Myfyrwyr Coleg Llandrillo yn Cynhyrchu Ffilm ar gyfer Sianel Deledu Genedlaethol
Cafodd tri o fyfyrwyr Coleg Llandrillo sy'n astudio ar gwrs gradd yn y Cyfryngau gyfle oes yn ddiweddar pan ofynnwyd iddynt ffilmio ar gyfer S4C!
Cafodd Max Williams o'r Bala, Rowan Snow (Y Rhyl) a Deborah Kelty (Deganwy) - sy'n dilyn cwrs Gradd Sylfaen mewn Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau Darlledu ar gampws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos - y dasg o ffilmio gydag aelodau o dîm Rygbi Gogledd Cymru (RGC) ar gyfer rhaglen chwaraeon Rygbi Pawb ar S4C.
Ffilmiodd y myfyrwyr nifer o segmentau ar gyfer y sioe gan gynnwys 'Gwerth Gwylio' a 'Sialens Dŵr'.
Dywedodd Chris Bainbridge, Tiwtor ac Is-Reolwr Maes Rhaglen Cyfrifiadura a Diwydiannau Creadigol:
"Am stori wych: cwta dair wythnos ers dechrau'r cwrs ac mae eu gwaith yn cael ei ddarlledu'n barod ar sianel genedlaethol! Ychydig iawn o amser a gafodd y myfyrwyr i wneud eu trefniadau a llwyddon nhw i wneud gwaith rhagorol a phroffesiynol. Am ddechrau gwych i'w gyrfaoedd."
Mae Rygbi Pawb ymlaen ar ddydd Iau am 10pm ar S4C.
https://www.s4c.cymru/en/sport/rugby/tag/15/rygbi-pawb/
https://www.bbc.co.uk/programmes/p046m5ct
Mae cyrsiau cyfryngau’r Coleg yn rhoi mewnwelediad gwych i’r safonau proffesiynol a ddisgwylir o fewn y diwydiant cyfryngau, gan roi cyfle i'r myfyrwyr feithrin y sgiliau technegol a'r theori sy'n angenrheidiol i weithio a gwneud cais am swyddi yn y diwydiant darlledu.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ym maes y Cyfryngau, neu unrhyw gyrsiau eraill yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y Coleg ar 01492 542 338.
E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk
Gwefan: www.gllm.ac.uk