Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg yn dathlu ⁠Diwrnod Santes Dwynwen

Ar Ionawr 25 bob blwyddyn, mae pobl ym mhob cwr o Gymru yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen. ⁠ Ymunodd staff a dysgwyr rhwydwaith Grŵp Llandrillo Menai yn y dathliadau eto eleni, a threfnwyd cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu diwrnod Santes Cariadon Cymru.

Mae poblogrwydd Diwrnod Santes Dwynwen wedi cynyddu yn sylweddol yn ddiweddar: cynhelir digwyddiadau arbennig fel cyngherddau a phartïon ac argraffir cardiau ar thema Gymreig. ⁠Roedd Santes Dwynwen yn ferch i'r Brenin Brychan Brycheiniog ac yn byw ar Ynys Llanddwyn, Ynys Môn, yn y 5ed ganrif. ⁠

Creodd dau aelod o'r staff arlwyo sypiau o fisgedi siâp calon, teisennau bach a bisgedi siocled, er mawr lawenydd i'r staff a'r myfyrwyr.

Cynigiodd myfyrwyr Trin Gwallt a Therapi Harddwch amrywiaeth o driniaethau, gan adael pob cwsmer yn teimlo'u bod wedi eu sbwylio'n lân.

Crëwyd bwâu balŵn rhamantus ar sawl campws, a oedd yn ganolog mewn nifer o hunluniau. Roedd bythod ffotograff ar gael ar gyfer lluniau llawn hwyl, a chafodd fideos amrywiol eu creu ar y thema, a’u gosod ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y coleg i eraill eu mwynhau.

I gloi, lluniwyd rhestr chwarae o ganeuon serch Cymraeg gan staff er mwyn i fyfyrwyr eu mwynhau.

www.gllm.ac.uk