Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant Myfyrwyr yng Ngwobrau Dylunio Paris

Mae myfyrwyr o adran Celf a Dylunio Coleg Llandrillo yn dathlu eu llwyddiant oddi cartref, ar ôl iddynt ennill categori yng Ngwobrau Dylunio DNA Paris 2021!

Cynhaliwyd y seremoni ym Mharis yr wythnos hon ac fe gyflwynwyd y wobr fawreddog i fyfyrwyr lefel A Coleg Llandrillo am eu gwaith dylunio graffig ardderchog.

Llwyddodd Myfyrwyr cyrsiau Lefel A ac As o'r adran Celfyddydau Creadigol ar gampysau Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl i ennill y categori myfyrwyr 'Dylunio Graffig/Dylunio ym maes Cyfathrebu' am eu blwyddlyfr cyfathrebu graffig.

Mae blwyddlyfr y llynedd yn cynnwys gwaith gan 24 o fyfyrwyr Coleg Llandrillo. Cyhoeddwyd yr enillwyr yn ystod mis Mai 2021 ac fe gynhaliwyd y seremoni wobrwyo chwe mis yn ddiweddarach.

Craffodd y beirniaid ar ddyluniadau blaengar a chynhyrchion arloesol o bob cwr o'r byd yn cystadlu am y prif wobrau.
Mae'r gystadleuaeth hon erbyn hyn yn un o brif seremonïau dylunio Ewrop.

Mae Cystadleuaeth Gwobrau Dylunio DNA Paris yn gwobrwyo dyluniadau ym meysydd pensaernïaeth, dylunio mewnol, dylunio tirlun, dylunio graffig a dylunio cynnyrch ac yn gwobrwyo dylunwyr gorau'r byd.

Fe wnaeth y myfyrwyr o Goleg Llandrillo ddefnyddio eu sgiliau digidol i gynhyrchu'r blwyddlyfr gan ddefnyddio meddalwedd Adobe Photoshop ar gyfrifiaduron iMac. Tynnwyd delweddau ar sganwyr a chamerâu digidol, ac fe grëwyd delweddau digidol yn uniongyrchol i sgrin y cyfrifiadur gyda thabledi dylunio.

Mae hanes llewyrchus yn y byd cystadlu i brosiectau graffig digidol diwedd blwyddyn myfyrwyr celf y coleg. Mae blwyddlyfrau'r gorffennol wedi cipio gwobrau aur, arian ac efydd yng Ngwobrau Dylunio Rhyngwladol IDA yng Nghaliffornia dros gyfnod o bum mlynedd yn unig!

Ychwanegodd Dewi Hughes, tiwtor Coleg, sydd hefyd yn Gymrawd yng Nghymdeithas Siartredig Dylunwyr ac sydd â deugain mlynedd o brofiad ym maes dylunio graffig fasnachol a'r byd addysg: "A hwythau ar fin mynd i brifysgol neu i fyd gwaith, mae arddangos eu creadigrwydd ar lwyfan byd-eang yn brofiad rhagorol i'n myfyrwyr."

"Hoffwn longyfarch pob aelod o dîm y myfyrwyr am eu prosiect ysbrydoledig. Mae'r wobr wedi cadarnhau'r gydnabyddiaeth ryngwladol o'r ddarpariaeth a'r dysgwyr Celfyddydau Creadigol yma yng Ngholeg Llandrillo."

Bydd myfyrwyr eleni yn cyflwyno darn ar gyfer cystadleuaeth Gwobrau Dylunio Paris 2022 yn ystod mis Ebrill.

Ychwanegodd Paul Flanagan, y pennaeth cynorthwyol: "Hoffwn longyfarch yr holl dîm o fyfyrwyr ac wrth gwrs y myfyrwyr am eu llwyddiant ysgubol yn y gystadleuaeth. Mae Coleg Llandrillo yn falch iawn o'r cyfleusterau ardderchog, ei enw da a staff a dysgwyr hynod lwyddiannus yr adrannau Celfyddydau Creadigol. Edrychaf ymlaen at glywed rhagor o newyddion cadarnhaol am ein ceisiadau yn ystod 2022."

Mae'r ystod eang o gyrsiau'r adran Celfyddydau Creadigol yn helpu'r myfyrwyr i baratoi ar gyfer addysg prifysgol a gwaith yn y dyfodol o fewn celf a dylunio. Mae'r cyrsiau'n gam cyntaf mewn hyfforddiant fel artist neu ddylunydd proffesiynol, gyda chyfleoedd i archwilio ystod eang o bynciau celf a dylunio arbenigol.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, am gyrsiau Celfyddydau Creadigol eraill, neu unrhyw gwrs arall sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Web: www.gllm.ac.uk

Email: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk