Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr o’r coleg yn cynrychioli Ynys Môn yng Ngemau'r Ynysoedd

Mae dysgwyr a chyn-ddysgwyr o Goleg Menai yn paratoi i wynebu timau o ynysoedd o bob cwr o'r byd yng Ngemau Orkney 2025, sy'n dechrau dydd Sadwrn

Mae myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr o Goleg Menai wedi ymuno â charfan Ynys Môn ar gyfer Gemau'r Ynysoedd yn Orkney (12-18 Gorffennaf).

Bydd athletwyr o 24 grŵp gwahanol o ynysoedd o bob cwr o'r byd yn cystadlu mewn 12 camp wahanol yn ystod y gemau.

Mae tîm Ynys Môn yn cynnwys 84 athletwr a fydd yn cystadlu mewn wyth o'r campau, ynghyd â hyfforddwyr a swyddogion.

Mae Casi Evans, sy'n chwarae i dîm pêl-droed dan 19 Cymru yn un o'r myfyrwyr o Goleg Menai sydd wedi cael ei dewis. Mae Casi'n dilyn y cwrs Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Menai ac yn cydbwyso hynny â chwarae i Blackburn Rovers.

⁠Bydd Catrin Roberts (Hyfforddi ym maes Chwaraeon Lefel 3) yn ymuno â Casi ar dîm pêl-droed merched Ynys Môn ynghyd â'r cyn-fyfyrwyr Ceri Slaney a Menna Evans.

Yn chwarae i dîm y dynion mae Richard Harri Jones (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3) a Cai Roberts (Hyfforddi Lefel 3), ynghyd a'r cyn-fyfyrwyr Alex Boss, Cai Griffith, Cai Powell Roberts, Caio Evans, Dylan Summers Jones, Osian Jones, Sam Jones a Liam Morris.

Bydd rhagor o gyn-fyfyrwyr o Goleg Menai, Barry Edwards, Liam Ewing ac Eban Geal yn rhan o dîm hyfforddi Ynys Môn.

Bydd Gemau'r Ynysoedd yn dechrau dydd Sadwrn gyda seremoni agoriadol ac yna dydd Sul bydd y cystadlu'n dechrau o ddifri gyda chystadlaethau athletau a'r ras triathlon ar y diwrnod cyntaf.

Yn ystod y gemau bydd aelodau o dîm Ynys Môn yn cystadlu yn yr athletau, badminton, pêl-droed, golff, gymnasteg, hwylio, nofio a triathlon. Mae'r Gemau'n cynnwys saethyddiaeth, beicio, bowls a sboncen hefyd.

Dyma'r 20fed tro i Gemau'r Ynysoedd, a gynhelir bob dwy flynedd. ⁠Cynhelir twrnamaint 2027 ar Ynysoedd Ffaro.

Ydych chi eisiau astudio a chael cymryd rhan mewn chwaraeon ar yr un pryd? Dysgwch ragor am academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai yma.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Chwaraeon yn amrywio o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date