Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai a Prifysgol Wrecsam yn arwyddo partneriaeth newydd i wella cyfleoedd bywyd i gymunedau yng Ngogledd Cymru a thu hwnt

Mae Prifysgol Wrecsam a Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU), mewn ymgais i gryfhau addysg a datblygu sgiliau, ehangu cyfranogiad a gwella cyfleoedd bywyd i bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt.

Mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo i gydweithio ac alinio agosach i ddatblygu llwybrau clir o addysg bellach i addysg uwch a gwella datblygiad sgiliau yn y rhanbarth.

Bydd y cytundeb yn gweld y sefydliadau'n cydweithio i gefnogi dilyniant myfyrwyr’ ac ehangu mynediad a chyfranogiad – yn enwedig mewn meysydd gweithlu allweddol megis iechyd ac iechyd perthynol, gwasanaethau cyhoeddus, ac adeiladu.

Daw’r newyddion ychydig wythnosau ar ôl i’r ddau sefydliad – ynghyd â Coleg Cambria a Phrifysgol Bangor – lansio Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru (NWTA) yn swyddogol, partneriaeth nodedig i hybu twf economaidd, gwella addysg a datblygu sgiliau yn y rhanbarth.

Bydd y sefydliadau hefyd yn cydweithio i alinio eu gweithgaredd â blaenoriaethau economaidd rhanbarthol, gan gynnwys Bargen Twf Gogledd Cymru, Parth Buddsoddi Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a strategaethau diwydiannol a sgiliau ehangach y DU a Llywodraeth Cymru, i ysgogi twf economaidd a hybu eu cenhadaeth ddinesig gyfunol.

Bydd staff o’r brifysgol a’r coleg hefyd yn cydweithio ag ysgolion a chymunedau i godi dyheadau, cryfhau allgymorth, a hyrwyddo mynediad at lwybrau addysg a sgiliau i bobl ifanc o bob cefndir.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ffurfioli'r ddau sefydliad i drosoli eu cryfderau a harneisio eu profiad a'u hadnoddau cyfun. Eu nod yw archwilio cyfleoedd ar y cyd lle mae eu harbenigedd cyfunol yn ychwanegu gwerth, gan gynnwys mewn llwybrau iechyd a gofal cymdeithasol, dysgu o bell, ac ymchwil gymhwysol sy'n gysylltiedig ag anghenion y rhanbarth.

Byddant yn cydweithio i wella cyfleoedd dwyieithog a Chymraeg, gan gydnabod cyd-destun diwylliannol unigryw Cymru a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg a gweithlu ehangach y genedl.

Meddai’r Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn gyda Grŵp Llandrillo Menai yn gam hynod gadarnhaol ymlaen ar gyfer datblygu sgiliau a chymryd rhan mewn addysg bellach ac uwch yma yng Ngogledd Cymru.

“Mae gan ein dau sefydliad rôl bwysig i’w chwarae wrth wella cyfleoedd bywyd i bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt, ac mae’r nod hwn yn cyd-fynd yn gryf â’n gweledigaeth o fod yn brifysgol ddinesig fodern, sy’n arwain y byd, sy’n ymgysylltu’n rhanbarthol, ac yn cyflawni sgiliau, sy'n ysgogi twf economaidd er lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

“Mae'r bartneriaeth hon hefyd yn cyd-fynd â nodau Medr – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, ac rydym yn falch iawn o fod yn chwarae rhan allweddol mewn system addysg fwy cysylltiedig yn ein rhanbarth.”

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo ac Arweinydd Gweithredol Addysg Uwch yn Grŵp Llandrillo Menai: “Mae’r bartneriaeth hon yn gam cyffrous a phwysig ymlaen i ddysgwyr ledled Gogledd Cymru. Drwy gryfhau ein cysylltiadau â Phrifysgol Wrecsam, rydym yn creu llwybrau cliriach, mwy hygyrch i addysg uwch, yn enwedig mewn sectorau hanfodol megis gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu.

“Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o fod yn rhan o gydweithrediad sydd nid yn unig yn codi dyheadau ond sydd hefyd yn darparu cyfleoedd ystyrlon i bob cymuned, trwy Gymraeg a darpariaeth ddwyieithog.”

Ychwanegodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn ffurfioli’r berthynas ragorol sydd gennym yn Grŵp Llandrillo Menai â Phrifysgol Wrecsam. Gobeithiwn y bydd y bartneriaeth hon yn parhau i dyfu a datblygu dros y blynyddoedd i ddod, wrth i’r ddau sefydliad weithio ar y cyd i sicrhau bod dysgwyr yn gallu nodi a dilyn llwybrau gyrfa clir, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gefnogi economi Gogledd Cymru sy’n dod i’r amlwg.

“Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y gwaith y mae’r Athro Yates wedi’i wneud yn ystod ei gyfnod fel Is-Ganghellor, ac edrychaf ymlaen at groesawu’r cyfle i ddatblygu prosiectau ychwanegol gyda Phrifysgol Wrecsam

Pagination