Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Casi yn sgorio’r gôl fuddugol i Gymru mewn twrnamaint dan 17 oed

Yn ddiweddar, gwnaeth myfyrwyr o Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor sy'n aelodau o garfan tîm pêl-droed merched dan 17 oed Cymru helpu'r tîm i guro'r Eidal a Denmarc mewn twrnamaint ym Mhortiwgal.

Llwyddodd Casi Evans sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Menai i sgorio'r gic o'r smotyn buddugol wrth i ferched Cymru guro'r Eidal mewn twrnamaint dan 17 oed ym Mhortiwgal.

Ymunwyd â Casi yn nhîm Cymru gan fyfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor, Cadi Rogers a Mared Griffiths. Daeth y tîm yn ail yn gyffredinol ar ôl chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr caled wrth iddynt baratoi ar gyfer ymgyrch rhagbrofol Ewro UEFA fis nesaf. ⁠

Ar ôl colli’r gêm agoriadol 2-0 yn erbyn Portiwgal, fe adlamodd tîm Nia Davies yn ôl i guro Denmarc 3-0 cyn eu gêm olaf yn erbyn yr Eidal.

Roedd y ddau dîm yn gyfartal 1-1 ar ôl ar ddiwedd llawn amser, ac felly roedd rhaid setlo’r gêm drwy gicio o'r smotyn – llwyddodd Casi, a oedd yn chwarae yn safle'r canolwr, i dawelu ei nerfau a sgorio’r gôl fuddugol.

“Ro'n i ar bigau drain!” meddai Casi o Amlwch, sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.

“Roedd sgorio’r gôl fuddugol braidd yn lloerig. Fi oedd y seithfed chwaraewr i gicio o'r smotyn, felly doeddwn i ddim hyd yn oed yn disgwyl cael cyfle.”

Chwaraeodd Casi bob un o dair gêm y twrnamaint, a dywedodd fod y profiad yn hwb enfawr wrth i Gymru baratoi i wynebu Ynysoedd y Faroe, Kazakhstan ac Albania yng ngemau rhagbrofol yr Ewros ym mis Tachwedd.

“Fe chwaraeon ni yn erbyn timau yng Nghynghrair A ym Mhortiwgal ond fe fyddwn ni’n chwarae yn erbyn timau yng Nghynghrair B yn Albania, felly rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu ennill y grŵp a symud yn ôl i fyny i Gynghrair A,” meddai.

Chwaraeodd Cadi, sy'n fyfyriwr lefela, ochr yn ochr â Casi yng nghanol yr amddiffyn ym Mhortiwgal, wrth i’r asgellwr Mared, myfyriwr busnes Lefel 3, sgorio yn erbyn Denmarc a'r Eidal. Mae'r tair ohonynt yn chwarae i Academi Gogledd yr FAW, sydd wedi'i lleoli ym Mharc Colliers yn Wrecsam.

Dywedodd Casi, a ddechreuodd yng Ngholeg Menai ym mis Medi eleni, fod y Coleg wedi bod yn gefnogol i'w hymrwymiadau pêl-droed.

Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn mynd i'r coleg ar ddydd Mawrth oherwydd hyfforddiant pêl-droed, ond maen nhw'n fy nghefnogi i ac yn gadael i mi fynd pryd bynnag y bydd angen i mi fynd i chwarae pêl-droed. Mae'r cwrs yn mynd law yn llaw â'm hyfforddiant pêl-droed. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac rydw i'n mwynhau hyd yn hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae ceisiadau yn agor ym mis Tachwedd ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024.