Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canlyniadau Rhagorol i Grŵp Llandrillo Menai yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Gwnaeth dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai sgorio ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch yn 83% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023, 13% yr uwch na'r cyfartaledd yn y sector yn y Deyrnas Unedig. Mae'r canlyniadau hyn yn rhoi Grŵp Llandrillo fel y darparydd ar y brig yng Ngogledd Cymru, ac ymhlith y tri uchaf yng Nghymru.

Roedd y dysgwyr yn gadarnhaol iawn gan roi sgôr uwch na'r meincnod cenedlaethol i'r rhannau isod o'u profiad Addysg Uwch: Addysgu ar eu cwrs, trefniadaeth a rheoli'r cwrs, asesu ac adborth, cyfleoedd dysgu, cymorth academaidd, adnoddau dysgu a llais y myfyrwyr.

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

"Mae canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o fyfyrwyr yn wych. Wrth i ni barhau i ehangu ac ymestyn ein darpariaeth addysg uwch mae'n galonogol iawn fod dysgwyr yn parhau i nodi ein bod ni'n darparu cyrsiau lefel prifysgol o'r ansawdd uchaf sydd ymhlith y gorau yng Nghymru."

Ychwanegodd,

"Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu gwaith caled y staff ar draws Grŵp Llandrillo Menai, ac rydw i wrth fy modd fod ein myfyrwyr yn teimlo mor gadarnhaol am eu profiad addysg uwch gyda ni."

Mae Grŵp Llandrillo Menai’n cynnig cyrsiau gradd o'r radd flaenaf mewn dros 30 maes pwnc. Darperir y rhan fwyaf o'r cyrsiau yn y ganolfan brifysgol arbenigol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, neu ar ein campysau yn Nolgellau, Llangefni a'r Rhyl. Mae cyrsiau gradd dwyieithog ar gael yn Nolgellau a Llangefni hefyd.

P'un ai ydi darpar fyfyrwyr wedi newid eu meddwl am symud i ffwrdd i brifysgol ac yn dymuno astudio'n lleol, neu ddim wedi cael y canlyniadau Lefel A disgwyliedig neu eu bod yn ystyried newid eu gyrfa - dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i ddechrau ar gwrs gradd gyda Grŵp Llandrillo Menai. Mae cyllid myfyrwyr yn parhau i fod ar gael hefyd.

I weld ein dewis o gyrsiau, ewch i'n gwefan: gllm.ac.uk/graddau, neu anfonwch neges e-bost i graddau@gllm.ac.uk i drafod gyda chynghorydd.