Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Glynllifon yn cipio’r wobr gyntaf mewn seremoni fawreddog yn Llandrindod.

Mae Gwenno Rowlands o ardal Dinbych sydd yn astudio Peirianneg Diwydiannau’r Tir, Lefel 3 yng Ngholeg Glynllifon, wedi ennill prif wobr Lantra Cymru yn y categori, Dysgwr Ifanc Coleg, o dan 20 oed.

Mewn seremoni fawreddog yn Llandrindod, cafodd ei hanrhydeddu yng nghwmni rhai o brif enwau cenedlaethol yn y byd amaethyddol yng Nghymru.

Cafodd Gwenno Rowlands ei magu ar fferm y teulu yn Nantglyn, Sir Ddinbych. Roedd yn benderfynol o brofi bod merched yr un mor abl ag unrhyw un arall i drwsio a gwasanaethu tractorau a pheirianwaith trwm, a llwyddodd Gwenno i gyfuno ei chwrs sylfaen mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon â phrofiad gwaith gyda chwmni peiriannau lleol. Yn dilyn ei phrofiad gwaith cafodd gynnig swydd ran amser, a roddodd gyfle iddi gyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad ymarferol. Cafodd gefnogaeth wych gan ei thiwtoriaid a Gwenno oedd yr unig ferch i gwblhau’r cwrs mewn cyfnod o saith mlynedd!

Mae Gwenno yn awr yn gobeithio dod o hyd i brentisiaeth a fydd yn dysgu mwy iddi am weldio a llunio, cymwysterau ychwanegol a fydd yn ychwanegu at y sgiliau a enillodd yn y coleg, gan gynnwys cymhwysedd tractorau (gyda threlar); trin a chynnal beiciau cwad a ‘telehandlers’ yn ogystal â llifanu a weldio. Roedd uchelgais ac ymrwymiad Gwenno i lwyddo mewn sector lle mae dynion wedi bod mor flaenllaw yn draddodiadol wedi gwneud cryn argraff ar y beirniaid. Mae hi’n dal heb benderfynu a yw hi am fod yn fecanydd amaethyddol neu’n gontractwr, ond dywedodd y beirniad bod dyfodol disglair o’i blaen a’i bod hi’n esiampl wych i unrhyw unigolion sy’n poeni am weithio gyda pheiriannau trwm.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.

“Mae Gwobrau Lantra Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ymrwymiad ac angerdd unigolion ledled Cymru. Da iawn i bawb gafodd eu henwebu, yr enillwyr a’r darparwyr hyfforddiant am eu holl waith caled gan gynnwys gwella effeithlonrwydd a chyflwyno syniadau arloesol pellach i’w dulliau o weithio.”

Llywydd y panel beirniaid eleni oedd yr amaethwr blaenllaw o Gymru Mr Peter Rees, cadeirydd Lantra Cymru, ac roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Dr Nerys Llewelyn Jones, sylfaenydd a Phartner Rheoli cyfreithwyr Agri Advisor a’r arbenigwr Iechyd a Diogelwch amaethyddol Brian Rees, cyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a mentor diogelwch fferm Cyswllt Ffermio.

Dywedodd Rhodri Manod Owen, Rheolwr Fferm Glynllifon.

“Mae gan Goleg Glynllifon record hir ac anrhydeddus iawn o ennill rhai o wobrau mwyaf blaenllaw Cymru, ac rydym yn hynod o falch bod Gwenno’n parhau gyda’r traddodiad hwn. Mae cael dy enwebu ar gyfer gwobr Lantra’n anrhydedd ynddo’i hyn, heb son am ennill y brif wobr. Da iawn ti Gwenno. Mae’r coleg yn hynod o falch o dy lwyddiant”

Am fwy o wybodaeth am holl gyrsiau Coleg Glynllifon, cliciwch ar y linc isod.

www.gllm.ac.uk