ac.uk