Cyn fyfyriwr yn cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru.
Daw Dafydd Dabson yn wreiddiol o Benllyn, ac erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae o wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ers iddo fod yn yr ysgol ac wedi bod mewn sawl band.
Ei brosiectau ar hyn o bryd yw Codewalkers yn Saesneg a Derw yn Gymraeg. Mi wnaeth o gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2018 gyda'r gân "Dwi'm Yn Dy Nabod Di".
Eleni, mi fydd ei gân “Chdi sy’n mynd i wneud y byd yn well” yn cael ei pherfformio gan Bryn Hughes Williams.
Bydd y gystadleuaeth eleni yn cael ei chyflwyno gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris, ac fe fydd yn cael ei darlledu yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar 3 Mawrth ar S4C.
Dywedodd Gwenno Pritchard, darlithydd Lefel A Cerddoriaeth yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
"Da ni wrth ein boddau'n clywed am hanesion ein cyn-fyfyrwyr yn y coleg ac yn llongyfarch Dafydd ar ei gamp yn cyrraedd yr 8 olaf. Da ni'n edrych ymlaen at glywed y gân ac yn ddiolchgar i Dafydd am roi'r ardal ar y map.”
Mae modd i chi bleidleisio i Dafydd drwy ffonio’r rhif yma - 0900 951 0104
Os hoffet ti ddilyn ôl troed Dafydd yn y byd cerddoriaeth Cymraeg, clicia ar y linc isod er mwyn dysgu mwy am ein cyrsiau Lefel A.