Tymor llwyddiannus i dimau rygbi Grŵp Llandrillo Menai
Llwyddodd timau Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Menai a Glynllifon i gyrraedd rowndiau terfynol ac aeth cwpan pencampwyr gogledd Cymru i dîm Glynllifon
Cafodd timau rygbi Grŵp Llandrillo Menai ymgyrchoedd llwyddiannus yng nghystadlaethau Cwpan a Bowlen Dan-18 gogledd Cymru.
Tîm rygbi Glynllifon enillodd gwpan pencampwyr gogledd Cymru ar ôl curo Coleg Meirion-Dwyfor yn y rownd derfynol, a chyrhaeddodd Coleg Menai rownd derfynol bowlen gogledd Cymru.
Roedd y gêm ddarbi rhwng dau dîm o'r gogledd yn enghraifft wych o rygbi dan 18 oed yng ngogledd orllewin Cymru, a daeth tîm cryf Glynllifon i'r brig gyda buddugoliaeth 38 - 7.
Er gwaetha'r golled yn y rownd derfynol yn erbyn tîm cryf Glynllifon cafodd tîm rygbi Coleg Meirion-Dwyfor rediad cryf yn gystadleuaeth a llwyddo i'r brig mewn grŵp cystadleuol iawn.
Dywedodd Ollie Coles, Swyddog Hybu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru: “Dw i’n hynod falch o berfformiadau timau Grŵp Llandrillo Menai yng nghystadlaethau Cwpan a Bowlen gogledd Cymru eleni.
"Mae llawer iawn o waith yn digwydd yn y cefndir, ac mae cael Coleg Menai yn cystadlu yn rownd derfynol y fowlen, a Choleg Glynllifon a Choleg Meirion-Dwyfor yn mynd benben â'i gilydd yn rownd derfynol y cwpan yn dyst i hyn.
"Mae cyfraniad chwaraewyr ar draws y Grŵp wedi bod yn ardderchog, ac mi welwyd gemau rygbi arbennig drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhaglen wedi bod o fudd nid yn unig i'n dysgwyr ond hefyd i rygbi dan 18 gogledd Cymru yn gyffredinol.
"Llongyfarchiadau i Goleg Glynllifon enillwyr haeddiannol a Phencampwyr gogledd Cymru dan 18.”
Daeth Glynllifon a Choleg Meirion-Dwyfor ynghyd ar gyfer rownd derfynol y Cwpan ar ddiwrnod poeth a heulog yn Nolgellau.
Dechreuodd Glynllifon yn dda gyda cheisiau gan Bedo Jones, y Capten Huw Watkins a Robert Meurig Jones, pob un wedi’i drosi gan Bedo Jones. Tarodd Coleg Meirion-Dwyfor yn ôl gyda chais Joseph Wall a'r capten Euros Williams yn trosi.
Yn yr ail hanner daliodd Glynllifon i bwyso, a daeth ceisiau gan Elis Anderson a Robat Jones, a chiciau llwyddiannus gan Bedo Jones, a sgoriodd gic o’r smotyn hefyd.
Roedd y fuddugoliaeth yn goron ar flwyddyn hynod lwyddiannus i dîm rygbi Glynllifon. Dechreuon nhw'r tymor yn dda, gan ddod yn ail yn y twrnamaint 10 bob ochr cyntaf erioed i golegau Amaeth Cymru lawr yn Aberystwyth.
Yna dechreuodd yr ymgyrch i ennill cwpan gogledd Cymru dan 18 oed a daeth buddugoliaethau yn erbyn Ysgol Sur Hugh Owen, Ysgol Brynrefail ac Ysgol Tryfan i gyrraedd y rownd gynderfynol.
Ildiodd Ysgol Eirias y gêm honno, a roddodd lwybr clir i Glynllifon gyrraedd y rownd derfynol a chipio'r fuddugoliaeth.
Dechreuodd Coleg Meirion-Dwyfor eu hymgyrch gyda buddugoliaethau yn erbyn Ysgol Dinas Bran ac Ysgol Bro Caereinion, ac un golled agos i Ysgol Godre'r Berwyn.
Arweiniodd hynny at gêm gynderfynol yn erbyn Godre'r Berwyn. Gorffennodd y gêm honno'n gyfartal ac oherwydd mai Coleg Meirion-Dwyfor oedd yn chwarae oddi cartref, nhw aeth ymlaen i'r rownd derfynol i herio'r tîm arall o'r Grŵp.
Wrth siarad am y rownd derfynol, dywedodd capten Glynllifon, Huw Watkins: “Roedd yn dymor gwych. Roedd pawb yn ymroi'n llwyr ac yn chwarae o'r galon. Mi wnes i fwynhau chwarae rygbi efo fy ffrindiau ac ennill cwpan gogledd Cymru!"
Meddai Euros Williams, capten Coleg Meirion-Dwyfor: "Mae wedi bod yn dymor da ar y cyfan. Mi wnaethon ni chwarae rhai gemau da iawn, ond mae cynnal ein prif chwaraewyr a'r tîm cryfaf wedi bod yn anodd eleni. Er gwaetha hynny, mi ddalion ni ati!
Doedd y tîm cryfaf ddim ar gael ar gyfer y rownd derfynol ond mi wnaeth pawb eu gorau ar y diwrnod a dangos gwytnwch a chalon tan y chwiban olaf. Diolch i Eon Williams (Swyddog hybu rygbi WRU) ac Ollie Coles am bopeth yn ystod y tymor."