Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr a Ddilynodd Gwrs Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu yw'r Gorau trwy Brydain

Mae Busnes@LlandrilloMenai ynghyd â Delyn Safety UK Ltd, ei bartner NEBOSH, yn falch o gyhoeddi bod Tesni James wedi ennill gwobr Ian Whittingham i'r Ymgeisydd Gorau trwy Brydain ar y cwrs Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu.

Enillodd Tesni'r wobr ar ôl cael 93% yn yr arholiad, sef y sgôr uchaf trwy Brydain yn ystod y flwyddyn.

Dewisodd Tesni ddilyn y cwrs NEBOSH – Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu oherwydd ei diddordeb mewn iechyd a diogelwch a'r risgiau uchel sy'n gysylltiedig â gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae Tesni a'i gŵr yn gyfarwyddwyr ar Tom James Construction Services Ltd sy'n fusnes teuluol, ac mae iechyd a lles pobl wastad wedi bod yn bwysig iddi.

Esboniodd Tesni: "Mae lles ein staff yn eithriadol o bwysig i ni. Rydan ni gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn ni i hyrwyddo diogelwch yn y gweithle er mwyn i'n gweithwyr allu mynd adref at eu teuluoedd yn ddiogel bob dydd. Mae gallu cwblhau hyfforddiant iechyd a diogelwch ar y safon hon dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ei gwneud hi'n bosibl i mi ddatblygu ymhellach a dod yn gymwys i reoli ochr iechyd a diogelwch y busnes.

"Rydyn ni fel cwmni wedi'n hachredu gydag ISO 9001, 14001 a 45001. Mae gennym ni dîm penigamp ac yn fy marn i mae diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol yn deillio o agwedd gadarnhaol y rheolwyr. Rydw i wastad yn awyddus i ddysgu ac yn frwd iawn dros ddatblygu gweithwyr trwy hyfforddiant, a thrwy roi profiadau iddyn nhw a fydd yn eu galluogi i fod yn gymwys ym mhob rôl."

Gwnaeth Tesni gais am y cwrs NEBOSH gan ddefnyddio'r Cyfrif Dysgu Personol (PLA), rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n caniatáu i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf gael mynediad i gyrsiau am ddim ac ennill cymwysterau proffesiynol sy'n meithrin sgiliau ac yn helpu unigolion i symud ymlaen yn eu gyrfa. Rhoddodd y cyllid a oedd ar gael trwy'r rhaglen PLA hyder i Tesni adael ei gwaith fel Gweithiwr Cymdeithasol i weithio'n llawn amser ym musnes y teulu a datblygu ei gyrfa yn y diwydiant Adeiladu.

Pan ofynnwyd iddi sut roedd hi'n teimlo ar ôl ennill y wobr, dywedodd Tesni: "Mae'n deimlad gwych! Pan ddarllenais i'r neges e-bost, doeddwn i ddim yn credu i ddechrau mai fi oedd wedi cael y marciau uchaf. Gan 'mod i'n dod o dref fechan ac yn rhedeg busnes bach teuluol, doedd y peth ddim yn teimlo'n real. Rydw i mor falch ac yn grediniol y gallwch chi gyflawni unrhyw beth o ymdrechu'n ddigon caled.

"Rhaid i mi gyfaddef hefyd bod ennill gwobr i'r ymgeisydd gorau ar y cwrs Tystysgrif NEBOSH – Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu yn deimlad gwych gan fy mod i'n ferch. Mae'n ffaith mai dim ond 11-15% o weithwyr y diwydiant adeiladu sy'n ferched, ac rydw i rŵan wedi ychwanegu at y ffigur hwnnw."

Ychwanegodd Tesni: "Gan fy mod i'm byw mewn ardal wledig roedd yr hyblygrwydd o allu dilyn y cwrs ar-lein yn wych. Ro'n i'n gallu cwblhau dyddiau hyfforddi llawn bob wythnos o'm cartref. Roedd y wybodaeth a gefais ar y cwrs yn ddiddorol tu hwnt, ac mae edrych ar arferion da a drwg bob amser yn syniad da er mwyn dysgu am ffyrdd newydd a gwahanol o gwblhau gwaith adeiladu. Rydw i wedi cael y pleser o gwrdd â nifer o hyfforddwyr o Delyn Safety Trainers sydd wedi fy helpu i gwblhau fy nghyrsiau. Rydw i'n awyddus rŵan i ddal ati i astudio, ac ar y cyd â'r tîm gwych sydd gennym yn y busnes yn edrych ymlaen at barhau i wneud iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth gadarnhaol."

Bellach mae Tesni wedi dechrau astudio ar gyfer Diploma Cenedlaethol NEBOSH i Reolwyr Proffesiynol ym maes Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol ac mae hi hefyd â'i bryd ar gwblhau Tystysgrif Amgylcheddol NEBOSH gan fod y cwmni'n canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon.

Dyma oedd gan Mike Joy, Rheolwr Gyfarwyddwr Delyn Safety UK Ltd, i'w ddweud am lwyddiant Tesni, “Mae pawb yn Delyn Safety yn eithriadol o falch o Tesni. Mae hi'n llwyr haeddu'r wobr yn sgil yr holl amser ac ymdrech a roddodd i'w hastudiaethau. Mae'n bleser dilyn llwyddiant Tesni a gweld pa mor bwysig ydi iechyd a diogelwch ei gweithwyr iddi."

Ychwanegodd Gareth Hughes, Rheolwr Canolfan CIST ac Arloesedd: "Mae Tesni yn ysbrydoliaeth i bawb. Mae'n wych gweld bod y Cyfrif Dysgu Personol wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi Tesni ar ei thaith yn y diwydiant adeiladu ac edrychaf ymlaen at ei chefnogi yn y dyfodol.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn cwrs NEBOSH, cewch ragor o wybodaeth ar www.gllm.ac.uk/personal-learning-account , gan gynnwys manylion am sut i wneud cais am Gyfrif Dysgu Personol.