Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

O Weithio ar Longau Pleser Mawr i Ennill Gwobr Prentis y Flwyddyn ym maes Tyrbinau Gwynt

Yn ddiweddar, cafodd cyn brif stiward ar long bleser sydd hefyd yn ddiffoddwr tân rhan-amser, ei gwobrwyo am ei hymroddiad a'i waith caled ym maes tyrbinau gwynt pan enillodd wobr IMechE (Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol) i'r Prentis a oedd wedi Gwella Fwyaf (Gogledd Cymru a Glannau Merswy).

Mae Natalie Eddleston o Gyffordd Llandudno ar ail flwyddyn prentisiaeth RWE yn y Ganolfan Hyfforddi arbenigol gyntaf o'i bath ym maes tyrbinau gwynt ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, fis Rhagfyr 2012.

Cafodd y wobr hon, sy'n uchelgais i lawer, ei chyflwyno i Natalie gan gynrychiolydd IMechE, Gareth Cemlyn Jones, mewn seremoni yn y ganolfan ynni adnewyddadwy, o flaen ei chyd-fyfyrwyr a'i thiwtoriaid. Mae IMechE yn un o dri chorff proffesiynol a geir yn y Deyrnas Unedig i beirianwyr.

Dechreuodd Natalie ar y brentisiaeth tair blynedd o hyd yng Ngholeg Llandrillo fis Medi 2020. Ers hynny, mae wedi ennill cyfuniad o gymwysterau academaidd ac ymarferol a gynlluniwyd i'w pharatoi i fod yn dechnegydd ym maes tyrbinau gwynt, yn ogystal â chwblhau hyfforddiant i fod yn ddiffoddwr tân yn ei hamser ei hun!

Dywedodd Natalie, sydd wrth ei bodd yn gyrru beiciau modur: "Rydw i ar ben fy nigon 'mod i wedi derbyn y wobr hon gan sefydliad fel IMechE, sydd mor uchel ei barch. Rydw i wedi gwirioneddol fwynhau fy hyfforddiant yng Ngholeg Llandrillo ac yn edrych ymlaen am fynd ar y môr yn yr wythnosau nesaf. Byddaf yn gweithio o ddociau Mostyn, gan rannu fy amser rhwng gwastadeddau'r Rhyl a'r fferm wynt, Gwynt-y-Môr."

Cyn dilyn y brentisiaeth, am sawl blwyddyn bu Natalie'n gweithio ym maes lletygarwch ar longau pleser mawr ledled y byd, gan gael ei dyrchafu'n brif stiward. Ond, roedd ganddi fwy o ddiddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd ar y dec, yn enwedig yr agweddau peirianegol.

Bu’n gweithio yn Singapore, y Caribî, Môr y Canoldir, y Maldives a'r Dwyrain Canol. Pan orffennodd, dechreuodd sylweddoli bod gyrfa yn y diwydiant ynni adnewyddadwy'n yrfa am oes, felly gosododd nod iddi hi ei hun o gael prentisiaeth.

Dywedodd Gareth Cemlyn: "Mae Grŵp Llandrillo Menai'n gwneud gwaith arloesol yn y diwydiant drwy ddatblygu gweithwyr sydd â'r sgiliau sydd eu hangen ar sector sy'n ehangu'n barhaus. Rydyn ni'n dymuno'r gorau i Natalie ac rwy'n siŵr y caiff yrfa lwyddiannus."

Dywedodd Phil Hughes, cydlynydd prentisiaethau ym maes Tyrbinau Gwynt yng Ngrŵp Llandrillo Menai: "Daeth Natalie i Landrillo gyda’r nod o wireddu ei huchelgais o weithio ym maes peirianneg adnewyddadwy. Ar ôl gweithio yn y sector lletygarwch am sawl blwyddyn, roedd hon yn her enfawr. Talodd ei gwaith caled ar ei ganfed pan lwyddodd i gael prentisiaeth RWA, gan guro cannoedd o ymgeiswyr.

"A hithau bellach ar ail flwyddyn ei phrentisiaeth, mae'n dal i wneud ei gorau glas, gan ddysgu rhagor am beirianneg. Rydw i'n falch iawn fod Natalie, drwy ennill y wobr hon, wedi cael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled a wnaeth yn ystod ei phrentisiaeth. Dymunaf y gorau iddi yn ei gyrfa newydd.

"O ran y coleg, yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf rydym wedi hyfforddi dwsinau o bobl ifanc ar gyfer y diwydiant."

Dywedodd pennaeth Natalie, sef rheolwr prentisiaethau RWE, Craig O'Malley: "Rydw i wrth fy modd dros Natalie. Pan wnes i ei chyfweld, mi wnaeth fy ysbrydoli, ac mae'n dal i fy ysbrydoli hyd heddiw. Mae hyn yn adlewyrchu cymeriad Natalie ei hun, ac ansawdd yr addysgu yng Ngholeg Llandrillo. Dim ond un ydi hi o griw da. Yn fy marn i, bydd pob un o'r criw yn dechnegwyr rhagorol ym maes tyrbinau gwynt."

I gael rhagor o wybodaeth am y Prentisiaethau ym maes Tyrbinau Gwynt a gynigir yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk