Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Croesawodd Grŵp Llandrillo Menai dîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru i gampws Llangefni'r wythnos diwethaf i un o rowndiau rhagbrofol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Bu'r tîm, a oedd yn cynnwys y cyflwynydd teledu Mari Lovgreen, wrthi'n cyfweld a ffilmio myfyrwyr a staff ar gyfer noson wobrwyo Sgiliau Cymru fis Mawrth pan gyhoeddir enwau'r enillwyr mewn darllediad byw.

Ar ôl seibiant o ddwy flynedd oherwydd y pandemig, cafodd y myfyrwyr Peirianneg ar gampws Coleg Menai yn Llangefni gyfle i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Eleni, roedd rhaid i'r cystadleuwyr aros ar eu safleoedd unigol eu hunain yn hytrach na theithio i leoliad canolog i gystadlu fel oedd yn arferol.

Cymerodd 28 dysgwr o bob disgyblaeth yn adran Beirianneg Llangefni ran yn y cystadlaethau canlynol: Technoleg Cerbydau Ysgafn a Thrwm; Weldio; Melino a Thurnio CNC; Her i Dimau Electroneg, Peirianneg Fecanyddol CAD a Roboteg Ddiwydiannol.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy'n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru'n cynnwys 61 o gystadlaethau ar draws amrywiaeth o sectorau a meysydd sgiliau.

Drwy gyfrwng cystadlaethau sgiliau a'r cynllun ‘Troi eich Llaw’, bwriad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw cefnogi dysgu galwedigaethol a helpu pobl ifanc nid yn unig i ragori yn y coleg, ond i fynd ymlaen i wneud hynny ym myd gwaith hefyd.

Meddai Aaron Peel, Dirprwy Reolwr Peirianneg yng Ngholeg Menai: “Mae ein dysgwyr yn cael pob cyfle i lwyddo wrth astudio ar gampws Llangefni. Mae gennym adran o’r radd flaenaf yma, gyda thechnoleg o safon diwydiant ar flaenau eu bysedd.

“Roeddem hefyd yn ddigon ffodus i gael tîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru yma tra oeddem yn cystadlu, felly roedden nhw'n gweld beth oedd ei angen i gystadlu yn y cystadlaethau sgiliau.

“Bydd eu presenoldeb yn helpu sefydliadau i ddatblygu rhaglen a fydd yn rhoi gwell cyfleoedd i fwy o bobl ifanc o bob cefndir yn eu bywyd a'u gwaith, a thrwy hynny'n helpu i hybu cynhyrchiant economaidd.”