Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyllid i Lenwi Bylchau mewn Sgiliau

Diolch i werth £3m o gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, mae hyfforddiant a ariennir yn llawn ar gael i fusnesau ac unigolion yng ngogledd Cymru.

Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru yw enw'r prosiect ac mae'n galluogi cyflogwyr yn siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, y Fflint a Wrecsam i gael mynediad i'r hyfforddiant sgiliau arbenigol a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai drwy ei wasanaeth i fusnesau, Busnes@LlandrilloMenai.

Mae’r prosiect yn unigryw yn yr ystyr bod cyllid yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer cyrsiau arbenigol neu raglenni hyfforddi byrrach. Daw hyn a budd i gwmnïau drwy nodi bylchau mewn sgiliau a chyfeirio cyflogwyr at yr hyfforddiant a ariennir yn llawn a ddarperir yng Ngrŵp Llandrillo Menai drwy Busnes@LlandrilloMenai.

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (RSP) wedi nodi bod 70% o gyflogwyr y rhanbarth yn wynebu prinder sgiliau ac mae'n bwriadu cynorthwyo cannoedd o unigolion i gyflawni eu potensial drwy ddatblygu eu gyrfaoedd a'i sgiliau. Bydd hyn yn annog busnesau i dyfu, yn diogelu swyddi presennol ac yn creu swyddi newydd.

Mae Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru yn ariannu cyrsiau byr, hyfforddiant achrededig proffesiynol ac NVQs. Gall cyfranogwyr wneud y modiwlau arbenigol sy'n rhan o gyrsiau achrededig proffesiynol fel rhai ILMs, CIMs neu CIPD.

Yn ôl Geraint Jones sy'n rheolwr prosiect gyda Busnes@LlandrilloMenai: “Bydd cyflwyno’r ffrwd ariannu newydd sylweddol hon yn galluogi busnesau ac unigolion i ganolbwyntio ar yr union hyfforddiant sydd ei angen arnynt i gefnogi a datblygu eu busnes.

“Mae Busnes@LlandrilloMenai wedi gweithio gyda busnesau i gynllunio'r prosiect hwn a fydd yn agor drysau i sgiliau ym maes technoleg lleihau carbon, arweinyddiaeth a rheolaeth, rheoli prosiectau, ac adeiladu a pheirianneg arbenigol.

“Rydym yn edrych ymlaen at gynnig yr hyfforddiant cyffrous hwn i’r gymuned fusnes. Ond cofiwch gysylltu'n fuan oherwydd dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae'r arian ar gael a bydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024.”

I drefnu sgwrs am sut i gael mynediad i Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru, cysylltwch â busnes@gllm.ac.uk neu ffoniwch 08445 460 460.

Mae Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru wedi derbyn £3 ⁠gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.